Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Datganiad (drafft) yn ddarostyngedig i addasu’r pedwerydd cymal yn y rhanAtebolrwyddi ddileu’r cyfeiriad at ddiffyg dyhead y cyhoedd i ddal y Cyngor yn atebol, ac argymell fod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn ei arwyddo

Cofnod:

Cyflwynwyd y datganiad gan Pennaeth Cynorthwyol - Refeniw a Risg  ac eglurodd  bod y datganiad, er nad yn rhan o’r cyfrifon, yn ddogfen statudol ac angen ei chyhoeddi gyda’r cyfrifon. Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon Archwilio (Cymru) a Chod ymarfer CIPFA mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol sicrhau bod datganiad o reolaeth fewnol yn ei le. Adroddwyd mai’r Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor sydd yn arwyddo’r datganiad er bod angen cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

Rhoddwyd ychydig o gefndir i’r datganiad gan nodi bod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol i gyflwyno datganiad blynyddol ac er yn wahanol o ran fformat neu ddull mae eu cynnwys yn debyg iawn. Yng Ngwynedd, y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu, o dan arweiniad y Prif Weithredwr sydd yn adolygu'r gofrestr risg. Bydd y grwp yn trafod risgiau mewn 22 o feysydd llywodraethu gwahanol, gan nodi’r rheolaethau sydd gan y Cyngor yn eu lle er mwyn lliniaru’r risgiau hynny. Caiff hyn ei wneud mewn ymateb i fframwaith CIPFA sydd yn adnabod egwyddorion craidd ar gyfer llywodraethu da.

 

Adroddwyd bod y Grŵp wedi dod i gasgliad bod 0 maes gyda risgiau uchel iawn, 1 maes risgiau uchel, 11 maes risgiau canolig a 10 maes risgiau isel. Nodywd mai y maes risg uchel oedd diwylliant, a’r rhesymeg hyn yw bod diwylliant amhriodol o fewn y Cyngor yn llesteirio’r holl agweddau llywodraethu. Er hynny, ategwyd bod Gweledigaeth Ffordd Gwynedd yn dangos enghreifftiau da iawn gyda chynnydd arwyddocaol cyffredinol ond nid  yn gyson ar draws y Cyngor. Ategwyd bod yr amserlen wedi llithro ychydig oherwydd pandemig covid 19, ond ceir enghreifftiau bod diwylliant Ffordd Gwynedd wedi cynorthwyo’r sefyllfa mewn rhai llefydd wrth ymateb i’r argyfwng.

 

Tynnwyd sylw mai un sgôr risg sydd wedi newid yn y flwyddyn sef adolygu deilliannau a hynny oherwydd methiant i ddysgu gwersi o brofiad gan barhau i wneud yr un pethau yn anghywir.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Pryder am atebolrwydd y Cyngor ac am gymal yn yr adroddiad sydd yn mynegi nad oes ‘ dim dyhead gan y cyhoedd i ddal y cyngor yn atebol’.  Ystyriwyd hyn yn gymal dilornus a bod awydd ymysg y cyhoedd ond bod diffyg ymddiriedaeth oherwydd penderfyniadau anodd yn y gorffennol. Er mai Aelodau sydd yn cynrychioli’r cyhoedd nid oes grym gan aelodau cyffredin gan nad ydynt yn rhan o drafodaethau ac felly efallai'r cyhoedd yn colli cysylltiad.

·         Cysylltiad gydag Aelodau wedi bod yn wan yn ystod y cyfnod clo. Diffyg cyfathrebu gyda Chadeiryddion Pwyllgoraubach

·         Diffyg mewnbwn i benderfyniadau -  derbyn gwybodaeth o benderfyniadau ond braf fuasai cael gwybod beth sydd yn cael ei drafod ymlaen llaw.

·         Risg sgôr ddim yn gwahaniaethu o flwyddyn i flwyddyn. Pam nad oes ymateb i’r her? Pam nad oes gwelliant?

·         Meysydd wedi eu cytuno ar gyfer datblygu - sut fydd ‘mewnbwn’ y cyhoedd yn cael ei fesur ac a fydd barn y cyhoedd yn cael ei gynnwys?

·         Rhy fuan efallai i feirniadu gan fod pwysau mawr i ymateb i effaith y pandemig a gwneud y penderfyniadau cywir.

 

Mewn ymateb nododd y Pennaeth Cyllid bod llwyth o waith ychwanegol i’r gwaith dyddiol wedi ei wneud i flaenoriaethu adnoddau a sicrhau parhad gwasanaethau mewn ymateb i effaith y pandemig  Ategwyd bod pob ymgais wedi ei wneud i ddefnyddio pob adnodd posib ac nad oedd bwriad i beidio cyfathrebu.

 

PENDERFYNWYD Cymeradwyo’r Datganiad (drafft) yn ddarostyngedig i addasu’r pedwerydd cymal yn y rhan “Atebolrwydd” i ddileu’r cyfeiriad at ddiffyg dyhead y cyhoedd i ddal y Cyngor yn atebol, ac argymell fod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn ei arwyddo

 

Dogfennau ategol: