Cyflwyno adroddiad
Arweinydd y Cyngor (ynghlwm).
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r adroddiad fel adlewyrchiad
cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2019/20, a’i fabwysiadu.
COFNODION:
Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad
Perfformiad Cyngor Gwynedd 2019/20 fel darlun clir, cytbwys a chywir o
berfformiad y Cyngor yn ystod 2019/20.
Nododd yr
Arweinydd, oherwydd y pandemig, fod holl ymdrechion adrannau’r Cyngor wedi’u
cyfeirio tuag at ymateb i’r argyfwng o ganol mis Mawrth, a’i bod yn rhyfedd
edrych yn ôl ar adeg oedd yn normal.
Nododd fod yr argyfwng wedi amlygu pwysigrwydd llywodraeth leol wrth
ddarparu gwasanaeth i’r trigolion, a diolchodd i staff yr holl wasanaethau am
eu gwaith caled yn cefnogi cymunedau’r sir, ac i’r cynghorwyr am wneud gwaith
arwrol ar ran eu hetholwyr.
Nododd yr
Arweinydd ymhellach nad oedd yr aelodau wedi cael y
cyfle arferol i graffu mewn pwyllgorau eleni, a diolchodd iddynt am eu hamynedd
yn ystod y cyfnod. Eglurodd hefyd, gan
ei fod yn ymwybodol o’r bwlch yn y ddeialog arferol rhwng yr aelodau i gyd a’r
Weithrediaeth, ei fod yn bwriadu trefnu cyfres o gyfarfodydd briffio gyda’r
aelodau cabinet a’r penaethiaid i ddiweddaru’r aelodau ynglŷn â’r gwaith
oedd wedi digwydd yn y gwahanol feysydd, ac i roi cyfle i’r aelodau drafod a
gofyn cwestiynau.
Diolchodd i Bethan
Richardson (Swyddog Cefnogi Busnes) a Dewi Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi
Busnes y Cyngor) am baratoi’r adroddiad mewn ffordd mor
ddealladwy.
Dymunodd yr
Arweinydd yn dda i’r Cynghorydd Cemlyn Williams (Aelod Cabinet Addysg), oedd yn
methu bod yn bresennol yn y cyfarfod, gan iddo dderbyn triniaeth yn yr ysbyty
yn ddiweddar iawn. Yna estynnodd
wahoddiad i bob aelod cabinet arall ddweud gair yn eu tro. Yn ystod eu cyflwyniadau, bu i’r aelodau
cabinet uchafu rhai pwyntiau o’r adroddiad oedd yn berthnasol i’w meysydd
gwaith, gan fanylu ar flaenoriaethau’r gwasanaethau dros y cyfnod nesaf a’r
heriau oedd yn eu hwynebu. Bu iddynt
hefyd adrodd ar sut y bu i’r adrannau gyfrannu’n sylweddol at yr ymateb i’r
argyfwng, gan ddiolch i’r penaethiaid a’r staff am eu holl waith caled.
Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Diolchwyd i holl staff y Cyngor am eu gwaith clodwiw
yn ystod cyfnod yr argyfwng, a hefyd i’r cynghorwyr, y gwirfoddolwyr lleol, y
trydydd sector, Mantell Gwynedd, a busnesau bach y sir.
·
Mynegwyd siomedigaeth
ynglŷn â dymuniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i dynnu’r agos at 40 o
welyau nyrsio o Ben Llŷn, a gofynnwyd i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a
Llesiant godi’r mater gyda’r Bwrdd Iechyd.
·
Diolchwyd i’r Aelod
Cabinet Amgylchedd am ymweld â Phen Llŷn yn ddiweddar, a nodwyd ei bod yn
dda gweld sut roedd bywyd gwyllt wedi ffynnu a llygredd wedi lleihau yn ystod y
cyfnod clo.
·
Nodwyd y pryderid
ynglŷn â’r hyn oedd o’n blaenau o ran y pandemig, a’r holl swyddi fyddai’n
cael eu colli yma yng Ngwynedd dros y gaeaf.
·
Croesawyd yr
adroddiad a nodwyd bod yr ystadegau’n dangos bod y gwaith sy’n cael ei roi i
mewn gan Wynedd yn arwain at ganlyniadau da.
·
Nodwyd y gwelwyd
cynnydd aruthrol yn y galw am dai ers cychwyn y flwyddyn, a holwyd sut y gellid
monitro, mesur ac ymateb i newidiadau yn y cyflenwad a’r galw, nid yn unig ar
lefel sirol, ond ar lefel mwy lleol hefyd.
Mewn ymateb, eglurodd yr Aelod Cabinet Tai y bwriedid adeiladu
hyblygrwydd i mewn i’r Cynllun Gweithredu Tai, ac nad oedd yna fwriad i fod yn
rhagnodol. Eglurodd hefyd fod mesur
pethau yn elfen bwysig o Ffordd Gwynedd, a bod croeso i’r aelod gysylltu ag ef
os oedd ganddo ragor o gwestiynau.
·
Holwyd beth allai’r cynghorwyr wneud i gynorthwyo’r
staff yn ystod y cyfnod caled hwn. Mewn
ymateb, nododd y Prif Weithredwr fod yr aelodau i’w canmol am newid eu trefniadau
gweithio er mwyn gadael i’r staff wneud eu gwaith dros y cyfnod, ac na chredai fod yna lawer mwy y gallai’r aelodau wneud, ac
eithrio parhau i gefnogi’r staff. Roedd
llawer o’r gwaith o ran ymateb i’r argyfwng yn disgyn ar y gyfundrefn
argyfwng. Anogwyd yr aelodau i ddarllen
adroddiad i Gabinet 13 Hydref ar drefniadau’r Cyngor ar gyfer paratoi ar gyfer
y posibilrwydd o ail don o’r pandemig.
·
Nodwyd bod y cyfnod
wedi bod yn anodd i gynghorwyr a bod y mwyafrif wedi codi i’r sialens.
·
Diolchodd aelod i’r
staff hynny oedd wedi mynd y filltir ychwanegol i’w helpu dros y misoedd
diwethaf, ac yn arbennig Steffan Jones (Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol),
Adrian Williams (Peiriannydd Ardal Meirionnydd), Sion Wilkes (Arolygydd
Priffyrdd) a Tracey Loveday-Fone (Swyddog Gorfodaeth Sifil).
·
Mynegodd yr aelod
lleol ei hanfodlonrwydd ynglŷn â phenderfyniad Ymgynghoriaeth Gwynedd i
dynnu allan o Fwrdd Prosiect Fairbourne a ffurfio grŵp eu hunain, heb
ymgynghori â hi.
·
Cyfeiriwyd at brosiect monitro asedau drwy synwyryddion
Ymgynghoriaeth Gwynedd a nodwyd, trwy gysylltu’r synwyryddion â’i gilydd a
defnyddio deallusrwydd artiffisial, bod modd i’r datblygiad cyffrous hwn greu’r
cyfle i staff weithio yn drawsadrannol, ac i weithio’n unol ag
egwyddorion Ffordd Gwynedd. Holwyd a
fyddai’n bosib’ i’r aelodau gael allbwn o’r
synwyryddion, gan y byddai hynny’n eu galluogi i wybod os oes problemau yn
datblygu yn eu wardiau. O dderbyn y
wybodaeth leol honno, gallai’r aelodau gynorthwyo’r swyddogion a rhoi gwybod i
bobl sy’n cael eu heffeithio. Mewn
ymateb, nododd yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol nad
oedd y ddarpariaeth ar gael ar draws y sir eto, ond ei bod yn bosib’ cael
mynediad mewn rhai mannau. Ychwanegodd y
byddai’n croesawu sgwrs bellach ynglŷn â photensial y synwyryddion a
gellid trafod hynny yn y briffio gyda’r aelodau.
·
Diolchwyd am yr adroddiad, a nodwyd ei fod yn cynnwys
llawer o’r hyn roedd yr aelodau wedi gofyn amdano. Diolchwyd i’r Arweinydd am ei barodrwydd bob
amser i ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, a diolchwyd hefyd i’r Prif
Weithredwr am ei gymorth parod.
PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r adroddiad yn adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y
Cyngor yn ystod 2019/20, a’i fabwysiadu.
Dogfennau ategol: