Cyflwynwyd gan:Cyng. Dafydd Meurig
Penderfyniad:
I nodi
a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.
COFNODION:
Cyflwynwyd gan
Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNIAD
I nodi a derbyn y wybodaeth yn yr
adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod llawer
o gartrefi preswyl wedi cael achosion uchel o’r haint Covid-19. Pwysleisiwyd
fod yr adran wedi bod yn awyddus i fod yn agored a tryloyw ond fod canllawiau
cenedlaethol wedi rhwystro'r adran i fod mor agored am rai achosion ar
ddechrau’r cyfnod argyfwng.
Nodwyd yn ogystal ar ddechrau’r argyfwng fod
cael offer PPE wedi bod yn broblem ond bellach fod yr adran, gyda chymorth yr
Adran Tai ac Eiddo, a threfn gadarn yn ei le. O ran profi nodwyd ei bod wedi
cymryd amser i gael trefniadau yn ei lle gan fod derbyn y canlyniad wedi bod yn
broblem ar ddechrau’r argyfwng. Ychwanegwyd yn benodol wrth edrych ar gartrefi
gofal ble roedd profion preswylwyr a staff yn cael ei gwneud drwy ddwy drefn
wahanol. Bellach mae’r trefniadau yma wedi ei haddasu a pryderon yn lleihau.
Diolchwyd i staff am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod.
Ychwanegodd y Pennaeth Adran Oedolion fod
pethau’n newid yn aml ond fod Gwynedd yn un o’r Cynghorau cyntaf i nodi nifer
uchel o achosion mewn cartrefi preswyl. Pwysleisiwyd fod angen bod yn hynod
wyliadwrus o’r cyfnod i ddod. Ychwanegwyd fod niferoedd sydd yn cael ei
chyfeirio at yr adran yn prysur ddod yn ôl i’r arferol yn dilyn cwymp yn ystod
y cyfnod ble mae’r cyfyngiadau wedi bod yn eu lle. Pwysleisiwyd fod staff wedi
sicrhau fod trefniadau mewn lle i ymateb i achosion ac mae staff wedi bwrw ati
i sicrhau fod gwasanaethau yn parhau. Ategwyd ei bod wedi bod yn gyfnod hir
gyda llawer o staff heb gymryd gwyliau ac mae y bydd hyn yn effeithio ar
unigolion. Wrth gynllunio ymlaen, nododd fod llawer o wersi wedi ei dysgu mewn
cyfnod byr o amser ac y bydd angen parhau i weithio'r un modd mewn rhai
achosion.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Diolchwyd i’w gwasanaeth am ei gwaith caled yn ystod y cyfnod y benodol
y staff rheng flaen.
¾ Diolchwyd am
gyfeirio at straen ar staff gan ei fod wedi bod yn straen ar bawb o fewn y sir.
Holwyd os bydd gwaith iechyd meddwl yn cael ei uchafu. Nodwyd nad yw’r adran ar
hyn o bryd yn ymwybodol o faint y gwaith
iechyd meddwl fydd angen ei wneud ond fod y gwasanaeth yn ceisio creu
rhwydweithiau a rhoi arweiniad i bobl mewn cyfnod anodd ond maent yno gystal yn
ymwybodol o’r heriau mawr fydd o’i blaenau.
¾ Diolchwyd yn
ogystal i staff gofal yn y sector breifat gan nodi fod y cyswllt rhwng cartrefi
preswyl preifat a’r Cyngor wedi gwella yn ystod y cyfnod gyda sgyrsiau parhaus
yn digwydd a gwybodaeth gadarn yn cael ei rannu. Ychwanegwyd fod manteision
wedi amlygu o ddatblygu’r berthynas fel mwy o gefnogaeth ar gael i ymateb i’r
argyfwng.
¾ Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei diolch i’r staff o fewn yr adran, yn y sector breifat ynghyd ag adrannau eraill o fewn y Cyngor Pwysleisiwyd fod heriau mawr wedi bod ond fod llawer gyd-weithio wedi digwydd ar draws y gogledd. Amlygwyd pwysigrwydd i beidio gollwng statws y sector gofal yn dilyn yr argyfwng.
¾
Pwysleisiwyd fod angen dathlu’r llwyddiannau gan
gofio am y methiannau. Ychwanegwyd eu bod yn gobeithio y bydd pob lefel o
lywodraeth yn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.
|
Awdur:Aled Davies
Dogfennau ategol: