Ystyried
adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Chadeirydd Bwrdd Rheoli GwE (ynghlwm)
Penderfyniad:
(a) Cefnogi'r dull a'r model rhanbarthol, gyda GwE,
Awdurdodau Lleol ac ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod
anghenion unigol dysgwyr yn cael eu diwallu mewn cyd-destun lleol unigol.
(b) Er mwyn i’r ysgolion allu paratoi a chynllunio,
gofyn am eglurder gan CBAC a Chymwysterau Cymru ynglŷn â’u cynlluniau ar
gyfer haf 2021 cyn gynted â phosib’.
COFNODION:
PENDERFYNIAD
(a) Cefnogi’r dull a’r model rhanbarthol, gyda GwE,
Awdurdodau Lleol ac ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod
anghenion unigol dysgwyr yn cael eu diwallu mewn cyd-destun lleol unigol.
(b) Er mwyn i’r ysgolion allu paratoi a
chynllunio, gofyn am eglurder gan CBAC a Chymwysterau Cymru ynglŷn â’u
cynlluniau ar gyfer haf 2021 cyn gynted â phosib’.
Trafodaeth
Cyflwynwyd –
adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Chadeirydd Bwrdd Rheoli GwE yn cyflwyno
papur trafod mewn perthynas â Model Ail-gychwyn Dysgu ar gyfer Gogledd
Cymru. Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor
gefnogi’r dull a’r model rhanbarthol, gyda GwE, Awdurdodau Lleol ac ysgolion yn
gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod anghenion unigol dysgwyr yn cael eu
diwallu mewn cyd-destun lleol unigol.
Nododd Cadeirydd
Bwrdd Rheoli GwE fod yr ysgolion yn edrych ymlaen at fis Medi, ond fod angen
pwyllo gan y byddai angen i ysgolion asesu ffitrwydd dysgu eu disgyblion cyn
cyflwyno unrhyw waith newydd i’w ddysgu.
Pwysleisiodd hefyd ei bod yn hynod bwysig bod y gwariant sylweddol fydd
ei angen yn y maes hwn yn cael ei dargedu’n briodol, a bod y rhanbarthau yn
cael yr hawl i benderfynu sut orau i ddyrannu’r arian. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru’n cydnabod
fod y gwaith yng Ngogledd Cymru’n gyrru’r agenda, a’u bod yn awyddus i ymestyn
hyn ar draws Cymru.
Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth:-
·
Mynegwyd pryder sylweddol am les emosiynol y
dysgwyr, plant fyddai wedi dadrithio o brofiadau addysg ac angen cefnogaeth a
chwnsela ynglŷn â’u profiadau yn ystod y cyfnod clo. Nodwyd bod y cyllido cenedlaethol ar gyfer y
maes cwnsela yn hollol annigonol a nodwyd y dylai elfen o’r £29m a gyhoeddwyd
gan y Gweinidog Addysg yn ddiweddar ar gyfer cefnogi ysgolion i recriwtio,
adfer a chodi safonau, neu gyllid arall, gael ei dargedu ar gyfer hyn.
·
Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig bod beth bynnag
sy’n digwydd, yn digwydd yn sydyn, fel bod pawb yn cael y cyfle i gymryd seibiant
iawn dros yr haf.
·
Nodwyd ei bod yn glir bod y sector uwchradd
angen mwy o gefnogaeth na’r sector cynradd o ran mesurau pellhau cymdeithasol a
chreu swigod, ac ati, gan fod ysgolion uwchradd yn dysgu llawer o bynciau
gwahanol. Mewn ymateb, cytunwyd bod
sefyllfa’r ysgolion uwchradd yn llawer mwy heriol a chymhleth, a chyfeiriwyd at
ganllaw newydd y Llywodraeth, oedd yn cynnwys asesiadau risg wedi’u
hail-ddrafftio.
·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau nad ydi’r
ysgolion yn defnyddio’r cyllid ychwanegol i ariannu bylchau yn eu
cyllidebau. Mewn ymateb, nodwyd bod
Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir bod hwn yn bot o arian ar wahân, ac nad
oedd ar gael i ariannu bylchau mewn cyllidebau, nac i atal diswyddiadau, a bod
rhaid i’r ysgolion ddangos yn glir sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio.
·
Nodwyd bod angen eglurder ynglŷn â sefyllfa’r
disgyblion hynny fydd ym mlynyddoedd 11 ac 13 yn haf 2021. Mewn ymateb, nodwyd bod diffyg gwybodaeth
ynglŷn ag unrhyw addasiad posib’ i’r cymwysterau yn rhwystr i’r ysgolion
rhag paratoi a chynllunio’n briodol.
·
Cyfeiriwyd at bwysigrwydd y gwaith ar y cyd â
Phrifysgol Bangor i ddatblygu llythrennedd a rhifedd plant a phobl ifanc.
·
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r sefyllfa y bydd
yr athrawon a’r plant yn wynebu ym mis Medi, pwysleisiwyd na fyddai’r sefyllfa
mor syml â ‘dal i fyny’, ac y byddai’r disgyblion angen cefnogaeth
barhaus ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.
Gellid rhoi diweddariad i’r aelodau yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor ar
15 Medi, 2020, gan adrodd yn llawnach ar y sefyllfa ymhellach ymlaen yn yr
hydref.
Dogfennau ategol: