Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Cemlyn Williams

Penderfyniad:

Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaen.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Cemlyn Williams   

 

PENDERFYNIAD

 

Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaen.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan bwysleisio nad oedd dim pleser o ddod ac adroddiad o’r fath i’r Cabinet i’w thrafod. Nodwyd fod dyletswydd y Cabinet i sicrhau addysg a phrofiadau da i holl blant Gwynedd yn wraidd i’r adroddiad hwn.

 

Amlygwyd fod y Cabinet ym Medi 2019 wedi penderfynu cychwyn trafodaeth ar Llywodraethwyr a rhan ddeiliad yr ysgol i ystyried gwahanol opsiynau yn dilyn lleihad mewn nifer y plant yn yr ysgol. Diolchwyd iddynt am eu cyfraniad i’r drafodaeth. Tynnwyd sylw at Egwyddorion Addysg i Bwrpas a dderbyniwyd gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2018 gan amlygu’r ddwy egwyddor sydd yn cyd-fynd  a’r adroddiad. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn gynhwysfawr ac y bydd yr adran yn parhau i dderbyn sylwadau pellach yn ystod y cyfnod statudol.

 

Ychwanegodd y Swyddog Addysg Ardal Meirionnydd / Dwyfor fod y drafodaeth sydd wedi ei gynnal ar hyn o bryd wedi bod yn edrych ar opsiynau posib er mwyn sicrhau darpariaeth hyfiw i’r dyfodol.  Pwysleisiwyd fod gwaith cael ei wneud gan y rhan ddeiliad i sefydlu cylch meithrin ac i ymestyn i ofal plant yn sgil y drafodaeth sydd wedi ei gynnal. Amlygwyd yr opsiynau sydd wedi ei thrafod ar ran ddeiliad gan nodi fod gwaith wedi ei wneud i’w gwyntyllu. Nodwyd mai’r opsiwn sydd yn cael ei ffafrio gan Swyddogion yw cau’r ysgol a symud y plant i Ysgol Sarn Bach. Os yn caniatáu'r penderfyniad heddiw, nodwyd y bydd yr ymgynghoriad statudol yn cychwyn o fewn yr wythnosau nesaf. Amlygwyd fod oediad wedi bod yn y broses ac  o ganlyniad bydd yr adran yn ail wneud rhai o’r asesiadau effaith.

 

Diolchodd yr Aelod Lleol am y cyfle i gael ymuno a’r cyfarfod heddiw i gyfrannu at y drafodaeth sydd mor bwysig i’w ward. Diolchwyd yn ogystal i’r adran am oedi yn y broses o ganlyniad i amgylchiadau personol y Pennaeth. Amlygwyd fod y Llywodraethwyr wedi cylchredeg gwybodaeth i’r Aelodau Cabinet a nododd yr Aelod Lleol ei fod wedi derbyn nifer o lythyrau cefnogol i’r Ysgol o bob rhan o’r sir. Mynegodd fod y niferoedd disgyblion wedi lleihau mewn cyfnod byr o amser ac yn annisgwyl a bod yr adran Addysg wedi symud i drafod yr ysgol yn sydyn iawn wedi i’r niferoedd leihau. Ers y drafodaeth gyntaf nodwyd fod y niferoedd wedi dechrau codi a phwysleisiwyd gwaith da’r staff sydd bellach wedi sefydlu sesiynau Ti a Fi ac Ysgol Feithrin ar safle’r ysgol.

 

Dangosodd yr Aelod Lleol ei gefnogaeth i newid oedran yr ysgol i fod rhwng 3-9 oed gan na fydd hyn yn rhoi dim effaith ar Ysgol Sarn Bach. Tynnwyd sylw ar y nifer capasiti oedd i’w weld yn yr adroddiad gan nadi nad oedd y rhif hwn yn berthnasol gan nad oedd yr ysgol erioed wedi cael 42 o blant. Nododd yn y sefyllfa sydd ohoni y bydd yn anodd iawn i gynnal ymgynghoriad teg a chall o ganlyniad i Covid-19 ac nad oedd yn deg i barhau a’r gwaith o ymgynghori yn ystod y cyfnod hwn.   

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Pwysleisiwyd fod y penderfyniad heddiw ar gyfer mynd i ymgynghoriad statudol i edrych ar gau’r ysgol ac nid yn benderfyniad i gau’r ysgol.

¾     Nodwyd pwysigrwydd cael sylwadau aelod lleol a llywodraethwyr a holwyd sut y bydd modd sicrhau trafodaeth deg yn ystod y cyfnod covid-19. Nododd yr adran Addysg fod y cod trefniadaeth yn glir a ddim yn diffinio yn bendant sut i gynnal ymgynghoriaeth. Ychwanegwyd fod yr adran yn fodlon cynnal cyfarfod torfol a bydd rhain yn cael eu cynnig yn rhithiol. Nodwyd fod angen i sylwadau fod yn cael cyflwyno yn ysgrifenedig ac y bydd cyfarfodydd yn rhoi cyfle i ran ddeiliaid, rhieni, lywodraethwyr a staff i ofyn cwestiynau. Mynegwyd yn ogystal fod yr adran Addysg yn fodlon hwyluso’r trafodaethau lleol cyn y cyfarfodydd gyda’r adran os yr angen yn codi.

Awdur:Gwern ap Rhisiart

Dogfennau ategol: