Cyflwyno adroddiad y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei hadroddiad blynyddol yn
cynnig trosolwg o berfformiad 2019/20 ac yn amlinellu’r daith yng Ngwynedd wrth
ddarparu gwasanaethau i’r unigolion sydd angen cyngor, cefnogaeth neu ofal gan
y Cyngor.
Nododd y
Cyfarwyddwr ei bod yn hapus gyda pherfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol ar
gyfer 2019/20, er bod yna rai heriau i’w goresgyn. Roedd y flwyddyn dan sylw, oedd yn cyfeirio’n
ôl at gyfnod cyn Covid, yn teimlo’n hen hanes bellach, ac fel roedd y flwyddyn
honno’n dirwyn i ben, roedd yr argyfwng yn cychwyn. Cydymdeimlodd â’r nifer o bobl oedd wedi’u
heffeithio gan y firws. Diolchodd o
galon i holl staff y sector yng Ngwynedd am eu gwaith arwrol yn ystod y misoedd
diwethaf, ac am eu gwaith dros y misoedd i ddod. Diolchodd hefyd i eraill oedd wedi cefnogi’r
ymdrech arwrol hon, yn wirfoddolwyr, gofalwyr, aelodau o’r trydydd sector a
phartneriaid y Cyngor, a hefyd adrannau eraill y Cyngor am eu parodrwydd i
ryddhau staff i gynorthwyo mewn sawl ffordd, fel bod modd i’r adrannau yn y
maes gofal ganolbwyntio ar ymateb i’r argyfwng.
Nododd y bu’n her iddi ganfod yr amser i roi’r adroddiad blynyddol at ei
gilydd eleni, a diolchodd i Sophie, Nia a Bethan am wirfoddoli i’w helpu gyda’r
gwaith.
Manteisiodd y Cyfarwyddwr ar y cyfle hefyd i ddiolch i Marian Parry
Hughes (Pennaeth Plant a Theuluoedd) ac Aled Davies (Pennaeth Oedolion, Iechyd
a Llesiant) am eu gwaith arwrol dros y flwyddyn, ac i’r Aelodau Cabinet yn y
maes gofal, y Cynghorwyr Dilwyn Morgan a Dafydd Meurig am eu cefnogaeth a’u
cymorth parhaus. Nododd fod croeso i’r
aelodau gysylltu â’r ddau bennaeth ar ôl y cyfarfod gydag unrhyw gwestiynau
manwl.
I gloi, nododd y Cyfarwyddwr fod y cyfnod hwn wedi caniatáu i’r ddwy
adran wthio nifer o’u prosiectau a’u gweledigaeth ymlaen, a’u bod yn awyddus i
barhau â’r gwaith da oedd wedi digwydd yn sgil sefyllfa mor drist.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:-
·
Nodwyd bod dymuniad
Llywodraeth Cymru i osod targed fel ffordd o sicrhau eu bod yn gweld lleihad yn
nifer y plant mewn gofal yn cyfleu’r neges anghywir, ac y croesawid y ffaith
nad oedd Gwynedd wedi gosod targed ar gyfer lleihau’r nifer, gan y byddai
hynny’n arwain at risg o ostwng safonau o safbwynt diogelu’r mwyaf bregus, ac
yn rhedeg y risg ein bod yn peidio gweithredu yr hyn oedd yn bwysig o ran y
plant.
·
Croesawyd y ffaith
bod yr unedau dementia yn mynd yn eu blaenau yn sgil blynyddoedd o frwydro am
hynny.
·
Nodwyd bod yr
adroddiad yn un clodwiw, oedd yn ategu’r gwaith gwych oedd wedi mynd ymlaen yn
y ddwy adran.
·
Croesawyd yr
arweiniad ieithyddol mewn 8 iaith ar gychwyn yr adroddiad, a llongyfarchwyd y
Gwasanaethau Cymdeithasol am ddangos dychymyg trwy ddangos bod yna fwy nag un
iaith bosib’ yn bodoli yn yr ardal hon.
·
Nodwyd bod y ddwy
adran wedi bod trwy gyfnod caled iawn a bod y staff wedi gorfod addasu’n sydyn
i sefyllfa wahanol. Er hynny, roedd y
gwaith wedi bod yn hynod o dda, ac roedd drysau’r Cyfarwyddwr a’r ddau bennaeth
bob amser yn agored i’r aelodau.
·
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â sut y gellid lleihau’r niferoedd plant mewn gofal mewn
ffordd ddiogel, nodwyd mai’r hyn oedd yn bwysig oedd bod y gwasanaeth yn gwneud
yr hyn sy’n gywir i’r plant hynny, yn eu diogelu ac yn sicrhau bod y teulu’n
ffynnu. Y nod oedd cadw teuluoedd gyda’i
gilydd, ond bod hynny’n cael ei wneud mewn ffordd ddiogel. Roedd nifer o’r plant mewn gofal bellach yn
dal i fwy gartref gyda’u rhieni neu deulu agos, ac felly nid oedd y plant hynny
bob amser yn sylweddoli bod eu sefyllfa’n wahanol i unrhyw blentyn arall.
·
Holwyd sut y gellid
sicrhau digon o rieni maeth. Mewn
ymateb, nodwyd bod yna nifer o rieni maeth gwych yng Ngwynedd, ac roedd ymgyrch
ar gychwyn y pandemig i recriwtio mwy ohonynt wedi bod yn llwyddiannus
iawn. Byddai’n ofynnol parhau gydag
ymgyrchoedd o’r fath, ond roedd yn bwysig hefyd cael rhieni maeth sy’n arbenigo
mewn agweddau arbenigol o faethu.
·
Holwyd sut y gellid
lleihau’r ddibyniaeth ar leoliadau arbenigol.
Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn her sylweddol gan fod anghenion rhai
plant yn gallu bod mor gymhleth, ac roedd yn bwysig ymateb i’r unigolyn a
chanfod y lleoliad mwyaf addas ar eu cyfer.
Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr am ei chyflwyniad.
Dogfennau ategol: