I ystyried
adroddiad y Rheolwr Archwilio
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd eisoes
wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol. Galw GwE (ynglŷn â
chostau teithio) a Priffyrdd a Bwrdeistrefol (ynglŷn â goramser) i
gyfarfod y Gweithgor Gwella Rheolaethau
Cofnod:
Cyflwynwyd, er gwybodaeth,
adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith
archwilio mewnol am y cyfnod 3 Chwefror hyd 31 Mawrth 2020. Amlygwyd bod 10 o archwiliadau’r cynllun wedi eu
cwblhau.
Eglurwyd bod trefniadau newydd wedi eu sefydlu ar gyfer archwiliadau
dilyniant. Yn 2018/19, daethpwyd i gytundeb ar 88 o gamau gweithredu i’w
cyflawni erbyn 31 Mawrth 2020. Yn dilyn cais am wybodaeth a thystiolaeth gan yr
Unedau/Gwasanaethau perthnasol ar gynnydd gweithrediadau, dengys ar 31 Mawrth
2020 bod gweithrediad derbyniol ar 100% o’r camau cytunedig a gytunwyd i
liniaru risgiau uchel/uchel iawn, h.y. 11 allan o 11, a 72.73% o’r camau cytunedig a gytunwyd i liniaru risgiau
isel/canolig., h.y. 56 allan o 77.
Ategwyd bod gweithrediad derbyniol ar 76.13% o’r camau cytunedig, h.y. 67 allan o 88 gweithrediad cytunedig gyd chynnydd wedi
ei wneud ar 12.5%, h.y. 11 gweithrediad cytunedig. Er hynny, ni dderbyniwyd ymateb mewn perthynas
â 11.36% o’r gweithrediadau
er bod cais am wybodaeth wedi ei wneud.
Cyfeiriwyd at archwiliad o broses hawlio costau teithio GwE
a dderbyniodd farn sicrwydd ‘cyfyngedig’. Bwriad yr archwiliad oedd sicrhau bod
proses effeithlon ac effeithiol mewn lle ar gyfer hawlio costau teithio drwy
system hunanwasanaeth, sydd yn lleihau’r baich gweinyddol ac yn cadw risg o
golled drwy gamgymeriad neu dwyll i lefelau priodol.
Amlygwyd pryder gan Aelod,
ar ôl i’r
drefn o gyflwyno ceisiadau drwy hunanwasanaeth leihau'r gwaith gweinyddol yn sylweddol, bod rheolwyr wedi anghofio
gwirio hawliadau costau teithio eu staff. Cadarnhawyd fod rheolaeth GwE wedi
ymrwymo i atgoffa rheolwyr i wirio hawliadau
i liniaru’r risg a amlygwyd.
Yn ychwanegol, ystyriwyd bod ansicrwydd y bu ystyriaeth i werth
am arian wrth
newid lleoliadau gwaith swyddogol rhai o staff GwE. Pwysleisiwyd nad oedd diffyg
yn y drefn hunanwasanaeth yn gyffredinol, roedd gan reolwyr gyfrifoldeb i wirio ceisiadau costau teithio, ac nad rôl weinyddol
ydoedd. Yn benodol ynglŷn
â GwE, pryd penderfynodd Cabinet Gwynedd i newid trefniadau hawliau costau teithio, penderfynodd GwE newid lleoliadau
gwaith rhai staff. Ategwyd nad
oedd Archwilio Mewnol yn argyhoeddedig fod lleoliad gwaith
rhithiol i staff yn rhoi sicrwydd
o werth am arian.
Adroddwyd bu trafodaethau rhwng
GwE a Cefnogaeth Gorfforaethol ar adeg y newid lleoliad
gwaith, a bod GwE wedi cyfiawnhau'r newidiadau cyn ei cymeradwyo.
Mewn ymateb i’r uchod,
awgrymwyd dylai GwE ail adolygu’r newidiadau i leoliadau
gwaith.
Mewn ymateb i gwestiwn
a yw’n arferol i wyrdroi / newid
penderfyniad y Cabinet, nododd
y Pennaeth Cyllid roedd y Cabinet wedi sefydlu trefn hawliau
teithio ar sail lleoliad gwaith, ac ar wahân
i hynny roedd
GwE wedi ail ddynodi lleoliad gwaith rhai o’i
staff. Nodwyd nad
oedd penderfyniad y Cabinet
wedi ei wyrdroi
ac nad oedd hynny’n arferiad.
Cyfeiriwyd ar archwiliad o daliadau goramser yr Adran Priffyrdd
a Bwrdeistrefol a dderbyniodd
farn sicrwydd cyfyngedig. Bwriad yr archwiliad oedd
sicrhau bod trefniadau addas mewn lle
i sicrhau bod taliadau goramser yn cael eu
talu ar y gyfradd gywir a’u
bod yn briodol.
Er bod yr Adran Priffyrdd
a Bwrdeistrefol wedi gwneud gwaith arbennig
dros gyfnod pandemig Covid 19, amlygwyd pryder bod £193k wedi ei glustnodi
yn ychwanegol i’w cyllideb ar
gyfer 2020/21 a hwythau eisoes gyda gorwariant
o £500k. Holiwyd os oedd cynllun i
drafod gorwariant y gwasanaeth a pham nad oes modd rhyddhau'r £193k iddynt rŵan?
Mewn ymateb amlygwyd bod yr Adran yn
mynd drwy flwyddyn drosiannol oherwydd newidiadau i’r gwasanaethau casglu a gyda’r swm £193k amlygwyd mai swm ydyw
sydd yn rhan
o gais gan Cyngor Gwynedd
am arian gan y Llywodraeth oherwydd yr argyfwng. Nodwyd
bod angen pwyso a mesur beth fydd
yr incwm sydd wedi ei
golli a chynnal trafodaethau gyda’r holl wasanaethau ym mis Medi i
asesu’r swm yn ddibynnol ar
yr hyn gaiff
ei dderbyn.
Mewn ymateb i’r eglurhad, derbyniwyd
y sylw bod yr Adran yn mynd
drwy gyfnod trosiannol a bod newidiadau yn digwydd, ond
cyfeiriwyd at sawl cyfeiriad yn yr adroddiad
at drefniadau staffio o ran
salwch ac absenoldeb. Holiwyd os oedd y materion
hyn yn cael
ystyriaeth mewn cyfnod
trosiannol ac mewn cynlluniau ail drefnu. Gyda chymhelliant i ruthro a phroblemau hanesyddol gyda salwch ac absenoldebau yn y gwasanaeth a yw’r trefniadau yn addas - os
nad yw’r materion hyn yn
derbyn sylw, bydd y problemau yn parhau. Derbyniwyd
y sylw bod y Gwasanaeth mewn
cyfnod trosiannol ond y gwasanaeth yn gorwario yn
flynyddol ac felly angen ei alw gerbron
Gweithgor Gwella Rheolaethau.
Mewn ymateb i’r pryder,
nodwyd bod y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn rhoi sylw
i’r materion hyn oherwydd y goblygiadau ariannol. Er bod salwch ac absenoldebau yn ffactor yn y gwasanaeth
yma, awgrymwyd bod angen edrych yn
gyffredinol ar y polisi goramser ar gallu i
gynllunio gwaith o fewn oriau arferol.
Mewn ymateb, cynigiwyd bod angen ymchwilio i’r anghysondebau i ddefnydd y polisi
ar draws y Cyngor, sut mae goramser
yn cael ei
weithredu a sicrhau nad yw’r Cyngor yn agored i
achos gan yr Undebau.
Cynllun Rhaglen Waith Pontydd - lefel sicrwydd cyfyngedig. Bwriad yr archwiliad oedd
sicrhau bod trefniadau addas yn bodoli
er mwyn cynnal
archwiliadau o bontydd sydd o dan ofal
Cyngor Gwynedd a bod trefn addas
ar gyfer blaenoriaethu unrhyw waith angenrheidiol arnynt a dethol contractwyr. Yn dilyn awgrym i
alw’r cynllun gerbron gweithgor gwella rheolaethau, nododd y Rheolwr Archwilio y dylid eithrio’r rhaglen waith yma oherwydd
nid oedd sgôr risg archwiliad
yn adlewyrchu prosesau trefniadau gwaith sydd mewn lle - yr hyn sydd
yn cael ei
adlewyrchu yw’r risgiau sydd yn
deillio o gyfyngiadau cyllidebol ar gyfer
delio gyda digwyddiadau.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â chynnal pontydd yng Ngwynedd a sut mae hyn yn cael
ei ariannu, nododd y Pennaeth Cyllid bod modd i gynlluniau cyfalaf
gael eu hariannu
gan arian gan Lywodraeth Cymru. Ategwyd bod rhestr hir o geisiadau
wedi eu cyflwyno
ar gyfer cynlluniau sydd yn ‘barod i
symud’ gydag ambell bont wedi
ei gynnwys yn y rhestr gwaith.
Er hynny, nid oedd sicrwydd
y byddai’r arian
ar gael.
Diolchwyd am yr adroddiad cynhwysfawr.
Awgrymwyd gwahodd y gwasanaethau hynny sydd heb ymateb
i’r gweithrediadau i'r Pwyllgor er
mwyn gwyntyllu materion sydd wedi
codi. Mewn ymateb i’r awgrym,
ystyriwyd y byddai hyn yn rhestr
hir o weithrediadau ynghyd a ‘r cynlluniau
lefel sicrwydd cyfyngedig. Awgrymodd y Rheolwr Archwilio y gellid rhoi ail gyfle i wasanaethau ymateb
gyda thystiolaeth ar y gweithrediadau ac i’r pwyllgor dderbyn
diweddariad yn y cyfarfod nesaf. Os na fydd ymateb wedi
ei dderbyn erbyn hynny, yna'r
cam nesaf fydd eu galw gerbron
Gweithgor Gwella Rheolaethau
PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno i
reolwyr y gwasanaethau perthnasol, a galw rheolwyr GwE
(ynglŷn â chostau teithio) a Priffyrdd a Bwrdeistrefol (ynglŷn â
goramser) i gyfarfod y Gweithgor Gwella Rheolaethau
Dogfennau ategol: