Agenda item

Cais o dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C01M/0014/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Annwen Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C01M/0014/03/MW, i ganiatáu parhau i ddefnyddio'r ardal tir ategol i storio deunyddiau crai: 

 

           Rhoddir caniatâd drwy hyn am gyfnod cyfyngedig hyd at 31ain Ionawr 2040, a phan ddaw'r cyfnod i ben bydd holl adeiladau, cyfarpar, peiriannau ac offer wedi cael eu symud a bydd y safle wedyn yn cael ei adfer yn unol â'r cynllun adfer a dderbyniwyd ar - 14eg Ebrill 2020.

           Yn ychwanegol at amrywio Amod 1 o'r caniatâd, dylai'r ardal storio deunydd crai, llawr caled a'r sied storio gael amodau sy'n ategol i brif ddefnydd y safle fel gwaith mwynau sy'n prosesu gwastraff llechi i gynhyrchu cynhyrchion llechi gronynnog a phowdrau.   Byddai hyn yn sicrhau bod y safle yn parhau i weithredu yn unol â'r allbwn diwygiedig o ddosbarthu dim mwy na 9 llwyth ar unrhyw ddiwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener) a dim mwy na 2 lwyth ar unrhyw ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl y Banc neu Wyliau Cyhoeddus.

           Er budd cysondeb a'r gallu i orfodi, dylai'r gyfres ganlynol o reoliadau rheoleiddio a osodwyd ar y caniatâd perthynol (C03M/0010/03/MW), sy'n ymwneud â sŵn ac ansawdd aer hefyd gael eu dyblygu;

           Monitro sŵn yn flynyddol (oni bai y cytunwyd fel arall yn ysgrifenedig)

           Cyfyngu lefel sŵn yn ystod y dydd i 50db

           Cyfyngu lefel sŵn yn ystod y nos i 40db

           Ni fydd unrhyw loriau yn cael eu hanfon o'r safle ac ni fydd unrhyw ddeunyddiau crai yn dod i'r safle y tu allan i 07.00 awr a 22.00 awr.

 

           Nodyn i'r ymgeisydd gyda chyngor statudol Network Rail a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi ei atodi i'r hysbysiad penderfyniad.

 

           Nodyn i'r ymgeisydd i annog gweithredwr y safle i ddarparu arwyddion dwyieithog ble fo'n bosib i wella delwedd ddwyieithog y cwmni.

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C01M/0014/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais gan nodi ei fod yn un o 3 cais cynllunio i newid amodau ar ganiatâd cynllunio a  gweithrediad sydd eisoes yn bodoli ar safle Chwarel yr Oakley er mwyn ymestyn oes y gwaith mwynau i sicrhau bod gweithrediad y felin yn parhau. Nodwyd mai cais ydoedd i geisio amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio a roddwyd yn 2001, i barhau i ddefnyddio’r ardal storio ategol, sied a llawr caled am 20 mlynedd ychwanegol.

Amlygwyd bod yr holl bolisïau perthnasol wedi eu hystyried ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi eu derbyn. Nodwyd bod y felin wedi gweithredu heb achosi niwsans gormodol o dan delerau’r amodau presennol am nifer o flynyddoedd a bod materion sŵn a llwch wedi hen sefydlu. Er hynny, nodwyd bod Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi datgan yr angen i ddiweddaru’r amodau sŵn a llwch ar y safle. Adroddwyd bod Cynllun Adfer wedi ei gynnwys gyda’r cais ac yn cydymffurfio gyda Pholisi MWYN 3 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a Pholisi MWYN 9. Mae'r cynllun adfer yn cynnwys creu tirffurf fydd yn ail-greu ac efelychu nodweddion naturiol y ddaear a nodweddion draenio.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:-

     Ei bod yn gefnogol i’r cynllun

     Bod angen gwarchod Afon Bowydd rhag llygredd

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

 ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

         Caniatáu y cais yn hwb i’r economi leol

         Croesawu bod y bwriad yn sicrhau gwaith am 20 mlynedd bellach

         Awgrym i gynnwys amod i warchod Afon Bowydd rhag llygredd

 

d)    Mewn ymateb i’r awgrym i gynnwys amod i warchod Afon Bowydd rhag llygredd / dwr budr mynegodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff mai Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â thrwydded orchwyl dros y gwaith a bod modd adolygu’r amodau / diweddaru’r gweithdrefnau ar sut i ddelio gyda gwaddod.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C01M/0014/03/MW, i ganiatáu parhau i ddefnyddio'r ardal tir ategol i storio deunyddiau crai: 

 

           Rhoddir caniatâd drwy hyn am gyfnod cyfyngedig hyd at 31ain Ionawr 2040, a phan ddaw'r cyfnod i ben bydd holl adeiladau, cyfarpar, peiriannau ac offer wedi cael eu symud a bydd y safle wedyn yn cael ei adfer yn unol â'r cynllun adfer a dderbyniwyd ar - 14eg Ebrill 2020.

 

           Yn ychwanegol at amrywio Amod 1 o'r caniatâd, dylai'r ardal storio deunydd crai, llawr caled a'r sied storio gael amodau sy'n ategol i brif ddefnydd y safle fel gwaith mwynau sy'n prosesu gwastraff llechi i gynhyrchu cynhyrchion llechi gronynnog a phowdrau.   Byddai hyn yn sicrhau bod y safle yn parhau i weithredu yn unol â'r allbwn diwygiedig o ddosbarthu dim mwy na 9 llwyth ar unrhyw ddiwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener) a dim mwy na 2 lwyth ar unrhyw ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl y Banc neu Wyliau Cyhoeddus.

 

           Er budd cysondeb a'r gallu i orfodi, dylai'r gyfres ganlynol o reoliadau rheoleiddio a osodwyd ar y caniatâd perthynol (C03M/0010/03/MW), sy'n ymwneud â sŵn ac ansawdd aer hefyd gael eu dyblygu;

 

           Monitro sŵn yn flynyddol (oni bai y cytunwyd fel arall yn ysgrifenedig)

           Cyfyngu lefel sŵn yn ystod y dydd i 50db

           Cyfyngu lefel sŵn yn ystod y nos i 40db

           Ni fydd unrhyw loriau yn cael eu hanfon o'r safle ac ni fydd unrhyw ddeunyddiau crai yn dod i'r safle y tu allan i 07.00 awr a 22.00 awr.

 

           Nodyn i'r ymgeisydd gyda chyngor statudol Network Rail a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi ei atodi i'r hysbysiad penderfyniad.

 

           Nodyn i'r ymgeisydd i annog gweithredwr y safle i ddarparu arwyddion dwyieithog ble fo'n bosib i wella delwedd ddwyieithog y cwmni.

 

 

Dogfennau ategol: