Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Cofnod:
Cyflwynwyd gan
Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd:
1.1 Nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r cyngor
am 2019/20.
1.2 Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn
“Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad sef:
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
0 |
Plant a Theuluoedd |
100 |
Addysg |
(96) |
Economi a chymuned |
67 |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
100 |
Amgylchedd |
(100) |
Ymgynghoriaeth
Gwynedd |
(11) |
Tai ac Eiddo |
83 |
Tîm Rheoli Corfforaethol a
Chyfreithiol |
(50) |
Cyllid |
(70) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(100) |
1.3
Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol
canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) –
·
Yr
Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £3,259k i gyfyngu
lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i
symud ymlaen i wynebu her 2020/21.
·
Yr
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £447k i
gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i 2020/21 i
£100k, i'w cynorthwyo i wynebu her 2020/21.
·
Yn unol
â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn arferol i ganiatáu i'r Adran
Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud (£70k) sef y swm uwchlaw
(£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2019/20.
·
Ar
gyllidebau Corfforaethol, defnyddio (£1,012k) o'r tanwariant net i gynorthwyo'r
adrannau sydd wedi gorwario yn 2019/20.
1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o
gronfeydd a darpariaethau penodol:
·
fel
amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau,
cynaeafu (£801k) o gronfeydd a (£24k) o ddarpariaethau gan ddefnyddio’r
cyfanswm o (£825k) i gynorthwyo’r adrannau sydd yn gorwario yn 2019/20.
·
Cyllido
gweddill y gorwariant adrannol o (£1,799k) o Gronfa Strategaeth Ariannol y
Cyngor.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn
manylu ar wariant y Cyngor yn 2019/20. Amlygwyd y meysydd ble mae gwahaniaeth
sylweddol yn dilyn yr adroddiad diwethaf ar y cyfrifon. Pwysleisiwyd fod heriau
sylweddol yn wynebu’r maes gofal a’r maes gwastraff, ynghyd â thrafferthion gan
rai adrannau i gyflawni arbedion.
Mynegwyd fod gwelliant yn y sefyllfa’r Adran
Oedolion erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, a bod hyn yn dilyn derbyn ac
ail-gyfeirio grantiau hwyr a defnydd o gyllid un-tro o £420k. Nodwyd fod cynnydd pellach yn y tueddiad gorwariant gan
yr Adran Plant a Theuluoedd, gyda £3.4miliwn o orwariant erbyn diwedd y
flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd nad yw’r sefyllfa yn un unigryw i Wynedd a'i
fod yn sefyllfa bryderus sydd i’w gweld ar draws y wlad. Ychwanegwyd fod
£2miliwn ychwanegol wedi ei ddyrannu i’r Adran Blant a Theuluoedd yn 2020/21 ar
gyfer cwrdd â’r pwysau cynyddol.
Amlygwyd fod lleihad yn y lefel gorwariant
gan yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, ond fod y maes gwastraff yn parhau i
fod yn broblemus. Nodwyd fod tanwariant gan yr Adran Amgylchedd ac yn y
penawdau Corfforaethol. Ategwyd fod digonolrwydd cronfeydd wedi ei adolygu wrth
gau’r cyfrifon a bod £825mil o adnoddau wedi ei gynaeafu. O ganlyniad, bydd
modd trosglwyddo £1.799 miliwn o’r gronfa strategaeth ariannol hefyd er mwyn
cyllido’r bwlch a mantoli sefyllfa ariannol 2019/20. Drwy wneud hyn, ategwyd,
ni fydd angen defnyddio balansau cyffredinol y
Cyngor.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd yn ystod hydref 2019 y bu bygythiad i gyllidebau yr ysgolion
erbyn 2020/21, ond diolchwyd i’r Cabinet am fod yn barod i warchod sefyllfa
ariannol ysgolion Gwynedd.
¾ Mynegwyd o ran yr Adran Oedolion bod eu sefyllfa ariannol wedi gwella yn
2019/20 o ganlyniad i grantiau hwyr, a phwysleisiwyd yr angen i’r Llywodraeth
fod yn ariannu yn gywir ac i beidio cadw'r arian yn ôl.
¾
Pwysleisiwyd
y tebygolrwydd y bydd sefyllfa ariannol ar gyfer 2020/21 yn gwbl wahanol.
Dogfennau ategol: