Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C10M/0103/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Annwen Daniels
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r
cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio
C10M/0103/03/MW, i adlewyrchu'r tunelli o fwynau wrth gefn sydd ar gael yn
ardal y cais:
• Daw'r gwaith o echdynnu gwastraff a'r
gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2025. Erbyn y dyddiad hwnnw, bydd yr
holl beiriannau, adeiladau a strwythurau sy'n perthyn i, neu wedi eu lleoli o
ganlyniad i'r caniatâd cynllunio hwn yn cael eu tynnu erbyn y dyddiad
hwnnw. Bydd gwaith adfer y safle wedi ei
gwblhau erbyn 31/12/2027.
• Bydd y datblygiad yn ddarostyngedig
i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol C10M/0103/03/MW i
reoli sŵn, llwch, dirgryniad, gwarchod yr amgylchedd dŵr, oriau
gweithredu, allbwn, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, tirffurf arfaethedig,
mesurau lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau a gwaith adfer dilyniadol.
• Nodyn i'r ymgeisydd gyda chyngor
statudol Network Rail a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi ei atodi i'r hysbysiad
penderfyniad.
• Nodyn i'r ymgeisydd i annog
gweithredwr y safle i ddarparu arwyddion dwyieithog ble fo'n bosib i wella
delwedd ddwyieithog y cwmni.
Cofnod:
Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio
amod 1 ar ganiatâd cynllunio
C10M/0103/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd
a)
Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir
y cais gan nodi mai cais
ydoedd i barhau i echdynnu
mwynau o’r tomenni llechi am 20 mlynedd ychwanegol.
Adroddwyd nad yw cyflenwi
deunydd i'r gwaith prosesu yn holl ddibynnol
ar y mwynau wrth gefn sydd
yn y domen lechi, ac fe ragwelir
y bydd yn parhau am tua 5 mlynedd arall. Er mwyn peidio ag
oedi gyda gweithredu cynllun adfer i arwynebau'r
tomenni sydd wedi eu tarfu,
ystyriwyd cymeradwyo caniatâd am 5 mlynedd arall. Bydd unrhyw newid i Amod
1 o ganiatâd cynllunio
C10M/0103/03/MW yn adlewyrchu'r
tunelli o fwynau wrth gefn sydd
ar gael yn
ardal y cais. Yn dilyn trafodaethau
gyda’r ymgeisydd, cytunwyd y byddai caniatâd 5 mlynedd yn rhoi amser
digonol i symud gweddill y domen lechi.
Byddai'r gwaith
o dynnu'r tomenni yn amodol i
gynllun graddol o echdynnu gyda'r posibilrwydd o welliant mwy cadarnhaol yn yr hirdymor
unwaith fo'r ardaloedd adfer wedi ymdoddi i'r
bryniau cyfagos a'r llystyfiant naturiol. Ystyriwyd y gall y safle weithredu heb achosi niwsans
gormodol i fwynderau’r ardal dan delerau'r amodau
cyfredol i dynnu a phrosesu llechi.
Cefnogwyd yr
elfen o ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu / hailddefnyddio i roi llai
o bwysau ar adnoddau sylfaenol. O ran sicrhau cyflenwad amgen o ddeunyddiau,
bydd egwyddorion mwyngloddio mwynau eilaidd yn dderbyniol
ac o ran angen leol, roedd y datblygiad yn cydymffurfio a’r polisïau perthnasol.
Mewn ymateb
i gwestiwn a fydd y tipiau yn
diflannu, nodwyd bydd y tipiau yn
cael eu graddio
gyda’r deunydd yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer y cynllun adfer.
b) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol:-
• Ei bod yn gefnogol i’r
cynllun
• Bod angen gwarchod Afon Bowydd
rhag llygredd
c) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais
PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r
cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i
Amod 1 ar ganiatâd cynllunio
C10M/0103/03/MW, i adlewyrchu'r
tunelli o fwynau wrth gefn sydd
ar gael
yn ardal y cais:
·
Daw'r gwaith o
echdynnu gwastraff a'r gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2025. Erbyn y
dyddiad hwnnw, bydd yr holl beiriannau, adeiladau a strwythurau sy'n perthyn i,
neu wedi eu lleoli o ganlyniad i'r caniatâd cynllunio hwn yn cael eu tynnu
erbyn y dyddiad hwnnw. Bydd gwaith adfer
y safle wedi ei gwblhau erbyn 31/12/2027.
·
Bydd y
datblygiad yn ddarostyngedig i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio
blaenorol C10M/0103/03/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, gwarchod yr
amgylchedd dŵr, oriau gweithredu, allbwn, cydymffurfio â chynlluniau'r
cais, tirffurf arfaethedig, mesurau lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau a
gwaith adfer dilyniadol.
·
Nodyn
i'r ymgeisydd gyda chyngor statudol
Network Rail a Chyfoeth Naturiol
Cymru wedi ei atodi i'r
hysbysiad penderfyniad.
·
Nodyn
i'r ymgeisydd i annog gweithredwr
y safle i ddarparu arwyddion dwyieithog ble fo'n bosib gwella
delwedd ddwyieithog y cwmni.
Dogfennau ategol: