Agenda item

I ystyried adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru

 

Penderfyniad:

Derbyn adroddiad Archwilio Cymru

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Alan Hughes (Archwilio Cymru). Nodwyd, er bod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu cyn cyfnod covid roedd y prif ganfyddiadau, cysyniadau ac egwyddorion yn parhau yn briodol. Cyfeiriwyd at y crynodeb o ddarganfyddiadau’r archwiliad gan amlygu mai’r prif ganfyddiad oedd bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn gymharol gryf ar hyn o bryd gyda strategaeth ariannol yn cefnogi cydnerth ariannol. Er hynny, amlygwyd risg bod rhai o wasanaethau  yn gorwario yn sylweddol ac nid yw’r holl arbedion yn cael eu gwireddu. Aethpwyd drwy’r canfuddiadau fesul un gan dynnu sylw at y risigau.

 

Mewn ymateb, diolchodd y Pennaeth Cyllid am yr adroddiad gan nodi ei fod yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa ond yr adroddiad wedi dyddio rhyw ychydig erbyn hyn. Rhoddwyd diweddariad ar lafar o’r sefyllfa bresennol:

 

·         Gwynedd oedd yr awdurdod gyntaf i adrodd ar Effaith Covid-19 ar Gyllideb 2020/21 a gwnaed hynny i’r Cabinet 19/05/20

·         Ers hynny, sawl awdurdod wedi derbyn adroddiadau gan eu trysorydd, a’r hyn sydd yn gyffredinol ymhob adroddiad yw’r ansicrwydd –

 

a)            ynglŷn â pharhad cyfyngiadau’r argyfwng, ac

b)            am faint y cymorth gellid disgwyl gan Lywodraeth  Cymru.

·         Nid yw sefyllfa debygol Cyngor Gwynedd wedi newid yn sylfaenol ers adrodd ym mis Mai.

·         Yn y chwarter cyntaf, roedd y gwariant ychwanegol oddeutu £2m oedd ychydig yn fwy na’r hyn a ragwelwyd, ond swmp ohono wedi’i ddigolledu. 

·         Nid oedd y gost ychwanegol a adroddwyd arno yn cynnwys taliadau Gostyngiadau Treth Cyngor. Disgwylir y bydd Llywodraeth Cymru yn digolledu hwn hefyd gyda thrafodaethau yn cael eu cynnal 30/07/20

·         Roedd colled incwm y Cyngor ychydig yn llai na’r hyn a  amcangyfrifwyd, ac mae gobaith hefyd o ddigolledu’r swmp yma yn Ch.1.

·         Ym mis Mai, trafodwyd colled incwm o £5m yn Ch.1, a £5m pellach yn Ch.2. Gwir golled incwm Ch.1 oedd £4.9m, ac mae tebygolrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn digolledu awdurdodau am gyfran dda ohono (cais wedi ei  gyflwyno 27/07/20).

·         Bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn gwneud achos i Llywodraeth Cymru neilltuo cronfa am Ch.2, ond dim sicrwydd o hynny.

·         Asesiad y Cyngor o’r golled incwm ddim yn cynnwys sefyllfa casgliad o’r Dreth Cyngor – hyn yn bryder ac yn amhosib i’w fesur ar hyn o bryd.

·         Fodd bynnag, mae lle i ddisgwyl bydd incwm Ch.2 ar lefel dipyn agosach at y gyllideb wrth i fusnesau ail-agor, ymwelwyr yn talu am barcio, ayb.

·         Y reserfau am gymryd ergyd, ond bod digon ar gael i ymdopi gyda’r sefyllfa eleni

·         Bydd angen cynllunio ymlaen ar gyfer 2021/22, gan nad oes gwarant y bydd grant Llywodraeth Cymru yn cadw fyny gyda chwyddiant - cyn yr argyfwng, roedd setliad 2020/21, yn un o’r gorau ers degawd a mwy, oedd yn argoeli fod y blynyddoedd o doriadau llym wedi lleddfu.

·         Bydd angen cymryd stoc o’r sefyllfa a cheisio ystyried rhediad eang o bosibiliadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Y wybodaeth i’w gyflawni yn ffurfiol i’r Cabinet ym mis Hydref.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am fewnbwn y Pennaeth Cyllid.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfanswm o £37.8m o fwlch ariannol a pha mor hyderus rydym o’r ffigyrau hyn? nodwyd bod balansau 2019/20 a 2020/21 wedi eu delio gyda hwy, ond anodd iawn fyddai rhoi ffigwr ar y blynyddoedd eraill ac felly rhoi rhybudd iechyd ar y sefyllfa oherwydd yr ansicrwydd

 

Mewn ymateb i gwestiwn y byddai llwyddiant y Cyngor yn cael ei gosbi oherwydd eu lefelau reserfau iach, nodwyd nad oedd lefelau'r resefrau yn ffactor sydd yn dylanwadu ar y taliadau grant gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr hawliad yn cael ei benderfynau ar sail angen a’r gwahaniaeth rhwng incwm eleni a llynedd ynghyd a gwir gostau ychwanegol dilys e.e., costau staff ychwanegol a PPE

 

Nododd yr Aelod Cabinet bod ansicrwydd mawr o beth fydd cyfanswm yr arian a gawn gan Lywodraeth Cymru sydd ei hunain yn ddibynnol ar benderfyniadau Llywodraeth  San Steffan. Roedd yr Aelod Cabinet o'r farn y bydd y sefyllfa yn dderbyniol eleni, ond gwir bryder am 2021/22.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a chael adroddiad cyfansawdd o’r holl gynghorau er mwyn cael cymhareb, nodwyd bod bwriad casglu'r holl negeseuon i un adroddiad cenedlaethol ond daethpwyd i gasgliad i ailddyranu’r adnoddau a chanolbwyntio ar y sefyllfa mae'r cynghorau yn ei wynebu yn sgil effaith covid. Ategwyd bod angen ystyried effaith risg ‘dim incwmi’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad a sylwadau Archwilio Cymru

 

 

Dogfennau ategol: