Agenda item

Penderfyniad:

Penderfynwyd comisiynu’r Bwrdd Adfywio a’r Bwrdd Cefnogi Pobl i ystyried y canlynol -

¾  Y meysydd y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt yn nhermau'r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd yn y meysydd hynny y mae’r byrddau yn gyfrifol amdanynt, gan gadw golwg ar y cyfeiriad yr oedd y byrddau eisoes yn ei ystyried cyn i’r argyfwng godi;

¾  pa weithrediadau sydd angen eu cyflawni yn y meysydd hynny yn y tymor byr a’r tymor canolig ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet gydag argymhellion,

¾  Yn unol â Chynllun Cydraddoldeb y Cyngor ein bod yn rhoi ystyriaeth i anghenion grwpiau nodedig wrth wneud penderfyniadau yn y maes adfer.

Comisiynu’r Grŵp Rheoli i ystyried pa faterion corfforaethol sydd angen ystyriaeth yn y tymor byr a’r tymor canolig wrth i ni symud ymlaen at y “normal newydd” ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet os cyfyd yr angen am benderfyniad fel yn berthnasol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams

PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod llawer o wersi i’w dysgu yn dilyn y cyfnod hwn a heriau mawr yn parhau os yw cyfyngiadau yn parhau. Nodwyd er bod y Cyngor yn parhau i geisio dygymod ag ymateb i’r argyfwng mae angen trafod adfer yn ogystal. Pwysleisiwyd y bydd y daith yn hir ar gyfer symud ymlaen i gyfnod ‘normal’ newydd i rai adrannau ac efallai y bydd y ‘normal’ newydd yn gwbl wahanol i’r gorffennol yn dilyn dysgu gwersi yn ystod y cyfnod argyfwng.

Mynegwyd fod rhai meysydd angen eu blaenoriaethu er mwyn cael ffocws penodol fel yr economi gan fod trawiad mawr wedi bod i’r economi leol. Nodwyd y bydd y Llywodraeth yn edrych ar ffordd ymlaen ond fod angen i’r Cyngor fod yn dylanwadau ar y cynlluniau yma. Ychwanegwyd fod y Grŵp Ymateb i’r Haint rhanbarthol yn creu Grŵp Cydlynu Adferiad rhanbarthol a fydd yn cyd-gordio gwaith adfer ond pwysleisiwyd mai mater i sefydliadau unigol fyddai cymryd penderfyniadau ar yr hyn y roeddent yn dymuno ei wneud.  Nodwyd fod y Grŵp Cydlynu wedi cyfarfod wythnos diwethaf ac wedi sefydlu maes llafur ac amcanion yn ymwneud a sicrhau rhaglen adfer dros y gogledd. Mynegwyd fod angen sicrhau bod dyheadau lleol a phwysleisiwyd yn hynny o beth y bydd rôl benodol i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. .

O ran Trefniadau Gwynedd amlygwyd opsiynau gwahanol gan fynegi y buasai modd gofyn i’r byrddau rhaglen adfywio a chefnogi pobl sydd wedi bod yn edrych ar drawsffurfio gwasanaethau  i feddwl beth sydd  angen i’r Cyngor ei  wneud i’w alluogi i ddod yn ôl i’r ‘normal’ newydd. Pwysleisiwyd y bydd hyn yn gyfle i’r byrddau ganolbwyntio ar feysydd adfywio a chefnogi pobl ac yna adrodd yn ôl i’r Cabinet er mwyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd fod y cyfnod wedi bod yn heriol sydd wedi amlygu ffyrdd gwahanol o weithio. Mynegwyd ei bod yn sylfaenol fod y cyngor yn nodi beth sydd wedi ei ddysgu a beth fydd yn cael ei ddefnyddio yn y ‘normal’ newydd.

¾  Amlygwyd fod angen i’r Llywodraeth roi digon o amser i’r Cynghorau Lleol i ail agor gwasanaethau  er mwyn canolbwyntio a sicrhau diogelwch.

¾  Pwysleisiwyd fod angen blaenoriaethu cydraddoldeb gan fod heriau gwahanol i grwpiau gwahanol.

¾  Holwyd o ran y byrddau fod sôn wedi bod am greu Bwrdd Hinsawdd ond fod Covid-19 wedi ei amlygu yn y cyfnod datblygu. Nodwyd fod yn rhan o’r adfer a bod cynlluniau ar gyfer cynnal gweithdy rhithiol gydag aelodau er mwyn creu tasglu i ddechrau edrych ar y gwaith.

¾  Mynegwyd ei bod yn dda nad yw’r normal newydd wedi ei ddiffinio gan y Prif Weithredwr ac y bydd angen i’r Byrddau edrych yn bellach na'r normal newydd gan y bydd cynlluniau megis Addysg Ôl-16 angen edrych ar gynlluniau amgen yn dilyn y cyfnod Covid.

¾     Holwyd o ran materion cyfansoddiadau y bydd newidiadau mewn trefniadau pwyllgorau, nodwyd y bydd darn o waith yn edrych ar bwyllgorau yn mynd i’r grŵp busnes.         

Awdur:Dilwyn Williams

Dogfennau ategol: