Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Glyn Daniels yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“‘Rwy’n cynnig fod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r Parc, yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei hun.

 

Credaf y buasai hyn yn fanteisiol mewn mwy nag un ffordd:-

 

a) Buasai codi tâl sylweddol am gael mynd i gopa’r Wyddfa yn gallu chwyddo coffrau Cyngor Gwynedd a’r Parc ar adeg pan mae ansicrwydd economaidd yn ein wynebu oherwydd sgil-effeithiau Covid-19.

 

b) O ganlyniad i’r uchod, mae lle i gredu y buasai camau o’r fath yn gallu cyfrannu at leihau y problemau difrifol o ormodedd o geir yn cronni ac yn creu tagfeydd a pheryglon ar ffyrdd y cylch.”

Penderfyniad:

Bod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r Parc, yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei hun.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Glyn Daniels o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifBod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r Parc, yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei hun.

 

Credaf y buasai hyn yn fanteisiol mewn mwy nag un ffordd:-

 

a) Buasai codi tâl sylweddol am gael mynd i gopa’r Wyddfa yn gallu chwyddo coffrau Cyngor Gwynedd a’r Parc ar adeg pan mae ansicrwydd economaidd yn ein wynebu oherwydd sgil-effeithiau Covid-19.

 

b) O ganlyniad i’r uchod, mae lle i gredu y buasai camau o’r fath yn gallu cyfrannu at leihau'r problemau difrifol o ormodedd o geir yn cronni ac yn creu tagfeydd a pheryglon ar ffyrdd y cylch.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y cynnig, nodwyd:-

 

·         Y cytunid bod angen cael y drafodaeth gyda’r Parc Cenedlaethol, ond bod angen bod yn fwy pendant o ran yr hyn a olygir gyda ‘tâl sylweddol’.

·         Bod y diwydiant twristiaeth yn bwysig i Wynedd, ond y dymunir gweld y sir yn elwa o dwristiaeth gynaliadwy, gyda’r bobl hynny sy’n ymweld â’r ardal yn dangos parch i’r amgylchedd a’r gymuned leol.

·         Bod y cynnig yn amserol iawn, a’i bod yn bwysig mynd i’r afael â hyn ar fyr rybudd, gan gynnal cyfarfod ar y cyd â’r Parc Cenedlaethol cyn gynted â phosib’ gyda’r nod o gael system codi tâl yn weithredol erbyn tymor 2021.

·         Bod gan Wynedd asedau naturiol bendigedig, ond nad oedd y cymunedau’n cael budd llawn ohonynt ar hyn o bryd.

·         Ei bod yn bwysig sicrhau darpariaeth barcio ddigonol, gan ystyried creu rhwydwaith o feysydd parcio yn ein cymunedau.  Awgrymwyd y gellid ystyried creu cyfleuster parcio a theithio yng Nglyn Rhonwy, gan gynnig tocyn rhad ac am ddim i breswylwyr Llanberis.

·         Y gellid defnyddio technoleg megis Adnabod Rhifau Cerbydau Awtomatig (ANPR) a system synwyryddion newydd y Cyngor i fonitro a rheoli parcio yn yr ardal.  Gellid hefyd ddefnyddio technoleg megis system cofrestru ymlaen llaw ar gyfer ymweld ag ardal yr Wyddfa, gyda phobl leol yn talu pris llai, neu’n cael mynediad yn ddi-dâl.

·         Bod hon yn broblem sydd wedi amlygu ei hun ar draws Gwynedd, a bod Yr Wyddfa yn enghraifft glasurol or-dwristiaeth.

·         Bod llu o alwadau ar y Cyngor i ymateb i’r sefyllfa, e.e. roedd Cyngor Cymuned Llanllyfni ac eraill wedi galw ar Gyngor Gwynedd i drefnu cynhadledd i drafod hyn.  Er yn anodd oherwydd y pandemig, roedd yna fwriad i drefnu digwyddiad rhithiol maes o law.

·         Nad oedd yn gyfreithiol i godi tâl i fynd ar lwybrau cyhoeddus, ond y croesawid yr alwad i edrych i mewn i hyn ymhellach.

·         Bod adroddiad a gomisiynwyd gan y Parc Cenedlaethol ar drafnidiaeth o gwmpas Yr Wyddfa yn crybwyll rhai syniadau gwych, ond roedd angen ehangu’r drafodaeth i gynnwys Gwynedd gyfan.

·         Y cwblhawyd darn o waith i edrych ar enghreifftiau o sut mae ardaloedd eraill ar draws y wlad hon, ac Ewrop, yn delio â gor-dwristiaeth, ac i ystyried sut i ail-osod twristiaeth ar ôl argyfwng y pandemig mewn ffordd sy’n cefnogi cymunedau’r sir.

·         Ei bod yn bwysig bod unrhyw system godi tâl yn cael ei gorfodi’n iawn.  Os codi tâl am fynd ar y mynydd, roedd nifer o gwestiynau’n codi, megis lle’n union i gasglu’r arian.  O ran y prif lwybrau, gellid gosod giatiau tro, gan gyflogi pobl ifanc  i gasglu’r arian, ond nid oedd pawb yn dilyn y prif lwybrau, gyda rhai cerddwyr yn mynd ar draws-gwlad.  Opsiwn arall fyddai casglu’r arian ar gopa’r Wyddfa.

·         Y gellid defnyddio’r arian a gesglid i greu swyddi’n lleol.

·         Bod cost ynghlwm â thwristiaeth, megis costau clirio ysbwriel ar ôl yr ymwelwyr.  Roedd yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu’r gwasanaethau hyn, ond trigolion Gwynedd oedd yn talu amdanynt yn y pen draw.  Hefyd, gan fod y gwasanaeth Sherpa wedi’i sybsideiddio, roedd trethdalwyr Gwynedd yn talu i ymwelwyr fynd i fyny’r Wyddfa ar hyn o bryd.

·         Y croesawid yr ymchwil a mawr obeithid y gellid dod â budd i’n trigolion ac i’r amgylchedd lleol o hyn.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Bod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r Parc, yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei hun.