Cais
ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a
llefydd parcio
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
Gohirio’r penderfyniad er mwyn derbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â materion draenio
COFNODION:
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd - mewn ymateb i sylwadau
gan yr Aelod
Lleol ymgynghorwyd gyda’r Uned Rheoli
Risg Llifogydd y Cyngor a derbyniwyd ymateb sydyn i’r pryder.
Nodwyd nad
oedd gan yr Adran wybodaeth
am y sefyllfa ond bod bwriad i ymchwilio
i’r gwyn. Nid oedd amserlen
ar gyfer y gwaith yma wedi
ei osod.
a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi y cyflwynwyd y cais gerbron Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 02.03.2020 pryd penderfynwyd trefnu i’r aelodau
ymweld â’r safle. Yn y cyfamser,
adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi hysbysu’r Cyngor ei fod wedi cyflwyno
apêl i’r Arolygaeth Cynllunio yn erbyn diffyg
penderfyniad gan y Cyngor ar y cais (dyddiad
heb ei dderbyn
hyd yma).
Atgoffwyd yr
Aelodau bod y cais ar gyfer addasu tŷ
tafarn i 5 fflat preswyl hunangynhaliol ynghyd â chreu llefydd parcio a
mynedfa. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Blaenau
Ffestiniog a bod defnydd
y safle fel tafarn wedi dod
i ben ddechrau 2017. Byddai’r bwriad
yn golygu newidiadau mewnol i greu'r fflatiau ar y tri llawr. Cyfyngir y newidiadau allanol i’r estyniad
ochr ac addasu fymryn ar osodiad agoriadau ffenestri a drws ar lefel daear ar y
drychiad cefn.
Darparwyd lluniau
a fideo ychwanegol gan nad oedd modd cynnal
ymweliad safle oherwydd cyfyngiadau covid 19.
Polisi TAI9 yn caniatáu isrannu
eiddo presennol i fflatiau hunangynhaliol
cyn belled ei fod yn cydymffurfio
gyda’r meini prawf perthnasol sydd wedi ei
cynnwys yn yr adroddiad:-
ni ystyrir y byddai'r bwriad i addasu'r adeilad
yn 5 fflat yn groes i
amcanion polisi TAI 9.
Cyfeiriwyd at bolisi TAI15 sydd yn gofyn i bob datblygiad gyflawni cymysgedd priodol ar sail deiliadaeth, mathau a maint o dai fforddiadwy
sy’n cael ei ategu gan
Bolisi TAI 8 ynghyd â ChCA: Cymysgedd Tai. Noder bod sylwadau gan Uned
Strategol Tai yn datgan bod angen cydnabyddedig am fflatiau 1 a 2 ystafell wely yn
y dref. Ystyriwyd bod y cais fel y diwygiwyd yn darparu cymysgedd
briodol o lety mewn adeilad presennol
ac yn cyfarch angen cydnabyddedig am dai yn y
dref.
Nodai Polisi TAI 15 (Trothwy Tai Fforddiadwy a’u Dosbarthiad) fod disgwyl i o leiaf
0.4 o’r unedau fod yn fforddiadwy,
yn unol â’r
wybodaeth a gyflwynwyd Derbyniwyd gwybodaeth gan yr ymgeisydd yn
datgan ei fod wedi ymchwilio
prisiau rhentu/gwerthu o fewn tua milltir i’r
safle fel rhan o’r datblygiad.
Er nad
oedd y swyddogion yn anghytuno gyda’r
prisiau, nid oedd y prisiau yn seiliedig ar
y Llyfr Coch ac roedd man wendidau eraill yn y wybodaeth
a gyflwynwyd. O dan yr amgylchiadau ystyriwyd
y gellid caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i osod amod
i gytuno ar faterion fforddiadwyedd
ar gyfer un o’r unedau cyn
rhyddhau unrhyw ganiatâd.
Yng nghyd-destun materion gweledol a mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod y rhain wedi eu hasesu
yn llawn ac nad oedd
unrhyw wrthwynebiadau wedi eu datgan
ar y materion hyn. Ategwyd nad oedd gan yr Uned
Trafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad ond
yn argymell gosod amodau priodol
ar unrhyw ganiatâd. O ystyried yr holl faterion
perthnasol, gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â gwrthwynebiadau lleol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol
a’i fod yn
bodloni gofynion y polisïau perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:-
·
Ei
bod yn ymddiheuro am y wybodaeth hwyr oedd wedi dod
i law yn mynegi pryder am lifogydd diweddar ar safle y cais
·
Bod cyn perchennog
y Wynnes wedi tynnu ei sylw
at gylfyrt dwr sydd wedi ei
leoli o dan yr estyniad presennol
ar gefn yr
adeilad
·
Bod llifogydd wedi digwydd rhyw 20 mlynedd yn
nol ar y safle ac eto yn Awst 2020
·
Nad oedd y Bwrdd Dwr wedi cael cyfle i
archwilio ymhellach
·
Bod pryderon ymysg pobl leol
gyda rhai yn cofio llifogydd
y gorffennol
c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais
d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod angen mwy o wybodaeth
ynglŷn â’r llifogydd cyn gwneud
penderfyniad
·
Bod egwyddor y datblygiad wedi ei ganiatáu ond
bod angen archwilio ymhellach i bryderon llifogydd
·
Mai tai sydd ei’u hangen yn
yr ardal ac nid fflatiau
·
Nad oedd y lleoliad yn addas ar gyfer tŷ
amlfeddiannaeth
·
Mai Adran Draenio y Cyngor a ddylai fod yn
ymchwilio i’r mater ac nid Dŵr Cymru
·
Bod angen sicrwydd bod allanfa dan i’r adeilad
·
Nad oedd llefydd parcio digonol ar gyfer y
nifer trigolion fydd yn byw yn y fflatiau
·
Pryder bod apêl yn sefyll ar y cais
e)
Mewn ymateb i’r sylwadau nododd
y Rheolwr Cynllunio:
-
Bod materion diogelwch yn fater i’r Uned
Rheolaeth Adeiladau
-
Bod yr Uned
Drafnidiaeth yn ystyried bod 6 safle parcio yn ddigonol
ar gyfer y safle - y safle yn un hygyrch
gyda gwasanaeth bws da
-
Bod yr Uned
Cynllunio wedi ymgynghori gydag Adran Draenio y Cyngor ynglŷn â’r materion llifogydd
-
Ei bod yn hyderus y byddai’r Pwyllgor wedi
cwrdd eto cyn dyddiad apêl
f)
Cynigiwyd gwelliant i ohirio’r
penderfyniad er mwyn derbyn mwy
o wybodaeth ar y materion draenio
g)
Pleidleisiwyd ar y gwelliant
PENDERFYNWYD: Gohirio’r penderfyniad
er mwyn derbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â materion draenio
Dogfennau ategol: