Cais ar gyfer codi estyniad deulawr blaen a cefn ac ychwanegu ffenestri
yn y to (dyluniad diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan cais C19/1135/11/LL)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl
i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig
i'r amodau isod:
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol gyda
chynlluniau.
3. Dŵr Cymru.
4. Llechi.
5. Deunyddiau.
6. Diddymu hawliau Datblygiad Caniataëdig Cyffredinol ar gyfer unrhyw
ffenestri/ffenestri gromen newydd.
7. Rhaid i’r modurdy / lleoedd parcio ceir fod ar gael ar gyfer parcio cerbydau modur bob amser.
COFNODION:
Aelod Lleol wedi galw’r cais i’r
Pwyllgor
a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais diwygiedig
ydoedd i'r hyn a wrthodwyd o dan gais cynllunio
cyfeirnod C19/1135/11/LL ar
gyfer creu ystafell wely ychwanegol
o fewn gwagle'r to drwy godi estyniad
ffenestr gromen. Bwriedir codi estyniad uwchben
y modurdy presennol ar du blaen yr
eiddo, a chodi estyniad unllawr i gefn yr
eiddo. Mae’r safle yn cael
ei wasanaethu gan fynedfa ddwbl
oddi ar ffordd
sirol ddi-ddosbarth cyfagos (Bryn Eithinog) gyda llecynnau parcio ar gyfer
o leiaf 3 cerbyd o fewn y cwrtil blaen.
Ystyriwyd fod
yr estyniadau yn dderbyniol ar
sail eu graddfa, gosodiad a dyluniad ac na fyddent
yn arwain at greu strwythurau anghydnaws yn y rhan yma o'r
strydlun. Adroddwyd bod nifer o estyniadau amrywiol eraill o amgylch y safle.
Ystyriwyd fod y bwriad yn
cydymffurfio gyda gofynion meini prawf polisi PCYFF 3 o'r CDLl. Nid oes unrhyw ffenestri
ychwanegol yn cael eu gosod
yn ochr yr
estyniad blaen ac yn yr estyniad
cefn, bydd ffenestri yn cael
eu gosod ar y llawr daear
gyda dwy ffenestr ar y llawr
cyntaf yn cael eu colli. Oherwydd y pellteroedd rhwng yr agoriadau bwriedig
a’u gosodiad o’u cymharu gydag
eiddo preswyl eraill ni
ystyriwyd y bydd unrhyw or-edrych na cholli preifatrwydd
annerbyniol yn digwydd i breswylwyr
cyfagos.
Amlygwyd fel rhan o’r
cais, yr unig newidiadau i’r hyn a ganiatawyd
eisoes ac sydd angen caniatâd cynllunio ffurfiol yw lleihau uchder
yr estyniad cefn. O ganlyniad i hyn, mae’r
bwriad yn golygu creu estyniad
cefn sy’n llai swmpus ac uchder ac sydd felly yn welliant o safbwynt
ei effaith weledol ar y strydlun.
Tynnwyd sylw
at y gwagle yn y to sydd yn addas
ar gyfer 5ed ystafell wely. Pwysleisiwyd nad
oedd angen caniatâd cynllunio i drosi’r atig
i stafell wely.
Adroddwyd bod
Cyngor Dinas Bangor wedi datgan pryder
y byddai’r bwriad yn cael effaith
ar ddiogelwch y ffordd gyhoeddus sydd yn arwain
at ysgolion yn yr ardal ac sydd
yn boblogaidd gyda cherddwyr. Byddai mwy o geir
ar y safle / tu allan
i’r safle yn rhoi pwysau
ychwanegol ar isadeiledd yr ardal.
Fel rhan o’r cais
fe ymgynghorwyd
gyda’r Uned Drafnidiaeth. Nodwyd na
fyddai'r bwriad yn cael effaith
andwyol ar safonau parcio na diogelwch ffyrdd
cyhoeddus. Mae'r eiddo presennol
yn cydymffurfio gyda'r gofynion parcio arferol ar gyfer tai
gyda 4 ystafell wely neu fwy
drwy ddarparu 2 llecyn parcio a modurdy.
Wrth ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a’r hanes cynllunio cysylltiedig, ystyriwyd y cais yn dderbyniol
ar sail egwyddor, dyluniad, graddfa, deunyddiau ffurf adeiladu leol, gosodiad, materion priffyrdd a mwynderau preswyl a’i fod
yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
a chanllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol.
b) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol:-
·
Pryder gyda datblygiad llofft
ychwanegol y bydd mwy o geir ar y safle
·
Y safle
wedi gwneud nifer o geisiadau i gael tŷ
mwy
·
Y tŷ
yn gweithredu fel tŷ amlfeddiannaeth
ac yn destun ymchwiliad gorfodaeth.
·
Fel tŷ amlfeddiannaeth,
pryder y bydd 5 ystafell wely dwbl yn golygu y
gellid cael 10 person yn y tŷ a nifer o geir
·
Nid yw'r estyniad
ar gyfer cartref i deulu
·
Lonydd stad preifat o gwmpas y
safle, ond yn brysur o ran trafnidiaeth a cherddwyr
·
Cais i’r Pwyllgor wrthod y
cais a chynnal ymweliad safle pan yn gyfleus
c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais yn
groes i’r argymhelliad ar y rheswm bod y cais yn orddatblygiad o’r safle
ch) Mewn ymateb i sylw’r
Aelod Lleol fod y tŷ yn
gweithredu fel tŷ amlfeddiannaeth, adroddwyd bod cadarnhad wedi ei dderbyn
bod yr uned wedi derbyn trwydded
briodol i weithredu fel tŷ
amlfeddiannaeth ers 2011 ac
fod y drwydded yn parhau i
fod mewn lle.
Ategwyd
y byddai gwrthod y cais yn risg
sylweddol a chostus o ystyried bod caniatádau tebyg wedi ei
roi ar safleoedd
cyfagos ac fod caniatad eisoes yn ei le ar
yr eiddo yma sy’n caniatau
estyniad mwy na’r hyn sy’n
destun y cais gerbron. Pe
bai’r Pwyllgor yn gwrthod y cais
byddai perygl fod y Pwyllgor yn cael eu
barnu o fod yn afresymol. Gofynnwyd
i’r aelodau ystyried y dystiolaeth gerbron yn ofalus.
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Cydymdeimlo
gyda’r elfen tŷ amlfeddiannaeth
·
Byddai
gwrthod, ar tebygolrwydd y byddai’r ymgeisydd yn ennill
apêl yn rhoi
hawl iddo adeiladu estyniadau mwy ac o bosib 6ed ystafell wely
·
Bod y cynllun yma yn caniatáu rheolaeth o faint
y safle
·
Bod y cais yn dderbyniol yng
nghyd-destun polisïau a rheolau cynllunio
·
Angen
sicrhau bod y 5ed llofft yn yr atig
yn gymwys â rheoliadau tan
·
Angen
sicrhau bod digon o lefydd i’r biniau
ailgylchu
·
Bod modd ymestyn
y llain galed o flaen y tŷ er mwyn creu
mwy o le parcio
·
Awgrym gosod amod bod rhaid parcio ar y safle
·
Tai cyfagos gydag estyniadau sylweddol felly
anodd gwrthod
·
Bod y cynlluniau yn welliant i’r
cais blaenorol
·
Awgrym i dynnu’r gwrych fel bod modd gwella gweladwyedd
·
Tai amlfeddiannaeth wedi distrywio cymeriad Bangor ac yn creu problemau i bobl leol
dd)
Mewn ymateb i’r sylwadau am dorri
gwrych amlygwyd na fyddai modd
rhoi amod penodol oni bai
bod hwn yn gais i bawb
yn yr ardal
dorri ei gwrychoedd. Awgrymwyd y gellid gofyn yn
garedig i’r ymgeisydd weithredu ar hyn. Yng
nghyd-destun nifer mannau parcio, nodwyd bod 3 lle parcio yn cwrdd gyda gofynion yr Adran Priffyrdd.
e)
Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod y cais –
disgynnodd y cynnig
f)
Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig
i'r amodau isod:
1.
5
mlynedd.
2.
Yn
unol gyda chynlluniau.
3.
Dŵr
Cymru.
4.
Llechi.
5.
Deunyddiau.
6.
Diddymu hawliau
Datblygiad Caniataëdig Cyffredinol ar gyfer unrhyw ffenestri/ffenestri gromen newydd.
7.
Rhaid
i’r modurdy / lleoedd parcio ceir fod ar gael ar gyfer parcio cerbydau modur
bob amser.
Dogfennau ategol: