Agenda item

Cais i ddiwygio amodau 4 (tymor), 7 (cyflwyno a cytuno manylion podiau) a 8 (cytuno manylion storio) ynghlwm â chaniatad cynllunio C14/1218/33/LL

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

Gwrthod – rhesymau

 

1.         Byddai’r bwriad yn gyfystyr a chreu safle llety gwersylla amgen parhaol o fewn Ardal  Tirwedd Arbennig ac felly yn groes i faen prawf 1 o Bolisi TWR 3 CDLL.

 

2.         Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn gwneud dim i gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig a fod y bwriad felly yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4 ac AMG 2 CDLL.

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth aelod o’r Cyngor.

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer diwygio amodau 4 (cyfyngu tymor lleoli), 7 (cyflwyno a chytuno manylion podiau) a 8 (cytuno manylion storio) sydd ynghlwm a chaniatâd cynllunio C14/1218/33/LL. Eglurwyd bod caniatâd cynllunio C14/1218/33/LL yn rhoi caniatâd cynllunio amodol ar gyfer newid defnydd cae i greu safle carafanau teithiol ar gyfer 11 carafán deithiol a 2 ‘pod’ campio ynghyd ac adeiladu bloc toiledau. O’r wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais gerbron nodwyd y byddai cyfnod meddiannu’r podiau rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref ond fod bwriad i’r podiau yn aros ar y safle ond ddim yn cael eu gosod/meddiannu yn ystod gweddill y flwyddyn. Ni chyflwynwyd manylion y podiau, na’r safle ar gyfer eu storio yn unol â manylion amodau 7 ac 8 a roddwyd ar y caniatâd cynllunio hwnnw ym Mawrth 2015.

 

Pan roddwyd caniatâd cynllunio amodol ar gyfer y podiau dan sylw yn 2015, roedd hyn ar y ddealltwriaeth fod y podiau yn rhai symudol ac y byddai yn bosib eu symud i ac o’r safle heb unrhyw rwystr. Er gwaethaf yr amodau clir a roddwyd ar y caniatâd gwreiddiol i gytuno manylion y podiau a manylion storio ni wnaethpwyd hyn. Tynnwyd sylw hefyd at yr amod sydd yn datgan yn glir nad oes carafanau teithiol na phodiau i gael eu storio ar y safle rhwng 1 Tachwedd a 28 Chwefror y flwyddyn ganlynol.

 

Amlygwyd bod y cais yn datgan fod y podiau sydd ar y safle yn rhai a allai gael ei gwanhau neu eu difrodi wrth eu symud ar ddiwedd neu gychwyn y tymor ynghyd a'r bwriad i leoli’r podiau ar y safle trwy gydol y flwyddyn. Gan nad oes bwriad i’w symud o’r safle yn ystod misoedd y gaeaf ystyriwyd y cais o dan Bolisi TWR 3 o’r CDLl sy’n ymwneud gyda safleoedd carafanau sefydlog a siale a llety gwersylla amgen parhaol.

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored y tu allan i unrhyw ffin datblygu a gydnabyddir yn y cynllun datblygu mabwysiedig, ac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig.  Mae hefyd wedi ei leoli oddi fewn i Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Oherwydd ei leoliad o fewn Ardal Tirwedd Arbennig, mae Polisi TWR 3 o’r CDLl yn datgan y gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd llety gwersylla amgen parhaol newydd oddi fewn ardaloedd o’r fath. Ni ystyriwyd y byddai caniatáu safle podiau parhaol ar y safle yma yn gymorth i gynnal, gwella nag adfer cymeriad yr Ardal Tirwedd Arbennig. Er bod y podiau dan sylw wedi eu lleoli ger adeiladau presennol byddai datblygiad parhaol o’r natur hwn yn debygol o achosi niwed i ansawdd gweledol y dirwedd ac ystyriwyd fod y bwriad felly yn groes i ofynion Bolisi PCYFF 4 a Pholisi AMG 2 o’r CDLL.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Byddai caniatáu y cais yn gosod cynsail peryg

·         Byddai caniatáu yn annheg i ymgeiswyr sydd eisoes wedi cael eu gwrthod

·         Derbyn bod costau i symud y podiau, ond gydag amod ar y cais cyn gosod y podiau debyg bod yr elfen cost wedi ei ystyried

·         Bod amodau 2015 yn nodi’n glir bod y podiau o fath symudol ac i’w tynnu yn ystod y gaeaf

·         Bod amodau yn cael eu gosod am reswm

·         Bod angen cydymffurfio gyda’r amodau

 

·         Bod dau pod pren eisoes yn eu lle ac yn edrych yn daclus

·         Nad oedd gwrthwynebiad yn lleol i’r cais

·         Byddai symud y podiau yn gostau ychwanegol

·         Na fyddai’r bwriad yn cael effaith ehangach ar y dirwedd hanesyddol ac felly yn dderbyniol o safbwynt AT1o’r CDLl

·         Nad oedd y bwriad yn debygol o achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol ac yn dderbyniol o agwedd Polisi PCYFF2 CDLl

 

ch)    Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd er ar y wyneb bod y cais yn ymddangos yn un diniwed, byddai caniatáu yn gosod cynsail beryg ac yn tanseilio polisïau Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais

 

1.            Byddai’r bwriad yn gyfystyr a chreu safle llety gwersylla amgen parhaol o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ac felly yn groes i faen prawf 1 o Bolisi TWR 3 CDLL.

 

2.            Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn gwneud dim i gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig a bod y bwriad felly yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4 ac AMG 2 CDLL.

 

Dogfennau ategol: