Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Dosbarthwyd
atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen
llaw.)
(1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Gruffydd
Williams
“A oes modd
i’r Cyngor ddwyn perswâd ar
Un Llais Cymru i gynnwys, nid
yn unig y Cadeirydd a’r clerc,
ond yn ogystal
pob Aelod o Gyngor Tref a Chymuned,
yn y drefn o gynghori cyfreithlon? Rwy’n gofyn oherwydd mae’r gŵyn
yn aml yn
ymwneud â ffrae rhwng Clerc a neu
Gadeirydd ac Aelodau Cynghorau Tref a Chymuned. Ar hyn o bryd,
nid oes bosib’
i Aelodau unigol gael
cyngor gan Un Llais Cymru parthed
materion sydd yn ymwneud â Chynghorau
Cymuned, megis camweinyddu ar ran y Clerc a neu'r Cadeirydd.”
Ateb gan
yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys
“Mae pob un o’r 64 Cyngor
Tref a Chymuned yng Ngwynedd yn
gorfforaeth sydd yn atebol a chyfrifol
am ei weithdrefnau ei hun. Ac eithrio rôl Pwyllgor Safonau
ynglŷn â materion Cod Ymddygiad, nid oes gan Gyngor
Gwynedd swyddogaeth drosolwg
ffurfiol ynglŷn
â rhedeg y cyrff yma. Fodd bynnag, fel
partneriaid allweddol mewn sawl agwedd
o’n gwaith, rydym yn awyddus
bod ganddynt y trefniadau llywodraethu priodol.
Yn ôl eu gwefan:-
“Un Llais Cymru yw’r prif
gorff ar gyfer cynghorau cymuned a thref Cymru, ac mae’n sicrhau llais cryf
i gynrychioli diddordebau’r cynghorau, a darparu ystod o wasanaethau o safon i gefnogi eu
gwaith”.
Mae agos i 740 o gynghorau
Tref a Chymuned yng Nghymru. Ond, deallaf fod Un Llais Cymru yn
darparu gwasanaeth ar gyfer y Cynghorau
Tref a Chymuned hynny sydd yn
dewis talu tâl aelodaeth iddynt. Gwneir hynny drwy’r pwynt
cyswllt arferol, sef y Clerc neu’r
Cadeirydd ar ran y Cyngor Tref neu
Gymuned. Yn amlwg mae ystod y gwasanaethau sydd yn cael eu
darparu a’r hyn a gynigir gan
Un Llais Cymru yn fater busnes
iddynt hwy.
Nid oes gennyf ffigyrau
am sawl Cyngor Cymuned sydd yn
dewis aelodi ag Un Llais Cymru. Ar y llaw arall gallaf
ddyfalu fod darparu gwasanaethau cynghori a chefnogi ar gyfer oddeutu
8,000 o gynghorwyr Tref a Chymuned yng Nghymru
yn golygu dipyn o adnoddau a chapasiti.
Efallai, o ystyried y darpariaethau ynglŷn â Chynghorau Cymuned Cymwys o fewn y Bil Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2019, ei bod yn amserol i
gael y drafodaeth
ynglŷn a natur y gefnogaeth mae Cynghorau Tref a Chymuned ei angen
i’r dyfodol. Ond, yn fy marn i, y ffordd
briodol o fynd â’r mater yma ymlaen
fyddai i’r Cynghorau Tref a Chymuned a’u haelodau
wneud yr achos yn uniongyrchol
i Un Llais Cymru.”
Cwestiwn Atodol
gan y Cynghorydd Gruffydd
Williams
“Oni fyddai’n cael mwy o rym petai’r
cwestiwn yn mynd i Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru gan Gyngor
Gwynedd, ar ran y cynghorau
cymuned?”
Ateb gan
yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys
“Rwy’n cydnabod y pwynt yn llwyr
gan y cynghorydd, a diolch i’r cynghorwyr
tref a chymuned am y gwaith arwrol mae llawer yn wneud yn
eu cymunedau. Fel ‘rwy’n dweud, y ffordd briodol yn fy marn
i o fynd â’r mater ymlaen ydi i’r cynghorau
tref a chymuned a’u haelodau wneud
yr achos yn uniongyrchol i Un Llais Cymru,
ond ‘rwy’n hapus i godi
hyn i fyny
hefo’r Cynghorydd Williams
y tu allan i gyfarfod y Cyngor
llawn i weld oes yna fwy
y gallaf ei wneud fel Aelod
Cabinet i hwyluso, cynorthwyo neu gefnogi hynny.”
(2) Cwestiwn gan y Cynghorydd Gareth Tudor Jones
“Mae cynnydd sylweddol
wedi bod ym mhryniant ail gartrefi yn ddiweddar yng
Ngwynedd, ac yn arbennig ym Morfa
Nefyn / Edern. Yn ôl trigolion
lleol, Cyngor Tref Nefyn a'r
Cynghorydd Craig ab Iago (ar
Pawb a'i Farn ) mae'n 'Argyfwng'. Pa gamau mae'r Cyngor yn
bwriadu eu cymryd i alw
ar Lywodraeth Cymru i ddatganoli
pwerau ar frys i'r Cyngor
Sir i liniaru'r sefyllfa a rheoli ail gartrefi?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd
Gareth Griffith
“Mae’r gwaith yma wedi dechrau
flwyddyn ddiwethaf, ac rydym wrthi’n casglu
tystiolaeth. Bydd y gwaith wedi’i
gwblhau erbyn diwedd Tachwedd ac mi fyddwn ni’n symud
ymlaen gyda hynny. Mae’r ateb ysgrifenedig
yn delio gyda’r hyn sydd
wedi digwydd hyd yma a sut
rydym am ddelio ag o yn y dyfodol, ond
mae’r gwaith yma wedi dechrau
flwyddyn ddiwethaf.”
Cwestiwn Atodol
gan y Cynghorydd Gareth
Tudor Jones
“Oni chytunwch, a hithau’n argyfwng ail-gartrefi, na ddylem fodloni
ar ddisgwyl misoedd eto am ganlyniad yr ymchwil
a bod angen gweithredu yn awr, ac
ar frys, a bod dyletswydd ar y Cyngor i ymgyrchu
o ddifri’ i ddatganoli pwerau o’r Llywodraeth yng Nghaerdydd i’r Cynghorau Sir am reolaeth ar gyfraddau
treth tir yn benodol, er
mwyn i Gyngor
Gwynedd allu cyflwyno mesurau argyfwng i fonitro a rheoli
pryniant ail-gartrefi?”
Ateb gan
yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth
Griffith
“Fel mae’r ateb
i’r cwestiwn gwreiddiol yn nodi,
‘rydym yn gwneud y gwaith ar hyn o bryd
i gymunedau Gwynedd i gyd, ac mae’n
delio hefo prisiau tai, a hefyd
sut mae hyn
yn effeithio ar ein cymunedau
yng Ngwynedd. Mae’n broses sy’n mynd i
gymryd amser. Nid ydi o’n rhywbeth
sy’n mynd i ddigwydd dros
nos, mae
gen i ofn. Yr hyn sy’n bwysig
ydi, beth bynnag fyddwn ni’n
ei wneud yn y dyfodol, bod y dystiolaeth gennym i fynd ymlaen
gyda hwn. ‘Rydw i wedi siarad
hefo Sian Gwenllian, AS, ac mae hi wedi ei rannu gyda’i
chyfoedion yng Nghaerdydd bod y gwaith yma’n mynd ymlaen
a bod angen cefnogaeth mewn amser i
roi perswâd arnynt yng Nghaerdydd
hefo’r ffordd ymlaen. Mae i fyny i
Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y dydd,
ond mae
i fyny i
ni eu perswadio
i roi'r dystiolaeth
gerbron.”