Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2019/20 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn. 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2019/20 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn amlygu perfformiad y Cyngor yn ystod y flwyddyn 2019/20. Mynegwyd fod yr adroddiad yn glir ac yn ddarllenadwy ac yn amlygu llwyddiannau’r Cyngor yn ystod y cyfnod. Bu i’r Aelodau Cabinet nodi'r llwyddiannau yn eu meysydd a phwysleisiwyd fod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu am y cyfnod cyn Covid-19.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Oedolion fod yr adroddiad yn amlygu sut y bu i’r adran ymateb i’r argyfwng. Ychwanegwyd fod yr adran wedi ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol a mynegwyd balchder fod gweithwyr gofal bellach yn cael ei gweld fel gweithwyr allweddol. Nodwyd fod yr adroddiad yn  amlygu llwyddiannau’r adran a beth mae’r sefyllfa Covid-19 wedi gorfodi’r adran i wneud.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd fod yr adroddiad yn rhoi braslun teg a chywir o waith yr adran dros y flwyddyn. Nodwyd mai dim ond yn y paragraff olaf mae cyfeiriad at Covid-19. Ychwanegwyd fod yr adran wedi ail ymweld â materion gweithredol a diolchwyd i staff am eu gwaith caled.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned fod effaith Covid-19 ar yr economi yn syfrdanol. Pwysleisiwyd fod perfformiad yr adran cyn cyfnod Covid yn dda iawn a'u bod yn cynorthwyo busnesau gyda Brexit. Mynegwyd fod niferoedd swyddi gwerth uchel wedi lleihau yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Amlygwyd gwaith Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol ei bod yn od iawn i edrych yn ôl ar lwyddiannau’r adran. Tynnwyd sylw at y ffaith fod yr adran wedi cyrraedd y targed ailgylchu o 64.7%. Nodwyd fod y prosiect golau stryd yn parhau a hyd yma wedi arbed dros £185,000 ynghyd ar ardrawiad amgylcheddol positif o newid y goleuadau. Pwysleisiwyd yr heriau fydd yn wynebu’r adran sydd yn cynnwys gweithrediadau llifogydd ac yr angen i ymateb i i’r argyfwng hinsawdd.

 

 Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd sylw at anfodlonrwydd y cyhoedd ar y modd i gysylltu â’r adran Gynllunio a bod y gwasanaeth yn edrych ar hyn. Nodwyd o’r holl gynlluniau’r sir nodwyd fod 38% ohonynt yn rhai ceisiadau am dai fforddiadwy. Mynegwyd fod Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn parhau i gyfarfod a bod y Gwasanaeth Cefn Gwlad yn parhau i fod yn brysur. Amlygwyd y gwaith mae’r adran wedi bod yn ei wneud gyda Phrofi Olrhain Diogelu.

 

Yn yr adran Gyllideb nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu fod y gyllideb wedi lleihau ers 2015 ond ei bod dan reolaeth gadarn. Mynegwyd o’r cynlluniau arbedion fod 16 yn llithro a bod hyn yn codi pryderon i’r dyfodol. Pwysleisiwyd fod lefel trethu wedi gwella a bod yr adran wedi cynorthwyo 1700 o bobl o’r gronfa tai dewisol. O ran cefnogaeth Technoleg Gwybodaeth nodwyd fod y nifer sydd yn gweithio o dra wedi cynyddo 138 i 1292 a bod y gwasanaeth yn barod i newidiadau. Diolchwyd i’r staff am eu gwaith caled.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Dai fod yr adran bron a gorffen ail strwythuro’r adran ac y bydd cynllun ailstrwythuro tai am gael ei gyflwyno i’r Cabinet yn fuan. Nodwyd fod Polisi Gosod Tai yn ei le sydd yn blaenoriaethu tai i bobl leol yn hytrach nac y drefn flaenorol. Nodwyd fod angen amlygu tlodi tanwydd i sicrhau nad yw pobl mewn tai bach, gwlyb ac oer.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Gefnogaeth Gorfforaethol fod nifer y damweiniau sydd wedi ei adrodd i Iechyd a Diogelwch wedi lleihau o 59 i 51  gan nodi un o’r prif resymau dros hyn wy’r cynnydd sylweddol sydd wedi bod mewn anafiadau symud a thin ac mae hyn wedi bod yn destun hyfforddiant pellach o fewn un Gwasanaeth yn benodol. Amlygwyd fod 17 o brentisiaethau wedi eu penodi yn ystod y flwyddyn ac y bydd mwy yn cael ei recriwtio yn ystod y flwyddyn nesaf.

 

O ran yr adran addysg nodwyd fod yr adroddiad yn adlewyrchu’r gwaith yn yr adran a'i bod yn braf gweld cynlluniau yn cael ei gwireddu. Ychwanegwyd ei bod wedi bod yn her i’r adran i ymateb i Covid-19 ond fod yr adran wedi symud ymlaen yn dda.

 

Awdur:Dewi Wyn Jones

Dogfennau ategol: