Cyflwynwyd gan:Cyng. Cemlyn Williams
Penderfyniad:
a)
Cymeradwyo’r strategaeth mewn egwyddor
b) Ein
bod yn gofyn i Lywodraethwyr pob ysgol yn unigol i nodi a fyddent yn fodlon
tanysgrifio’r gost adnewyddu dyfeisiadau o’u cyllidebau/ cronfeydd ysgolion ac
os ddim i nodi pam;
c) Bod
y gwasanaeth yn agor trafodaethau ar fyrder gyda rhanddeiliad perthnasol i
fanylu mwy ar sut y bwriedir cynnal y gyfundrefn a sut y bwriedir talu amdano
gyda golwg ar gynnwys hynny yn y strategaeth ;
d) Gan
gymryd nad ydym am gael yr holl arian ar gyfer cyflawni’r strategaeth yn Medi,
bod y gwasanaeth yn ystyried ac yn gosod allan beth fyddai’r cynllun ar gyfer
mewnosod y strategaeth yn raddol;
e) Bod
adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 8 Medi yn
nodi lle dan ni wedi cyrraedd gyda hyn oll, gyda golwg ar i ni unai
gymeradwyo’r Strategaeth yn derfynol neu i gymeradwyo gosod yr archeb gyntaf.
COFNODION:
Cyflwynwyd gan
Garem Jackson.
PENDERFYNIAD
a) Cymeradwyo’r
strategaeth mewn egwyddor
b) Ein bod yn gofyn i Lywodraethwyr pob ysgol yn unigol i nodi a fyddent yn fodlon tanysgrifio’r gost adnewyddu dyfeisiadau o’u cyllidebau/ cronfeydd ysgolion ac os ddim i nodi pam;
c) Bod y gwasanaeth yn agor trafodaethau ar fyrder gyda rhan ddeiliad perthnasol i fanylu mwy ar sut y bwriedir cynnal y gyfundrefn a sut y bwriedir talu amdano gyda golwg ar gynnwys hynny yn y strategaeth ;
d) Gan gymryd nad ydym am gael yr holl arian ar gyfer cyflawni’r strategaeth yn Medi, bod y gwasanaeth yn ystyried ac yn gosod allan beth fyddai’r cynllun ar gyfer mewnosod y strategaeth yn raddol;
e) Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 8 Medi yn nodi lle dan ni wedi cyrraedd gyda hyn oll, gyda golwg ar i ni unai gymeradwyo’r Strategaeth yn derfynol neu i gymeradwyo gosod yr archeb gyntaf;
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth mewn egwyddor i’r strategaeth. Mynegwyd fod
arian ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ei wario ar offer sydd wedi ei
gaffael yn genedlaethol. Nodwyd y bydd y buddsoddiad yn cryfhau isadeiledd
technoleg gwybodaeth mewn ysgolion er mwyn cyfoethogi profiadau pobl ifanc.
Ychwanegwyd fod Covid-19 wedi amlygu gwerth technegol gwybodaeth i gryfhau
addysg o ran dysgu cyfunol a bod dysgu o bell wedi bod yn allweddol i gadw
cysylltiad yn ystod y cyfnod.
Mynegwyd fod y strategaeth sydd wedi ei
lunio yn un cyffroes sydd yn amlygu llwybr clir. Esboniwyd fod angen gwneud
cais am arian cychwynnol ac er mwyn gwneud hyn fod angen i’r Cabinet mabwysiadu
mewn egwyddor i symud ymlaen a’r gwaith. Ychwanegwyd y bydd adroddiad pellach
yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn dilyn trafodaethau gyda rhan ddeiliaid.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd fod y Llywodraeth yn ariannu y rhan gyntaf y strategaeth o
brynu'r cyfarpar technoleg gwybodaeth ond fod angen dod o hyd i’r arian er mwyn
diweddaru a chefnogi’r dyfeisiadau.
¾ Mynegwyd fod y strategaeth a bwriad gwych ond fod yr ymrwymiad yn
sylweddol. Holwyd beth yw’r safon mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei
gyrraedd a beth mae awdurdodau eraill yn ei wneud. Holwyd os oes opsiynau
eraill a phwysleisiwyd pwysigrwydd o gael ymgynghoriad ac ysgolion. Nodwyd nad
yw’r cyfarpar sydd ar gael yn ddigon da a bod hyn i’w weld ledled Cymru.
Amlygwyd y safonau sydd yn ddisgwyliedig sydd yn cynnwys safonau diogelwch a
rheoli dyfeisiadau. Pwysleisiwyd fod Gwynedd yn awyddus i roi dyfais i bob
plentyn yn yr ysgol uwchradd fel bod modd iddynt gael ei defnyddio ymhob gwers
gan roi’r cyfle i bob plentyn barhau gyda’r dysgu adref yn ogystal.
¾ Amlygwyd fod diweddaru'r cyfarpar am fod oddeutu £2m a bod y strategaeth
yn nodi cyfraniadau gan ysgolion sydd yn ddigon teg, ond pwysleisiwyd yr angen
i gael trafodaethau gyda’r ysgolion. Nodwyd fod trafodaethau wedi cychwyn a'i
bod wedi amlygu fod y symiau yn rhy uchel i rai ysgolion gan ei fod yn
ymrwymiad tymor hir.
¾ Croesawyd y weledigaeth ond nodwyd fod pryderon am wybodaeth ac nad oedd
yr elfennau ariannu yn gwbl glir.
¾ Nodwyd fod y Cyngor yn awyddus i leihau ôl troed carbon a bod y
teclynnau ag ôl troed go fawr, holwyd beth fydd yn cael ei wneud i leihau hyn.
Holwyd yn ogystal os bydd y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y feddalwedd
ar y cyfarpar. Nodwyd fod y cyfarpar ar hyn o bryf wedi dyddio ac o ganlyniad
yn defnyddio lefel uchel o drydan ac felly y bydd cyfarpar newydd yn fwy
gwyrdd. O ran yr elfen ieithyddol nodwyd fod popeth yn cael ei wneud drwy HWB
ac felly dewis iaith yn y llwyfan gweithredu.
¾ Mynegwyd fod y strategaeth yn un uchelgeisiol o’i gymharu ag awdurdodau
eraill ond ei fod yn gyfle i gyfarch y cwricwlwm newydd yn ogystal.
¾ Amlygwyd fod trafodaethau wedi ei gynnal a phob ysgol uwchradd ynghyd a
Ffederasiwn ysgolion Cynradd.
¾ Mynegwyd fod y ddarpariaeth ddigidol mewn addysg ar draws y sir angen ei wella a dangoswyd cefnogaeth i’r cynllun. Adnabu fod llawer o gwestiynau yn codi megis sut i sicrhau ei fod yn gynaliadwy. Amlygwyd angen i drafod a rhan ddeiliad, llywodraethwyr ac ysgolion a gofynnwyd am adroddiad pellach i’r Cabinet ar 8fed Medi er mwyn dechrau’r broses ac i brynu amser fel bod cyfle i Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi gael cyfle i edrych ar y strategaeth yn ogystal.
Awdur:Gwern ap Rhisiart a Huw Ynyr
Dogfennau ategol: