Agenda item

Adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen.

Penderfyniad:

(a) Nodi statws y perthnasau a’r sianeli ymgysylltu cyfredol gyda’r Sector Preifat.

(b) Nodi bwriad Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i dynnu’n ôl fel partner i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

(c) Nodi Cylch Gorchwyl drafft a gyflwynir gan Gadeirydd dros dro’r Grŵp Cyflawni Busnes a gofyn am adroddiad pellach gan y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro’r Awdurdod, ar y diwygiadau arfaethedig i gylch gorchwyl y Grŵp Cyflawni Busnes a fabwysiedir gan y Bwrdd Uchelgais.

(ch) Cadarnhau’r camau a’r gweithredoedd nesaf arfaethedig i wella ymgysylltu a dealltwriaeth y sector preifat.

(d) Gohebu â Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i weld oes modd i Lywodraeth Cymru wneud cyfraniad i gefnogi Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, a chyflwyno adroddiad llawer mwy manwl ynglŷn â threfniadaeth ymgysylltu â’r sector preifat i’r cyfarfod nesaf.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Nodi statws y perthnasau a’r sianeli ymgysylltu cyfredol gyda’r Sector Preifat.

(b)     Nodi bwriad Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i dynnu’n ôl fel partner i Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.

(c)     Nodi Cylch Gorchwyl drafft a gyflwynir gan Gadeirydd dros dro’r Grŵp Cyflawni Busnes a gofyn am adroddiad pellach gan y Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, ar y diwygiadau arfaethedig i gylch gorchwyl y Grŵp Cyflawni Busnes a fabwysiedir gan y Bwrdd Uchelgais.

(ch)   Cadarnhau’r camau a’r gweithredoedd nesaf arfaethedig i wella ymgysylltu a dealltwriaeth y sector preifat.

(d)     Gohebu â Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i weld oes modd i Lywodraeth Cymru wneud cyfraniad i gefnogi Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, a chyflwyno adroddiad llawer mwy manwl ynglŷn â threfniadaeth ymgysylltu â’r sector preifat i’r cyfarfod nesaf.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae angen penderfyniad er mwyn galluogi i’r Swyddfa Rhaglen fuddsoddi mewn dylunio a chyflawni mecanweithiau ar gyfer gwella ymgysylltu gyda’r sector preifat yn y Gogledd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn:-

 

·         Cyflwyno trosolwg o’r berthynas a’r sianeli ymgysylltu cyfredol rhwng Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r sector preifat yn y Gogledd (Atodiad 1).

·         Cyflwyno diweddariad i’r aelodau ar statws Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy fel partner i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Atodiad 2).

·         Cyflwyno Cylch Gorchwyl drafft arfaethedig a gyflwynwyd i’r ystyried gan Gadeirydd dros dro'r Grŵp Cyflawni Busnes (Atodiad 3).

·         Cynnig y camau nesaf a’r dull o gryfhau perthynas, ymgysylltiad ac ymglymiad y sector preifat yng Nghynllun Twf Gogledd Cymru (Atodiad 4).

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol, goblygiadau cyfreithiol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Cyfeiriwyd at benderfyniad Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i dynnu’n ôl o’r Bwrdd Uchelgais, a rhannwyd llythyr ymddiswyddo’r Cyngor Busnes yn ei gyfanrwydd gyda’r aelodau.  Diolchwyd yn arbennig i Ashley Rogers am ei gyfraniad dros y blynyddoedd i waith y Bwrdd wrth ddatblygu prosiectau a symud yr holl gynllun yn ei flaen.  Nodwyd y cydnabyddid, yn yr hinsawdd sydd ohoni, bod rhaid i brif ffocws y Cyngor Busnes fod ar y busnesau maent yn eu cynrychioli.  Fodd bynnag, er bod y sefyllfa’n un drist, gallai hyn agor y drws i’r Bwrdd ail-edrych ac atgyfnerthu ei berthynas â’r sector preifat drwy greu rhywbeth newydd ac arloesol, fyddai’n cynnig cyfraniad sylweddol gan y sector preifat eto.  Ychwanegwyd y bydd y sector preifat yng Ngogledd Cymru yn gefnogol i amcanion y Cynllun Twf, a chroesawyd y ffaith bod yna rywbeth cadarnhaol yn dod allan o sefyllfa ddigon anodd.

 

Nodwyd ymhellach y cynhaliwyd cyfarfod eisoes gydag Ashley Rogers a Jim Jones o’r Cyngor Busnes i drafod eu syniadau ar gyfer cydweithio gyda’r Bwrdd yn y dyfodol.  Nodwyd eu bod yn fudd-ddeiliaid gyda chyfraniad i’w wneud, a bod rhai syniadau da iawn wedi’u crybwyll eisoes.

 

Nodwyd, yn dilyn y penderfyniad i ail-edrych ar rôl y Grŵp Cyflawni Busnes, y bu i Gadeirydd y Bwrdd fynychu cyfarfod y Grŵp i egluro’r rhesymeg y tu cefn i’r penderfyniad.  Cafwyd cryn gefnogaeth yn y cyfarfod ac roedd ymateb y Grŵp wedi bod yn gadarnhaol iawn.  Bu’r Cadeirydd hefyd yn dyst i’r ffaith fod y Grŵp yn holi cwestiynau caled a threiddgar iawn ar y gwahanol brosiectau, oedd yn profi bod ganddynt rôl bwysig iawn i fynd i waelod rhai o’r prosiectau a sicrhau eu bod yn realistig.

 

Nodwyd, wrth symud ymlaen, bod angen ystyried rhai o’r syniadau arloesol a chyffrous a gyflwynwyd gan y Grŵp Cyflawni Busnes a’r Cyngor Busnes, a gweld sut y gellir cyfuno hynny, gan gyflwyno adroddiad llawer mwy manwl ynglŷn â threfniadaeth ymgysylltu â’r sector preifat i’r cyfarfod nesaf.

 

Gan gyfeirio at y penderfyniad i drosglwyddo ysgrifenyddiaeth y Grŵp Cyflawni Busnes i’r Swyddfa Rhaglen, diolchwyd i Gerry Beer, Prifysgol Glyndŵr am gyflawni’r rôl hyd yma. 

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Mynegwyd siomedigaeth bod y Cyngor Busnes wedi tynnu nôl o’r Bwrdd Uchelgais, ond croesawyd y ffaith bod camau ar droed i wella’r ymgysylltu gyda’r sector preifat yn ei gyfanrwydd.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ymgysylltiad y sector preifat â chynlluniau twf eraill, nodwyd bod nifer o gynlluniau flynyddoedd o flaen Cynllun Twf Gogledd Cymru, a chyda mwy o brofiad o ran sut i greu perthynas gref gyda’r sector.  Roedd yn rhaid cydnabod bod Gogledd Cymru yn wahanol i ranbarthau eraill, ac roedd yn bwysig canolbwyntio ar gydweithio gyda’r sector i greu’r dull gweithredu gorau ar gyfer Gogledd Cymru, gan gymryd ymlaen rai o’r gwersi o lefydd eraill.  Nid oedd neb wedi canfod dull gweithredu perffaith eto, ac roedd pob rhanbarth wedi wynebu sialensau.

·         Nodwyd bod llythyr y Cyngor Busnes yn sôn am ddiffyg refeniw, a holwyd a ddylid edrych ar ffynonellau ariannu ar gyfer hynny.

·         Nodwyd y byddai colli’r Cyngor Busnes yn drychineb, ac yn gyrru neges anghywir allan, a bod y Bwrdd fwy o angen yr arbenigedd nag erioed.  I’r diben hynny, awgrymwyd y dylai’r Bwrdd gytuno mewn egwyddor yn y cyfarfod hwn i gyllido’r Cyngor Busnes ai peidio.  Mewn ymateb, nodwyd, er bod y sefyllfa’n un drist, bod yna gwestiwn yn codi ynglŷn â phriodoldeb a chwestiwn difrifol ynglŷn â gwneud taliad i aelod o’r Bwrdd am eu cynrychiolaeth.  Roedd yr holl bartneriaid a’r Cyngor Busnes yn cyfrannu’n ariannol a / neu drwy amser swyddogion.  Cynghorwyd y Bwrdd ynglŷn â’r materion priodoldeb, gan nodi na ellid gwneud cynigion o’r fath heb adroddiad ffurfiol ac arweiniad ar yr agweddau yma.

·         Awgrymwyd gofyn i Lywodraeth Cymru oedd modd iddynt ddarparu cymorth grant tuag at gynaladwyedd ariannol y Cyngor Busnes (nid eu talu i fod yn aelodau o’r Bwrdd).

·         Nododd Iwan Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) fod yna rai materion technegol yn codi o ran y Cylch Gorchwyl Drafft, ac y byddai’n eu hanfon ymlaen i sylw Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya.

 

Dogfennau ategol: