skip to main content

Agenda item

Mae'r datblygiad canlynol wedi'i leoli o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Gwynedd: 1) Codi adeilad pen twnnel y Gorllewin (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig) yn Garth ynghyd a thrac mynediad parhaol Mae'r datblygiad canlynol wedi'i leoli o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Lleol Parc Cenedlaethol Eryri: 2) Codi adeilad pen twnnel dwyreiniol (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig), compownd selio pen a mynediad parhaol yn Cilfor 3) Compownd selio pen newydd ar ochr ddwyreiniol Aber Dwyryd i gysylltu'r ceblau tanddaearol â'r llinell uwchben Nid oes angen caniatâd cynllunio ffurfiol ar gyfer y datblygiad canlynol: Byddai'r cynigion hyn yn galluogi adeiladu twnnel tanddaearol i gynnwys ceblau trydan a chael gwared ar 10 peilon presennol a llinellau uwchben cysylltiedig ar draws Aber Dwyryd Mae'r cais yn croesi'r ffin rhwng Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri ac felly efallai y byddwch yn derbyn ymgynghoriad gan y ddau awdurdod mewn perthynas â'r datblygiad sydd wedi'i leoli o fewn ei ffiniau.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD Caniatáu gydag amodau:

 

1. 5 mlynedd

2. Unol â’r cynlluniau a’r asesiadau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais

3. Lliw ffens

3. Priffyrdd

4. Cefnffyrdd

5. Amodau CNC

6. Dŵr Cymru

7. Oriau gwaith – ac amodau eraill Gwarchod y Cyhoedd

8. Bioamrywiaeth

9. Archeolegol

10. CEMP

11. Cynllun rheoli tirweddu a monitro

 

Nodiadau

Priffyrdd

Dŵr Cymru

 

Dylai'r holl weithrediadau sy'n cynnwys gwaredu, trin neu adfer deilliannau twnnel gael eu cyflawni yn unol â hierarchaeth gwastraff ac amcanion y cynllun rheoli gwastraff amlinellol. Cysylltwch â Gwasanaeth Cynllunio Gwynedd a Chyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â gofynion y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol neu statws cynllunio unrhyw gyfleuster rheoli gwastraff neu safle arall a nodwyd ar gyfer derbyn, trin neu waredu unrhyw ddeilliant gwastraff.

Cofnod:

Mae'r datblygiad canlynol wedi'i leoli o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Gwynedd: 1) Codi adeilad pen twnnel y Gorllewin (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig) yn Garth ynghyd a thrac mynediad parhaol. Mae'r datblygiad canlynol wedi'i leoli o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Lleol Parc Cenedlaethol Eryri: 2) Codi adeilad pen twnnel dwyreiniol (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig), compownd selio pen a mynediad parhaol yn Cilfor: 3) Compownd selio pen newydd ar ochr ddwyreiniol Aber Dwyryd i gysylltu'r ceblau tanddaearol â'r llinell uwchben. Nid oes angen caniatâd cynllunio ffurfiol ar gyfer y datblygiad canlynol: Byddai'r cynigion hyn yn galluogi adeiladu twnnel tanddaearol i gynnwys ceblau trydan a chael gwared ar 10 peilon presennol a llinellau uwchben cysylltiedig ar draws Aber Dwyryd.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd yn ymwneud a phrosiect sydd, ers rhai blynyddoedd bellach, wedi cynnwys mewnbwn sylweddol gan swyddogion y Cyngor  a rhanddeiliaid i’r prosiect  a gyfeiriwyd ato fel Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP). Adroddwyd bod y cynllun yn cael ei arwain gan y Grid Cenedlaethol sydd wedi ymgynghori’n helaeth gyda’r gymuned leol.

 

Pwrpas y cynllun yw lliniaru’r effaith weledol mae seilwaith trydan presennol yn ei gael mewn tirwedd warchodedig o gwmpas y Ddwyryd drwy dynnu peilonau trydan i lawr rhwng Minffordd a Chilfor a thanddaearu’r gwifrau trydan am bellter o 3.5 km. Ategwyd bod cais cynllunio wedi ei gyflwyno i Awdurdod Cynllunio Cyngor Gwynedd ac i Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri er mwyn galluogi i’r ddau awdurdod wneud penderfyniadau ar y cais sydd yn berthnasol i’w hardaloedd. Tynnwyd sylw at baragraffau 1.17 - 1.23 yn yr adroddiad sydd yn rhoi disgrifiad bras o’r datblygiadau sydd yn destun cais o fewn y ddau Awdurdod ac at baragraffau 1.24 i 1.30 sydd, oherwydd natur eang a chymhleth y cynllun yn cyfeirio'r gofynion hynny sydd tu allan i faes cynllunio. Nodwyd bod Pwyllgor Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eisoes wedi caniatáu

 

Eglurwyd bod y bwriad yn golygu codi adeilad pen twnnel y Gorllewin (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig) ynghyd a thrac mynediad parhaol. Er bod yr adeilad yn eithaf sylweddol, mae’n cymharu gydag adeilad amaethyddol o ran maint, uchder a dyluniad. Ategwyd bod Asesiad Gweledol a Thirwedd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais sydd yn cynnwys manylion tirwedd ac effaith weledol gan gynnwys montage ffotograffig

 

Ar sail y wybodaeth a’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, ystyriwyd bod effeithiau hir dymor y bwriad yn dderbyniol o ran dyluniad, graddfa, deunyddiau, tirweddu ac effaith ar y dirwedd ac yn cydymffurfio a gofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4, AMG 2 a 3 o’r CDLl a NCT 12: Dylunio. Derbyniwyd y byddai’r cynllun yn ei gyfanrwydd yn achosi anhwylustod, sŵn, dirgryniad, llwch a thraffig yn ystod y gwaith dros dro o dwnelu ac adeiladu’r adeilad pen twnnel. Byddai’r elfennau hyn, sydd ddim yn faterion cynllunio yn destun trafodaeth a goruchwyliaeth gan Uned Gwarchod y Cyhoedd (sy’n delio gyda niwsans cyffredinol) a Chyfoeth Naturiol Cymru fydd yn trwyddedu’r gwaredu gwastraff.

 

Cydnabuwyd y byddai’n anorfod fod datblygiad o’r fath am gael peth effaith ar fwynderau cyffredinol a phreswyl trigolion cyfagos ond yn yr hir dymor ni fyddai’r bwriad yn andwyol ar fwynderau cyffredinol na phreswyl  unrhyw drigolion cyfagos. O ystyried yr effeithiau tymor byr o weithredu’r caniatâd, amlygwyd bod modd rheoli ac/neu liniaru'r effeithiau i lefelau derbyniol drwy amodau cynllunio priodol. Nodwyd bod Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi nodi oriau gwaith derbyniol ar gyfer y bwriad o adeiladu’r adeilad pen twnnel ac yn ychwanegol gellid amodi materion sŵn, llwch, traffig ac oriau gwaith, niwsans ayyb sy’n deillio’n uniongyrchol o’r datblygiad. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn gallu diweddaru’r sefyllfa drwy gyflwyno diweddariad i’r Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladau a fydd yn destun amod cynllunio. Wedi cwblhau’r gwaith tyllu ac adeiladu, byddai presenoldeb unrhyw staff yn achlysurol ar y safle.

Cadarnhawyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth ac Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru wrthwynebiad i’r cais ac eisoes wedi sicrhau bod materion megis symud cyfarpar a gwastraff yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu. Nodwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod y bwriad yn dderbyniol o ran risg ac effaith llifogydd a bod yr Uned Draenio Tir yn fodlon gyda’r gwaith ar y ffos.

 

Nodwyd bod gwybodaeth helaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn ymwneud a materion Bioamrywiaeth, a bod hynny o ganlyniad i drafodaethau helaeth o flaen llaw rhwng yr Uned Bioamrywiaeth a’r Grid Cenedlaethol. Mae mesurau lliniaru a gwelliannau wedi eu cynnig ar gyfer y bwriad a byddai’r mesurau hyn yn cael eu hamodi er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau.

 

Er nad yw’r datblygiad yn cyrraedd trothwyon Polisi Strategol PS1 sydd yn hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn ardal y Cynllun, mae Datganiad Iaith Gymraeg wedi ei gyflwyno a’i asesu gan y Gwasanaeth Iaith sydd yn fodlon gyda’r datganiad iaith hwnnw oherwydd natur y cais a’r gwaith dan sylw. Mae’n amlwg, o’r datganiad bod y Grid Cenedlaethol wedi ystyried pwysigrwydd y Gymraeg yn yr ardal ac yn ymwybodol iawn o’r angen i gyfathrebu yn ddwyieithog ac y byddant yn defnyddio gweithwyr lleol lle bo hynny yn bosib.

 

Er mwyn rhoi sicrwydd am agweddau o’r bwriad, ac oherwydd bod y cynllun yn ei gyfanrwydd yn fwy na’r hyn sy’n destun y cais yn unig a bod angen sicrhau nad oes effeithiau amgylchedd annerbyniol o ganlyniad i’r gwaith yma, bydd unrhyw ganiatâd cynllunio yn destun amod cynllunio i gyflwyno a chytuno Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu ar gyfer rheoli amryw o agweddau o’r gwaith. Bydd y  materion hyn yn cael ei gytuno mewn ymgynghoriad gyda’r cyrff perthnasol yn dilyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio.

 

O ystyried yr uchod ac wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol yn llawn gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nodwyd Cadeirydd y Grŵp Ymgynghori Rhanddeiliaid Annibynnol, ar ran yr ymgeisydd, y prif bwyntiau canlynol:-

     Ei fod yn gefnogol iawn i’r cynllun a’i fod wedi bod yn rhan ohono ers 6 mlynedd

       Y cynllun yn 1 o 4 o’i fath wedi ei ddewis fel cynllun amgen i wella tirweddau arbennig yng Nghymru a Lloegr

       Aberdwyryd yn ardal ysblennydd ond wedi ei ddifethaf gan beilonau a gwifrau trydan

       Byddai tynnu’r peilonau yn drawsnewidiol gyda thrigolion lleol yn cael y cyfle i fwynhau’r Aber a’r golygfeydd clir

       Bod y Grŵp Ymgynghori yn cynnwys nifer o randdeiliaid sydd yn gefnogol i’r cynllun ac wedi bod yn rhan o fanylder y cynllun ers 2015

       Bod cynlluniau'r ddau compownd yn wahanol mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus

       Bod Awdurdod Cynllunio'r Parc Cenedlaethol wedi caniatáu y cais heb unrhyw wrthwynebiadau

       Byddai’r cynllun yn hwb i fusnesau lleol ac yn dod a buddion amgylcheddol, hamdden ac economaidd i’r ardal brydferth

       Byddai’r cynllun yn adfer harddwch naturiol yr ardal

       Ei bod yn fraint bod yn rhan o gynllun sydd yn trawsnewid ardal i’r fath raddfa

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:-

 

        Ei fod yn gefnogol i’r cynllun

        Bod y peilonau fel creithiau ar dir sydd yn brydferth a phwysig

        Bod y trafodaethau gyda National Grid i’w canmol – wedi bod yn agored iawn

        Mai’r ffordd i’r pen twnnel yw’r ffordd wreiddiol i’r chwarel cyn i’r ffordd osgoi gael ei hadeiladu ac felly gyda hanes trafnidiaeth drwm

        Cefnogi’r bwriad o waredu’r peilonau o aber prydferth

 

ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

 

                       Byddai gwaredu’r peilonau yn welliant i’r ardal ac i dwristiaeth

                       Byddai’r golygfeydd yn gwella ar ôl i’r peilonau gael eu tynnu i lawr

                       Y cynllun yn sicr yn un i’w groesawuyn welliant mewn ardal sensitif

                       Croesawu’r bwriad i gyflogi yn lleol

 

                       Croesawu’r egwyddor ond anodd cefnogi cynllun fydd yn cyfrannu at dlodi ynni

PENDERFYNWYD caniatáu y cais gydag amodau:

 

1.    5 mlynedd

2.    Unol â’r cynlluniau a’r asesiadau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais

3.    Lliw ffens

4.    Priffyrdd

5.    Cefnffyrdd

6.    Amodau CNC

7.    Dŵr Cymru

8.    Oriau gwaith – ac amodau eraill Gwarchod y Cyhoedd

9.    Bioamrywiaeth

10.  Archeolegol

11.  CEMP

12.  Cynllun rheoli tirweddu a monitro

 

Nodiadau

  Priffyrdd

  Dŵr Cymru

 

  Dylai'r holl weithrediadau sy'n cynnwys gwaredu, trin neu adfer deilliannau twnnel gael eu cyflawni yn unol â hierarchaeth gwastraff ac amcanion y cynllun rheoli gwastraff amlinellol. Cysylltwch â Gwasanaeth Cynllunio Gwynedd a Chyfoeth   Naturiol Cymru mewn perthynas â gofynion y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol neu statws cynllunio unrhyw gyfleuster rheoli gwastraff neu safle arall a nodwyd ar gyfer derbyn, trin neu waredu unrhyw ddeilliant gwastraff.

 

Dogfennau ategol: