Agenda item

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi ers sefydlu’r Bartneriaeth yn 2017, bod y Bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth gyda swyddogion yn cyfarfod yn aml. Yn ystod cyfnod pandemig covid 19, nodwyd bod holl ddigwyddiadau’r Bartneriaeth wedi bod yn rhithiol gyda’r gwaith o lansio cronfeydd newydd a chynnal nifer o ddigwyddiadau wedi cymryd lle.

 

Tynnwyd sylw at berfformiad y Gronfa Twf Byd Eang hyd at 30 Medi 2020. Adroddwyd cyn y pandemig bod perfformiad y gronfa yma wedi bod yn uwch na'r meincnod gyda pherfformiad cryf gan Baillie Gifford a Veritas. Amlygwyd bod gan y  portffolio yma fuddsoddiadaugwerth dwfn’, ac oherwydd effaith y pandemig, nodwyd bod y perfformiad yn ddiweddar wedi disgyn y tu ôl i’r meincnod. Ymddengys bod y sectorau traddodiadol megis olew ac arian wedi perfformio'n wael gyda’r sectorau megis technoleg wedi perfformio'n gymharol dda. Eglurwyd bod Russell Investments yn monitro dyraniad y gronfa yma yn barhaus

 

Cyfeiriwyd at y trosglwyddiad incwm sefydlog a drosglwyddwyd yng Ngorffennaf a Hydref 2020. I’r Gronfa Multi Assest Credit trosglwyddwyd buddsoddiad gyda Fidelity Global Equity o £166,119,549.08 ac i’r gronfa Absolute Return Bond trosglwyddwyd  buddsoddiad gyda Insight o £291,238,172.22.

 

Tynnwyd sylw at Cynrychiolaeth o’r Byrddau Pensiwn ar Gyd- bwyllgor y Bartneriaeth gan nodi bod hyn wedi bod yn destun trafod ers peth amser bellach. Adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid wedi mynychu cyfarfod diweddar ynglŷn â'r mater. Canlyniad y drafodaeth oedd bod y Cydbwyllgor yn cynnwys 8 aelod y Gronfa (gyda phleidlais yr un) a chynrychiolydd o’r Byrddau Pensiwn (o fewn yr awdurdodau cyfansoddol - heb bleidlais). Adroddwyd bod mwyafrif o’r cronfeydd yn cytuno bod angen rhoi statws i gynrychiolaeth y Bwrdd, ond bod angen penderfyniad unfrydol cyn symud ymlaen. Nodwyd y byddai unrhyw newid yn golygu cyflwyno’r argymhelliad i bob Cyngor unigol i’w dderbyn mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn. Ategwyd bod un cyfarfod pellach wedi ei drefnu i ail-drafod cyn cyflwyno cynnig i’r Cyd -bwyllgor.

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Derbyn bod y ffioedd ynghlwm a’r buddsoddiadau, ond nad yw’n adlewyrchu costau sefydlog o sefydlu’r Bartneriaeth.

·         Derbyn y trosglwyddiadau ond a yw buddsoddiadau gyda Fidelity yn dod i ben yn benderfyniad da o ystyried bod perfformiad Fidelity wedi bod yn dda?

·         Bod angen trefniant mwy ffurfiol sydd yn cyfeirio sylwadau / adlewyrchu argymhellion y Bwrdd  a’r modd y maent yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor ac efallai ymlaen i’r Cydbwyllgor - awgrymwyd cyflwyno adroddiad gan y Bwrdd i’r Pwyllgor ynteu fod aelod o’r Bwrdd yn cyflwyno eitem ar lafar

 

Mewn ymateb i gyhoeddi ffioedd sefydlog nodwyd bod sgôp cyflawni hyn yn 2020/21 gan greu tablau fyddai’n adlewyrchu’r cymhariaethau a’r gwir gostau.

 

Mewn ymateb i fuddsoddiadau gyda Fidelity yn dod i ben ac os yw hynny yn benderfyniad da o ystyried eu perfformiad, cytunwyd bod perfformaid Fidelity wedi bod yn wych, ond yn dilyn pwysau o fuddsoddi cyfun ( lle ceir llai o risg a mwy o sicrwydd o fuddsoddi gyda mwy nag un rheolwr), cytunwyd gyda’r penderfyniad o fynd gyda’r mwyafrif.  Ategwyd bod Russell Investments yn cadw golwg ar y perfformiad a phe byddai tanberfformiad, byddai modd addasu oherwydd yr hyblygrwydd o gael mwy nag un rheolwr.

 

Mewn ymateb i sefydlu trefn ffurfiol i rannu llais y Bwrdd, nodwyd bod Cadeirydd y Pwyllgor yn cynrychioli Gwynedd ar y Bartneriaeth ac yn arsylwi cyfarfodydd Bwrdd Pensiwn Gwynedd. Nodwyd bod sawl enghraifft o lais y Bwrdd yn cael ei dderbyn gan Bwyllgor Pensiynau Gwynedd, ond nad oedd sefyllfa wedi codi lle bod angen cyflwyno llais y Bwrdd i'r Bartneriaeth. Awgrymwyd bod cyflwyno adroddiad ysgrifenedig neu ar lafar yn cynnig argymhellion i’r Pwyllgor yn dderbyniol

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

Dogfennau ategol: