Agenda item

Gwaith peirianyddol er mwyn gwella caeau chwarae presennol gan ddefnyddio pridd o safle gyfochrog Ysgol Y Garnedd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;

 

           Cychwyn y datblygiad o fewn 5 mlynedd

           Rhybudd 14 diwrnod o gychwyn a gorffen y gwaith

           Gosod pridd yn unol â chanllawiau adfer Llywodraeth Cymru yn MTAN1: Agregau 

           Darpariaeth ôl-ofal am gyfnod o 5 mlynedd wedi hadu’r safle i gynnwys darpariaeth ar gyfer  casglu cerrig, dadansoddiad cemegol, draeniad y tir, amseriad y gwaith ac unrhyw waith adferol,

           Cydymffurfio gyda chynlluniau a manylion y cais,

           Ni chaniateir defnyddio unrhyw offer ar y safle oni bai bod systemau atal llwch digonol ar eu cyfer wedi ei osod i atal llwch rhag cael ei ollwng.

           Oriau gweithredu rhwng 08.00 - 18.00, dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar y Sadwrn a dim gweithio ar y Sul neu wyliau Banc,

           Rhaid gohirio unrhyw waith ar y safle a hysbysu’r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar unwaith, pe deuir ar draws unrhyw achlysur o gyflwr daear anarferol yn ystod datblygiad,

           Oriau gweithredu’r offer didoli gwastraff rhwng 08.00 - 18.00, dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar y Sadwrn a dim gweithio ar y Sul neu wyliau Banc,

           Nodyn i’r Ymgeisydd i gynnwys sylwadau Uned Ddwr ac Amgylchedd ar y cais, i gynghori’r datblygwr i gysylltu â hwy yn sgil yr angen am Ganiatâd Cwrs Dwr Arferol ar gyfer unrhyw waith a allai effeithio ar lif cwrs dŵr yn barhaol neu dros dro,

           Nodyn i’r ymgeisydd fod y cais wedi’i asesu’n unol â saith nod cynaliadwyedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

           Sicrhau fod rhaid i'r oll goed sydd wedi'u amgáu o fewn y Parth Eithrio Adeiladu gael eu gwarchod rhag gweithrediadau adeiladu trwy gydol y datblygiad yn unol â BS5837: 2012 ac o dan oruchwyliaeth arbenigwr coed y prosiect.

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr - tynnwyd sylw at yr amod coed ychwanegol.

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y cais yn un ar gyfer creu dau lecyn chwarae gwastad ar dir Ysgol Friars gan ddefnyddio deunyddiau pridd sy’n deillio o brosiect adeiladu Ysgol Y Garnedd.  Fel rhan o'r datblygiad ac i wneud yn iawn am golli ardal chwarae, y bwriad yw gwella rhan o gae chwaraeon Ysgol Friars drwy godi lefel y tir a chreu dau lwyfandir gwastad gyda darpariaeth draeniad tir ychwanegol.

 

Eglurwyd bod yr Asesiad Cynllunio Gwastraff sydd wedi’i gyflwyno gyda’r cais yn cadarnhau fod y gwaith o greu’r llwyfandir cyntaf wedi cychwyn yr un pryd â gwaith paratoi prosiect Ysgol Y Garnedd, rhwng Ebrill a Mai 2019. Rhagwelir byddai’r gwaith sydd yn weddill i greu’r ail lwyfandir a gosod yr uwchbridd dros y cyfan o’r safle yn cael ei gwblhau cyn diwedd Mai 2020.

 

Mae’r cyfan o’r uwchbridd wedi’i bentyrru eisoes at ffin ogleddol y safle a bwriedir symud gweddill o’r deunyddiau o Ysgol y Garnedd yn syth i faes chwarae Friars heb ei gludo ar y briffordd gyhoeddus. Er bod sylwadau cychwynnol Gwasanaeth Trafnidiaeth Cyngor Gwynedd yn awgrymu cytundeb traffig anghyffredin, amlygwyd eu bod  bellach ar ddeall na fydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar unrhyw ffordd, neu ffordd arfaethedig gan i’r cyfan o’r deunydd ar gyfer y prosiect gael ei leoli ar yr un daliad tir a safle’r cais. Yr unig argymhelliad yw cynnwys amod priodol i gyfyngu oriau’r gweithgareddau cludo fel nad ydynt yn gwrthdaro gydag oriau agor a chau’r ysgol  - amlygwyd bod yr  ymgeisydd eisoes wedi cynnig gweithio o fewn yr oriau sydd wedi’u gosod o dan amod Cynllunio ar ddatblygiad Ysgol Y Garnedd. Nodwyd nad oedd tystiolaeth y bydd yr hynny o waith sydd yn weddill ar y safle’n peri niwed i drigolion yr ardal na chwaith i ddefnyddwyr y llwybr cyhoeddus cyfagos

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Y gwaith angen ei weithredu

·         Rhestr helaeth o amodau felly angen sicrhau bod y datblygwr yn cadw atynt

 

ch)  Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nodyn ‘ni dderbyniwyd ymateb’ yn ystod yr   ymgynghoriad cyhoeddus, nodwyd bod hyn yn golygu nad oedd unrhyw lythyr wedi ei dderbyn  - yn gwrthwynebu nac ychwaith yn cefnogi.

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;

 

·        Cychwyn y datblygiad o fewn 5 mlynedd

·        Rhybudd 14 diwrnod o gychwyn a gorffen y gwaith

·        Gosod pridd yn unol â chanllawiau adfer Llywodraeth Cymru yn MTAN1: Agregau 

·        Darpariaeth ôl-ofal am gyfnod o 5 mlynedd wedi hadu’r safle i gynnwys darpariaeth ar gyfer  casglu cerrig, dadansoddiad cemegol, draeniad y tir, amseriad y gwaith ac unrhyw waith adferol,

·        Cydymffurfio gyda chynlluniau a manylion y cais,

·        Ni chaniateir defnyddio unrhyw offer ar y safle oni bai bod systemau atal llwch digonol ar eu cyfer wedi ei osod i atal llwch rhag cael ei ollwng.

·        Oriau gweithredu rhwng 08.00 - 18.00, dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar y Sadwrn a dim gweithio ar y Sul neu wyliau Banc,

·        Rhaid gohirio unrhyw waith ar y safle a hysbysu’r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar unwaith, pe deuir ar draws unrhyw achlysur o gyflwr daear anarferol yn ystod datblygiad,

·        Oriau gweithredu’r offer didoli gwastraff rhwng 08.00 - 18.00, dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar y Sadwrn a dim gweithio ar y Sul neu wyliau Banc,

·        Nodyn i’r Ymgeisydd i gynnwys sylwadau Uned Ddŵr ac Amgylchedd ar y cais, i gynghori’r datblygwr i gysylltu â hwy yn sgil yr angen am Ganiatâd Cwrs Dwr Arferol ar gyfer unrhyw waith a allai effeithio ar lif cwrs dŵr yn barhaol neu dros dro,

·        Nodyn i’r ymgeisydd fod y cais wedi’i asesu’n unol â saith nod cynaliadwyedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

·        Sicrhau fod rhaid i'r oll goed sydd wedi'u hamgáu o fewn y Parth Eithrio Adeiladu cael eu gwarchod rhag gweithrediadau adeiladu trwy gydol y datblygiad yn unol â BS5837: 2012 ac o dan oruchwyliaeth arbenigwr coed y prosiect.

 

Dogfennau ategol: