skip to main content

Agenda item

8.1       Crynodeb £4.3m

8.2       Gwariant cynharol addysg 2015-16

8.3       Crynodeb gwario PTR ac effaith ar warchodaeth

8.4       Modelu gwanioPTR cynradd

8.5       Modelu gwanio PTR ysgolion cynradd unigol

8.6       Modelu gwanio PTR mewn ysgolion uwchradd unigol

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg yn amlinellu opsiynau ar gyfer rhannu gweddill y targed arbedion o £3,348,000.

 

(a)  Mynegodd y Cadeirydd wrth y Fforwm, tra’n derbyn bod ysgolion yn colli arian drwy grantiau, effaith demograffi, a.y.b., ei bod yn ofynnol dod i benderfyniad pendant o ystyried  bod Gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor eisoes wedi cytuno ar eu targedau. 

(b)  Bu i’r Pennaeth Addysg grynhoi y dadleuon a fu yn flaenorol a bod yr adroddiad gerbron yn cymryd i ystyriaeth cyd-detun Her Gwynedd, y drafodaeth a’r opsiynau ar gyfer rhannu gweddill y targed arbedion rhwng y sector  cynradd a’r uwchradd, adborth Estyn ac ystadegau cymharol cenedlaethol.   Atgoffwyd bod y Cabinet yn y gorffennol wedi gwarchod buddiannau addysg a bod yr awdurddod yn hynod o dryloyw ac yn hollol agored gyda chynnwys yr opsiynau o fewn yr adroddiad.  Rhaid cofio bod yr adran yn cael ei herio yn gorfforaethol. 

(c)  Diolchwyd i’r Gweithgor Cyllid Addysg am benderfynu ar gynlluniau cytunedig yn y swm o £1,028,000 gyda gweddill yr arbedion o £2,320,00 i’w ddarganfod. 

(d)  Bod yr argymhelliad gerbron o ffafrio Opsiwn C yn seiliedig ar ddadleuon addysgol ac nad oedd opsiynau A a CH o dan ystyriaeth.

(e)  Mewn ymateb i sylw wnaed ynglyn a chynlluniau tymor hir trefniadaeth ysgolion, esboniwyd mai cyfarwyddyd y Cabinet ydoedd targed arbedion o £4.3m i ysgolion ac nad oedd i unrhyw arbediad yn seiliedig o drefniadaeth ysgolion i’w gynnwys o fewn y £4.3m.  Pwysleiswyd nad oedd yr is-adeiladedd yn gynaliadwy o fewn y gyllideb sydd ar gael.  

(f)   Yn ystod y drafodaeth ynglyn â gwireddu gweddill y targed arbedion, amlygwyd y sylwadau isod:

  • Ei bod yn anodd iawn i ystyried y mater ac nad oedd boddhad i ‘run o’r ddwy sector (cynradd ac uwchradd) o orfod gwireddu toriadau
  • Bod consensws barn y dylid ail-gylchu unrhyw arbediad yn deillio o drefniadaeth ysgolion ar gyfer y gymhareb disgybl:athro (PTR)
  • Bod cyd-destun y drafodaeth yn gosod y cynradd yn erbyn yr uwchradd, ac o’r farn bod  gan y Gweithgor Cyllid Addysg waith pellach i’w gyflawni
  • Teimlwyd y byddai derbyn argymhelliad opsiwn C yn dangos tuedd trwm o blaid y sector uwchradd a hynny ar draul y cynradd ac felly yn erbyn pob egwyddor a rhesymeg addysgol o fuddsoddi mor fuan a phosibl yng ngyrfa plentyn mewn Ysgol.  Golyga gweithredu opsiwn C doriad o £300,000 i’r sector uwchradd gyda’r cynradd yn wynebu toriad o £2m. 
  • Derbyniwyd eglurhad o effaith toriad opsiwn C ar ysgolion mawr, canolig a bach ac ni dderbynia y sector cynradd bod unrhyw resymeg teilwng dros weithredu toriad opsiwn C.
  • Teimlwyd bod defnyddio effaith demograffi ar y sector uwchradd fel rhesymeg tu cefn i argymhelliad opsiwn C ar y cynradd yn ddadl gwbl anheilwng.  Nodwyd bod y cynradd eisoes yn wynebu’r broblem yma, ac felly yn cael eu cosbi eilwaith drwy gymryd o’u cyllidebau er mwyn lleihau’r effaith ar yr uwchradd.
  • O fod yn ddioddef toriad pellach i gyllidebau, argymhelliad  y sector cynradd ydoedd opsiwn A yn unig, sef toriad cydradd rhwng y ddwy sector, fyddai’n derbyniol.  Fodd bynnag, dymuniad y sector cynradd ydoedd derbyn gwell eglurhad ar sut y cyrhaeddwyd at argymhelliad opsiwn C.
  • Pe byddir yn penderfynu i dorri cyllidebau gyda tuedd o blaid un sector dros y llall, gofynnir i’r Cyngor amlinellu’n eglur pa agweddau o’r ddarpariaeth bresennol fyddai’n rhaid eu torri.
  • Ategwyd anfodlonrwydd bod y gwahaniaeth rhwng y ddwy sector yn anhygoel
  • Ar ran y sector uwchradd, nodwyd tra’n cytuno y dylid buddsoddi yn fuan i yrfa plentyn, byddai’r buddsoddiad i’r ysgolion cynradd yn dal yn dipyn gwell na’r uwchradd
  • Awgrymwyd y dylid rhoi ystyriaeth i’r gyllideb anghenion addysgol ychwanegol yng nghyfarfod nesaf y Fforwm

(ff) Mewn ymateb i rai o’r sylwadau uchod, nododd y Pennaeth Addysg:

  • Bod ymgynghoriad yn mynd rhagddo o safbwynt anghenion addysgol ychwanegol yn seiliedig ar yr awdurdod, ysgolion a’r berthynas gyda’r Cyd-bwyllgor Anghenion Arbennig
  • O edrych ar ddarlun cenedlaethol, ymddangosir bod lefel gwariant yn y sector cynradd yn uwch na’r ystod disgwyliedig, a’r safle cymharol wedi gostwng yn yr uwchradd ers llynedd ond yn parhau tua pen uchaf yr amrediad y disgwylir
  • Bod maint y gyllideb gwarchodaeth oddeutu £600,000

 

(g)  Yn dilyn cryn drafodaeth, cynigwyd ac eilwyd i gyfaddawdu drwy argymell opsiwn B ar gyfer rhaniad o’r £2,320,000 sy’n weddill o’r targed arbediad i’r ddwy sector yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

(i)            I gadw’r arbedion o £4.3m yn sefydlog dros y tair blynedd nesaf i fyny at 2018

(ii)           Bod unrhyw arbedion trefniadaeth pellach yn cyfrannu at yr arbedion ar ol 2018

 

Cynigwyd gwelliant i’r uchod sef cynnig opsiwn arall rhwng opsiwn toriad B a C a fyddai’n cymryd i ystyriaeth toriad i ysgolion cynradd mawr, a bod mwy o waith yn cael ei gyflawni i gyfarch yr uchod.

 

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Addysg werthfawrogiad o gyfaddawd drwy weithredu opsiwn B ac y byddai hyn yn rhoi her i’r Aelod Cabinet Addysg i bwyso ar y Cabinet i gymeradwyo ail-gylchu’r arian yn deillio o drefniadaeth ysgolion i leddfu toriad ysgolion yn 2018/19.

 

Yn dilyn derbyn ymateb y Pennaeth Addysg, tynnwyd y gwelliant yn ôl.

 

Gohirwyd y cyfarfod am 10 munud er mwyn rhoi cyflw i’r ddwy sector drafod y cynnig fel amlinellir yn (g)  uchod.

 

Ail-agorwyd y cyfarfod, pleidleiswyd ar y cynnig ac fe’i gariwyd gyda 3 aelod  natal eu pleidlais.

 

Penderfynwyd:    (a) Cyfleu i Gabinet y Cyngor bod y Fforwm Cyllideb Ysgolion yn cymeradwyo gweithredu’r gweddill targed arbedion o £3,348,000 fel a ganlyn drwy:

 

(i)Gadarnhau’r cynlluniau cytunedig gan y Gweithgor Cyllid Addysg yn y swm o £1,028,000

(ii)Rannu gweddill y targed arbedion o £2,320,000 yn unol ag opsiwn toriad B (£1,642,151 –sector cynradd a £680,363 – sector uwchradd) yn ddarostyngedig i’r amodau isod:

·         Cadw’r arbedion o £4.3m yn sefydlog am y 3 blynedd nesaf hyd at 2018

(iii)      bod unrhyw arbedion trefniadaeth ysgolion pellach yn cyfrannu at yr arbedion ar ôl 2018.    

 

                                  (b)  Bod y Fforwm Cyllideb Ysgolion yn trafod cyllideb anghenion addysgol arbennig yn ei gyfarfod nesaf ar 20 Ionawr 2016.

Dogfennau ategol: