Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C03M/0010/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Annwen Daniels
Penderfyniad:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i
gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd
cynllunio C03M/0010/03/MW, i ganiatáu parhau i ddefnyddio'r gwaith prosesu llechi.
• Rhoddir caniatâd drwy hyn am gyfnod
cyfyngedig hyd at 31ain Ionawr 2040, a phan ddaw'r cyfnod i ben bydd holl
adeiladau, cyfarpar, peiriannau ac offer wedi cael eu symud a bydd y safle
wedyn yn cael ei adfer yn unol â'r cynllun adfer a dderbyniwyd ar - Mawrth
2020.
• Bydd y datblygiad yn ddarostyngedig
i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol C03M/0010/03/MW i
reoli sŵn, llwch, dirgryniad, gwarchod yr amgylchedd dŵr, oriau
gweithredu, allbwn, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, adolygu gweithrediadau
ac adfer ond yn benodol;
• Cyfyngu
lefel sŵn yn ystod y dydd i 50db
• Cyfyngu
lefel sŵn yn ystod y nos i 40db
• Cau gwaith
y malwr sylfaenol i lawr dros nos
• Holl
ddrysau/caeadau i gael eu cadw wedi eu cau dros nos
• Ni cheir ailgychwyn y gwaith ar ôl
22.00 awr (pe byddai'r gwaith yn torri i lawr dros nos ni fydd yn ail ddechrau
tan y diwrnod canlynol)
• Ni
weithredir y malwr allanol rhwng 07.00 awr a 22.00 awr.
• Ni fydd
unrhyw loriau yn cael eu llwytho y tu allan i 07.00 awr a 22.00 awr.
• Bydd y cynnyrch gaiff ei orffen dros
nos yn cael ei storio yn y prif adeilad tan y diwrnod canlynol
• Nodyn i'r ymgeisydd gyda chyngor
statudol Network Rail a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi ei atodi i'r hysbysiad
penderfyniad.
• Nodyn i'r ymgeisydd i annog
gweithredwr y safle i ddarparu arwyddion dwyieithog ble fo'n bosib i wella
delwedd ddwyieithog y cwmni.
Cofnod:
Cais o dan Adran 73 o'r
Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod
1 ar ganiatâd cynllunio C03M/0010/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd
a) Ymhelaethodd
yr Uwch
Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais
gan egluro bod y cais yn un ar
gyfer amrywio amodau a osodwyd ar y caniatâd gwreiddiol
a gymeradwywyd yn 1990 i ddatblygu tir
heb gydymffurfio gydag amodau i
ganiatáu parhau i weithredu safle'r
gwaith o 07.00 awr i 19.00 o ddydd Llun i ddydd
Gwener (h.y. gweithredu am 24 awr) ynghyd â chynnydd mewn allbwn o 6 i 9 llwyth o ddeunydd
fesul diwrnod gwaith. Roedd
y caniatâd hefyd yn caniatáu newid
i'r cyfyngiadau ar allyriadau sŵn
yn ddarostyngedig i amodau sydd
yn gofyn bod y gweithredwr yn gweithredu cynllun monitro sŵn.
Nodwyd na dderbyniwyd
unrhyw wrthwynebiadau i’r cais arwahan
i un llythyr oedd yn nodi
pryder bod allyriadau o’r gwaith yn
cynnwys nwyon sydd yn effeithio
ar iechyd a llesiant trigolion cyfagos. O ganlyniad, amlygwyd bod Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn mynnu bod yr
amodau i reoli sŵn, llwch ac ati yn
parhau ar y safle. Ystyriwyd y gall y safle weithredu heb achosi niwsans
gormodol i fwynderau’r ardal dan delerau’r amodau
sŵn ac ansawdd aer perthnasol.
Mae'n annhebygol y bydd unrhyw newid amlwg
yn amodau gweithio'r safle na newid
i effaith weledol y gwaith ac ni fydd y datblygiad
yn tynnu oddi wrth nodweddion
cadarnhaol y dirwedd na'r elfennau hynny
sy'n cyfrannu at gymeriad unigryw'r dirwedd hanesyddol na'r cais Safle
Treftadaeth y Byd. Bydd gwastraff llechi yn cael
ei brosesu a’i drin
i gynhyrchu ffelt to ac nid yw cyflenwi deunydd
i'r gwaith prosesu yn holl
ddibynnol ar y mwynau wrth gefn
sydd yn y domen lechi. Mae'r
cynllun adfer yn cynnwys trin
y ddaear agored wedi i'r gweithrediadau
ddod i ben.
O ran sicrhau cyflenwad amgen o ddeunyddiau, bydd egwyddorion mwyngloddio mwynau eilaidd yn dderbyniol
ac o ran angen leol, mae'r datblygiad yn cydymffurfio â’r holl bolisiau
perthnasol.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr Aelod Lleol
y pwyntiau canlynol:-
• Ei bod yn gefnogol
i’r cynllun
• Bod angen gwarchod Afon Bowydd rhag
llygredd
c)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau:
• Byddai caniatáu y cais yn hwb i’r
economi leol
• Croesawu bod y bwriad yn sicrhau gwaith
am 20 mlynedd pellach
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl
i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r
cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i
Amod 1 ar ganiatâd cynllunio
C03M/0010/03/MW, i ganiatáu
parhau i ddefnyddio'r gwaith prosesu llechi.
·
Rhoddir caniatâd drwy hyn am gyfnod
cyfyngedig hyd at 31ain Ionawr 2040, a phan ddaw'r cyfnod i ben bydd
holl adeiladau, cyfarpar, peiriannau ac offer wedi cael eu
symud a bydd y safle wedyn yn
cael ei adfer
yn unol â'r
cynllun adfer a dderbyniwyd ar - Mawrth 2020.
·
Bydd y datblygiad yn ddarostyngedig i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd
cynllunio blaenorol
C03M/0010/03/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, gwarchod yr amgylchedd dŵr,
oriau gweithredu, allbwn, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, adolygu gweithrediadau ac adfer ond yn
benodol;
• Cyfyngu lefel sŵn yn ystod y dydd
i 50db
• Cyfyngu lefel sŵn yn ystod y nos
i 40db
• Cau gwaith y malwr sylfaenol i lawr
dros nos
• Holl ddrysau/caeadau i gael eu cadw wedi
eu cau dros
nos
• Ni cheir ailgychwyn
y gwaith ar ôl 22.00 awr (pe
byddai'r gwaith yn torri i
lawr dros nos ni fydd yn ail ddechrau
tan y diwrnod canlynol)
• Ni weithredir y malwr
allanol rhwng 07.00 awr a 22.00 awr.
• Ni fydd unrhyw
loriau yn cael eu llwytho
y tu allan
i 07.00 awr a 22.00 awr.
• Bydd y cynnyrch
gaiff ei orffen dros nos
yn cael ei
storio yn y prif adeilad tan y diwrnod canlynol
·
Nodyn i'r ymgeisydd gyda
chyngor statudol Network
Rail a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi ei
atodi i'r hysbysiad penderfyniad.
·
Nodyn i'r ymgeisydd i
annog gweithredwr y safle i ddarparu
arwyddion dwyieithog ble fo'n bosib gwella delwedd ddwyieithog y cwmni.
Dogfennau ategol: