I ystyried cais Mr A
(copi arwahan i Aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio
cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor
wrthod y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y collfarnau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.
Eglurodd darpar gyflogwr yr ymgeisydd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS
yn rhai hanesyddol ac wedi digwydd pan roedd Mr A yn mynd drwy gyfnod anodd yn
ei arddegau. Ategodd ei fod yn ymwybodol o’i gefndir ac wedi trafod a chael
geirda gan gyflogwyr eraill yr ymgeisydd, ei fod yn barod i roi cyfle iddo.
b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen
gais yr ymgeisydd
·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
·
sylwadau
ar lafar gan yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr
ch) Rhoddwyd
ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Yn Ebrill 1999
cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Tameside ar dri cyhuddiad: cymryd
cerbyd heb ganiatâd (yn groes i a12 (1) Deddf Lladrata 1968); gyrru’n groes i
amodau trwydded gyrru (yn groes i a87 (1) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988) a
defnyddio cerbyd heb yswiriant (yn groes i a143 (2) Deddf Traffig y Ffyrdd
1988). Derbyniodd ryddhad amodol am 12 mis, ardystiad 7 pwynt ar ei drwydded a
gorchymyn i dalu £55.00 o gostau.
Yn Mai 2001 cafwyd
yn euog gan Lys Ynadon yr Wyddgrug ar gyhuddiad o ddinistrio neu ddifrodi eiddo
(yn groes i a1 (1) Deddf Difrod Troseddol 1971). Derbyniodd ddirwy o £50.00,
gorchymyn i dalu costau o £40.00 ac iawndal o £ 50.00.
Yn Chwefror 2003
cafwyd yn euog gan Lys Ynadon Conwy ar ddau gyhuddiad o ddefnyddio cerbyd heb
yswiriant (yn groes i a143 (2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988) a gyrru yn ystod
cyfnod gwaharddiad (yn groes i a103 (1) (B) Traffig Ffyrdd 1988). Derbyniodd
orchymyn cost cymuned o 120 awr, dirwy o £50.00, gorchymyn i dalu costau o
£30.00 ac ardystiad 6 phwynt ar ei drwydded.
Yn Awst 2003
cafwyd yn euog gan Lys Ynadon Sir Ddinbych ar ddau gyhuddiad o ddefnyddio
cerbyd heb yswiriant (yn groes i a143 (2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988) a gyrru yn
ystod cyfnod gwaharddiad (yn groes i a103 (1) (B) Traffig Ffyrdd 1988).
Derbyniodd orchymyn adfer cymunedol am 18 mis, gorchymyn cosb cymuned am 100
awr, ei wahardd rhag gyrru hyd nes bod prawf estynedig yn cael ei basio a
gorchymyn i dalu costau o £35.00. Diddymwyd y gorchymyn yn Medi 2004 oherwydd
cynnydd da.
Yn Ionawr 2005
cafwyd yn euog gan Lys Ynadon Conwy ar dri chyhuddiad o fod yn gyrru yn ystod
cyfnod gwaharddiad (yn groes i a103 (1) (B) Deddf Traffig Ffyrdd 1988),
defnyddio cerbyd heb yswiriant (yn groes i a143 (2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988)
a meddu ar arf bygythiol mewn man cyhoeddus (yn groes i a1 Deddf Atal Troseddu
1953). Derbyniodd orchymyn adfer cymunedol am 2 flynedd, gorchymyn cosb cymuned
am 100 awr, gorchymyn hwyrgloch am 6 mis, gorchymyn i dalu costau o £55.00 a
gwaharddiad rhag gyrru hyd nes bod prawf estynedig yn cael ei basio. Am feddu
arf bygythiol derbyniodd orchymyn adfer cymunedol am 2 flynedd, gorchymyn cosb
cymuned am 100 awr, gwaredu’r ffon hoci a gorchymyn hwyrgloch am 6 mis.
Yn Chwefror 2005
cafwyd yn euog gan Lys Ynadon Conwy ar ddau gyhuddiad o ddefnyddio cerbyd heb yswiriant (yn groes i
a143 (2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988) a gyrru yn ystod cyfnod gwaharddiad (yn
groes i a103 (1) (B) Traffig Ffyrdd 1988). Cafodd ei garcharu am 6 wythnos ac
ardystiwyd ei drwydded yrru gyda 6 phwynt.
Yn Awst 2005
cafwyd yn euog gan Lys Ynadon Tameside ar bedwar cyhuddiad (2 achlysur unigol)
- 2 gyhuddiad o fod yn gyrru yn ystod cyfnod gwaharddiad (yn groes i a103 (1)
(B) Deddf Traffig Ffyrdd 1988) a 2 gyhuddiad o ddefnyddio cerbyd heb yswiriant
(yn groes i a143 (2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988). Derbyniodd ddedfryd ohiriedig
o 5 mis o garchar ac ardystiwyd ei drwydded yrru. Ar gyfer gyrru mewn cyfnod
gwaharddiad derbyniodd 5 mis o garchar pellach, wedi'i ohirio am 18 mis. Cafodd
hefyd orchymyn goruchwylio am 12 mis, ei wahardd rhag gyrru am 2 flynedd ac
ardystiwyd ei drwydded gyrru.
Yn Medi 2008
cafwyd yn euog gan Lys Ynadon Gwynedd ar dri chyhuddiad o fod yn gyrru yn ystod cyfnod gwaharddiad
(yn groes i a103 (1) (B) Deddf Traffig Ffyrdd 1988), defnyddio cerbyd heb
dystysgrif prawf (yn groes i a47 (1) Deddf Traffig Ffyrdd 1988) a defnyddio
cerbyd heb ei yswirio (yn groes i a143 (2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988).
Derbyniodd orchymyn cymuned am 12 mis gydag amod goruchwyliaeth, gwaharddiad
rhag gyrru am 12 mis a gorchymyn i dalu costau o £60.00. Am yrru heb yswiriant
derbyniodd orchymyn cymunedol am 12 mis
(cydamserol gydag amod goruchwylio).
Yn Medi 2009
cafwyd yn euog gan Lys Ynadon Conwy ar ddau gyhuddiad o ddinistrio neu ddifrodi eiddo (yn groes i
Ddeddf Niwed Troseddol 1971) ac ymosodiad cyffredin (yn groes i adran 39 Deddf
Cyfiawnder Troseddol 1988). Derbyniodd orchymyn cymunedol am 12 mis, gorchymyn
i dalu iawndal o £329.00 a chostau o £250.00. Derbyniodd orchymyn cymunedol
pellach am 6 mis a gofyniad gweithgaredd am 12 diwrnod am yrru heb yswiriant.
Yn Rhagfyr 2010
cafwyd yn euog gan Lys Ynadon Conwy ar gyhuddiad o fethu â chydymffurfio â
gofynion gorchymyn cymunedol (yn groes i atodlen 8 Deddf Cyfiawnder Troseddol
2003). Gorchmynnwyd iddo dalu costau o £85.00, parhau gyda gorchymyn a osodwyd
yn wreiddiol yn Medi 2010 a pharhau gyda gofyniad gweithgaredd o 6 diwrnod
Yn Ionawr 2018
derbyniodd 3 phwynt cosb am un digwyddiad o oryrru.
(Cyfanswm o 10
collfarn ac 1 digwyddiad o oryrru mewn cyfnod o 19 mlynedd rhwng 1999 a 2018).
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.3 o’r Polisi yn cadarnhau bod “materion eraill i’w
hystyried” yn cynnwys rhybuddion.
Ystyriwyd paragraff 4.5
sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt
wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.0 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr
trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn rheolaidd y byddai
is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn
ymwneud a thrais. Mae paragraff 6.2 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded
yn cael ei atal neu ddirymu os oes collfarn yn erbyn yr ymgeisydd hyd nes iddo
fod yn rhydd rhag collfarn o’r fath am 3 blynedd o leiaf. Mae paragraff 6.5 o’r
Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan
yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin a difrod troseddol sydd
yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae paragraff 6.6 o’r Polisi yn nodi y
bydd cais, fel arfer yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o
natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd a hynny o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf.
Ystyriwyd paragraff 8.0
o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi
y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae
paragraff 8.2 yn nodi bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os bydd gan yr
ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai na 3 blynedd
cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill,
mynd a cherbyd heb ganiatâd.
Mae rhan 12 o’r Polisi
yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda paragraff 12.2 yn rhestru troseddau traffig
difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y troseddau mae BA10 (gyrru yn ystod
gwaharddiad dan orchymyn y Llys) a IN10 (defnyddio cerbyd sydd heb ei yswirio).
Mae paragraff 12.3 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os oes collfarn yn
erbyn yr ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf.
Mae paragraff 12.4 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os yw’r ymgeisydd wedi
cyflawni mwy nag un trosedd traffig difrifol o fewn y 5 mlynedd ddiwethaf ac na
ddylid ystyried unrhyw gais pellach hyd nes bod cyfnod o 3 blynedd oleiaf wedi
mynd heibio yn rhydd o gollfarn. Mae paragraffau 12.6 i 12.11 yn delio â
gwaharddiadau gyrru gyda pharagraff 12.10 yn benodol yn nodi na fydd cais fel
rheol yn cael ei ganiatáu i berson sydd wedi'i wahardd am gyfnod o 12 mis neu
fwy, oni bai bod cyfnod o 18 mis oleiaf wedi mynd heibio ers diwedd y
gwaharddiad.
Mae rhan 13 yn ymwneud
a mân droseddau traffig ac fe ystyriwyd paragraff 13.3 sydd yn amlygu gall un gollfarn
am fan drosedd traffig awrain at wrthod y cais yn enwedig os oes sawl collfarn
i’w hysytired ar gyfer un drosedd.
Mae
paragraff 16.1 o’r Polisi yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau
bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn
creu hanes o ail-droseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac
eiddo. O dan y Polisi rhaid bod 10
mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.
Mae
rhan 17 o’r Polisi yn ymwneud â thorri deddf, is-ddeddf neu amod trwydded.
Nodir ei fod yn annhebygol y rhoddir trwydded i ymgeisydd â ganddo gollfarn neu
fater arall i’w ystyried yn gysylltiedig â thorri deddf, oni bai bod cyfnod o
12 mis wedi mynd heibio ers yr achos mwyaf diweddar.
d)
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod
collfarn 1999 yn drosedd o anonestrwydd, fodd bynnag,
gan
fod y gollfarn wedi digwydd dros 21 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt i’r cyfnod 3
blynedd), nid oedd paragraff 8.2 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y
cais, er y gallai mewn cyfuniad a chollfarnau eraill, gael ei ystyried o dan
baragraff 16.1.
Daeth
yr Is-bwyllgor i gasgliad fod collfarn Mai 2001, Ionawr 2005 (meddu ar arf) a
Medi 2009 i gyd yn droseddau o drais. Fodd bynnag, ers i'r gollfarn ddiweddaraf
ddigwydd dros 10 mlynedd yn ôl, (sydd tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), nid oedd
paragraff 6.5 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais, er y gallai,
mewn cyfuniad a chollfarnau eraill, gael ei ystyried o dan baragraff 16.1.
Gan
nad oedd gwybodaeth collfarn Rhagfyr 2010 â pherthnasedd i faes penodol o fewn
y Polisi, ystyriwyd darpariaethau rhan 17. Gan fod cyfnod o oleiaf 12 mis ers y
gollfarn, nid oedd yn sail i wrthod y cais ond eto, mewn cyfuniad a chollfarnau
eraill, gallai gael ei ysytired o dan paragraff 16.1.
Yng
nghyd-destun y collfarnau eraill daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad bod y
collfarnau yn ymwneud â throseddau traffig difrifol. Fodd bynnag, ers i’r
gollfarn ddiweddaraf ddigwydd dros 11 mlynedd yn ôl, roedd yr Is-bwyllgor o'r
farn na ddylai’r collfarnau hyn fod yn sail i wrthod o dan baragraff 12.4, ond
eto, mewn cyfuniad a chollfarnau eraill, gallai gael ei ysytired o dan
paragraff 16.1. Nodwyd bod sawl achos o waharddiadau rhag gyrru (2003, 2005
a 2008), ond gan nad oedd gwaharddiad o fewn yr 18 mis diwethaf, nid oedd unrhyw
sail i wrthod y cais o dan paragraff 12.10.
Fodd
bynnag, roedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod yr holl gyhuddiadau gyda’i gilydd
yn gyfystyr â aildroseddu oedd yn dangos diffyg parch at les eraill neu at
eiddo. O ganlynaid ystyriwyd paragraff 16.1 o'r Polisi ac ar y sail yma yn
unig, rhagdybiwyd yr angen i wrthod y cais.
Amlygodd y
Cyfreithiwr nad yw darpariaethau'r Polisi yn
orfodol a bod modd gwyro oddi ar yr argymhellion os yw ffeithiau'r achos yn
cyfiawnhau hynny. Rhoddwyd sylw arbennig i baragraff 5.1 o’r adroddiad,
sydd yn cynnwys difrifoldeb y troseddau, perthnasedd, dyddiad y cafodd y
drosedd ei chyflawni, dyddiad y gollfarn ac oedran yr ymgeisydd ar adeg y
gollfarn, y ddedfryd a roddwyd gan y Llys ac os yw’r troseddau yn perthyn i batrwm
o droseddu, yn ogystal ag unrhyw ffactorau perthnasol eraill.
Rhoddodd yr
Is-bwyllgor sylw arbennig i drosedd goryrru 2018. Heblaw am y digwyddiad yma,
collfarn Rhagfyr 2010 fuasai’r gollfarn olaf i ymddangos gyda pharagraff 16.1
yn sail i wrthod y cais (o ychydig fisoedd yn unig). Amlygwyd bod bron i
ddegawd wedi mynd heibio ers Rhagfyr 2010 ac nad oedd yr ymgeisydd wedi cael
unrhyw gollfarnau ers hynny. Roedd digwyddiad goryrru 2018 yn fân drosedd
traffig, ac er yn destun pryder, nid oedd yn cymharu gyda lefelau difrifoldeb
troseddau traffig difrifol blaenorol roedd yr ymgeisydd yn gysylltiedig a hwy.
O dan yr amgylchiadau, barn yr Is-bwyllgor oedd bod y digwyddiad hwn, o gymharu
a’r collfarnau eraill ddim yn ymddangos ‘o fewn ysbryd paragraff 16.1’.
Ystyriwyd sylwadau
darpar gyflogwr yr ymgeisydd oedd wedi egluro bod gan yr ymgeisydd brofiad o
weithio i gwmni dosbarthu parseli a gwneud gwaith gydag achrediad SIA mewn
ysbyty leol. Ystyriwyd hyn fel arwydd bod cyflogwyr eraill wedi gweld yr
ymgeisydd fel person addas ar gyfer gwaith o'r fath. Ategwyd, yn ogystal, er
fod yr ymgeisydd wedi camymddwyn yn y gorffennol, ei fod bellach
wedi aeddfedu a bod tystiolaeth o hyn i’w weld yn y cofnod DBS.
Roedd hwn yn gais
anodd i'r Is-bwyllgor ei benderfynu ac er bod cryfderau i’r cais roedd
gwendidau iddo hefyd. Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus,
roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon gwyro oddi wrth y dybiaeth o blaid gwrthod y
cais yn yr achos yma ac o dan yr amgylchiadau penderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded
gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat. Anogwyd yr ymgeisydd i dderbyn y
cyfle i wella ei hun ymhellach.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.