Agenda item

Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif presennol ac estyniad rhanol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

Gwrthod y cais ar sail gorddatblygiad

 

Cofnod:

Amlygwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn

 

Ymhelaethodd Y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn un ar gyfer ailwampio ac ymestyn tŷ presennol. Adroddwyd y byddai’r datblygiad newydd yn cynyddu nifer y llofftydd o 3 i 4 gan gynyddu maint y gofod byw i lawr grisiau.

 

Saif yr eiddo ar lethrau Mynydd Nefyn ar ben ffordd breifat (sy’n rhannol yn llwybr cyhoeddus) sy’n arwain o ffordd ddi-ddosbarth Bryn Glas. Mae’r safle mewn cefn gwlad agored, oddeutu 340m i’r dwyrain o ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Nefyn a 50m y tu allan i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.

 

Fe drafodwyd y cais hwn yn y Pwyllgor Cynllunio ar 02/03/2020 pryd y gohiriwyd gwneud penderfyniad er caniatáu trefnu ymweliad safle ac er mwyn galluogi cyflwyno adroddiad rhywogaethau gwarchodedig. Derbyniwyd aroddiad o Arolwg Rhywogaethau Gwarchodedig ar 29 Mai, 2020.

 

Darparwyd lluniau a fideo ychwanegol gan nad oedd modd cynnal ymweliad safle oherwydd cyfyngiadau covid 19.

 

Amlygwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn (ond heb eu cynnwys yn y ffurflen sylwadau hwyr) gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn pryderu bod maint a dyluniad yr estyniad yn nodwedd estron yn y dirwedd. Ategwyd bod sylwadau hefyd wedi eu derbyn gan Swyddog yr AHNE (oedd heb eu cynnwys yn yr adroddiad) yn pryderu am yr estyniadau ochr sylweddol, y ffenestri mawr ar effaith ar yr AHNE.

 

Adroddwyd y byddai’r ar ei newydd wedd yn debygol o fod yn sylweddol fwy na'r presennol gyda’r arwynebedd llawr mewnol yn fwy na dyblu. Er hynny, gan na fyddai cynnydd mewn uchder yr adeilad, ystyriwyd bod y dyluniad a gyflwynwyd o ansawdd uchel gyda’r defnydd o garreg, gwydr a llechi  yn briodol ar gyfer y lleoliad. Gwerthfawrogwyd bod y dyluniad ynfater o farn’. 

 

Saif yr eiddo mewn lleoliad agored ar lethr y mynydd ac felly’n weladwy gan y cyhoedd o briffordd gyfagos ac ardaloedd cyhoeddus eraill. Wrth werthfawrogi’r pryder ynghylch sensitifrwydd y dirwedd yn yr ardal hon, nid oedd y swyddogion yn ystyried y byddai’r estyniadau fel y’u dyluniwyd yn cael effaith niweidiol arwyddocaol ar ansawdd y dirwedd ac ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn effeithio gosodiad yr AHNE, neu’r golygfeydd allan ohoni, mewn ffordd niweidiol.

 

            Tynnwyd sylw at sylwadau oedd wedi ei derbyn am orddarpariaeth o unedau gwyliau yn yr ardal ond amlygwyd mai cais am estyniad i oedd gerbron ac nid cais am lety gwyliau. Cydnabuwyd hefyd bod yr effaith weledol yn destun pryder a materion dylunio yn gallu bod yn gynhennus, ond bod swyddogion wedi pwyso a mesur y cais cynllunio yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ynghyd a’r sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. O ganlyniad ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac yn cwrdd gyda gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol ac y dylid ei ganiatáu gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

a)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

 

·         Bod Tan Y Mynydd wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn, a bellach mae’n dadfeilio’n sylweddol. Y bwriad yw adfer a datblygu Tan y Mynydd a’i wneud yn gartref hardd i’w rannu gyda theulu a ffrindiau gan werthfawrogi’r hyn sydd gan harddwch Pen Llyn i’w gynnig.

·         Teulu estynedig yn breswylwyr ar Barc Gwyliau Aberafon yn Nefyn ers blynyddoedd maith. Yr ymgeisydd a’i theulu yn aelodau gydol oes o glwb hwylio a chlwb golff Nefyn ac yn noddwyr rheolaidd yn The Sportsman ym mhentref Nefyn ac yn gyfranddalwyr yn Nhafarn Yr Heliwr

·         Nid yw yn gais am gartref gwyliau neu eiddo rhent - yn gais am gartref i’r teulu ac at gael treulio llawer mwy o flynyddoedd i’r dyfodol yn y gymuned gyda'u plant a'u hwyrion.

·         Yn awyddus i'r cartref integreiddio i'r dirwedd ac felly wedi dewis adeiladwyr a masnachwyr lleol a deunyddiau adeiladu lleol. O ganlyniad, bydd yr adeilad yn ffitio'n llawer gwell o fewn y dirwedd garw na rendr gwyn llachar y presennol.

·         Wedi byw yng Nghymru ers dros 30 mlynedd; ei phlant yn Gymraeg; ei busnesau wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru, yn cyflogi bron i 30 o bobl ac yn gwasanaethu'r gymuned leol

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:-

·         Rhaid sicrhau bod yr AHNE yn cael ei warchod – rhaid gofalu gwarchodaeth yn yr un modd a Pharc Cenedlaethol

·         Y cais yn gwbl annerbyniol a’r bwriad yn ormesol yn y tirlun

·          ‘Mater o farn’ yn gynsail peryglus gan fod yr addasiadau yn sylweddol

·         Bythynnod a thyddynnod traddodiadol sydd ar Fynydd Nefyn

·         Pryder y byddai cynsail yn cael ei osod o brynu tai ‘bach’ sydd yn ymylu gyda ffin yr AHNE, ac yna cyflwyno cais am estyniadau sylweddol i’r tai hyn – mae modd prynu tŷ mwy yn y lle cyntaf

·         Cael effaith sylweddol ar brisiau tai yn yr ardal

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais

 

 ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Byddai’r bwriad yn ddolur llygad ar lethrau Mynydd Nefyn

·         Bod y bwriad yn orddatblygiad - maint yr estyniad yn dyblu’r gofod llawr

·         Angen cadw cymeriad traddodiadol y

·         Bod Llwybr Cyhoeddus yn rhan o’r safle – hyn ar gallu i greu problemau ar dir preifat

·         Y cynllun arfaethedig yn ymwthiol, ormesol, rhy amlwg a mawr ac amhriodol ar lethrau Mynydd Nefyn - yn groes i bolisi strategol 19 - y nod yw gwella'r amgylchedd naturiol

·         Pryder o osod cynsail a chynnydd mewn prisiau tai lleol

·         Yn groes i Polisi 3 lle nodi’r graddfa a Polisi Tai 13 lle nodi’r ‘na ddylai greu effaith weledol sydd yn sylweddol fwy na’r adeilad presennol ... dylid ceisio gwarchod cefn gwlad ...’ Angen polisïau cryfach fel bod modd atal newid yr adeilad yn gyfangwbl. 

·         Bod adeiladau o’r fath yn dinistrio'r hyn y mae ymwelwyr yn ei fwynhau am yr ardal

·         Awgrym i brynu tŷ mwy yn y lle cyntaf

·         Rhaid gwarchod yr amgylchedd, cefngwlad, tirlun a phobl yr ardal

·         Bod Nefyn yn cael ei dargedu fel Abersoch yn y gorffennol

·         Maint yn cael ei ganiatáu mewn rhai achosion ond dim mewn tai fforddiadwy lle ceisir mwy o ofod llawr

 

·         Bod y dyluniad o ansawdd uchel ac yn welliant i’r hyn sydd yno yn barod

·         Bod tŷ cyfagos gydag estyniad

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais

 

  1. Fe fyddai’r datblygiad dan sylw yn niweidiol i gymeriad ac ymddangosiad y safle, yr adeilad a’r ardal yn gyffredinol oherwydd bod yr ymddangosiad, graddfa, màs a’r driniaeth o ddrychiadau yn anghydnaws gyda’r cymeriad lleol. Ni ystyrir fod y cynnig hwn wedi rhoi ystyriaeth lawn i gyd-destun y safle mewn lleoliad wledig ac agored ac felly mae’r cais yn groes i ofynion polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn fel y maent yn ymwneud ag amddiffyn mwynderau gweledol yr ardal.

 

  1. Fe fyddai’r datblygiad yn arwain at or-ddatblygiad niweidiol o’r safle mewn man amlwg yn y dirwedd gerllaw ffin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Fe fyddai hyn yn arwain at effaith niweidiol ar olygfeydd arwyddocaol i mewn ac allan o’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac felly fe fyddai’r datblygiad yn groes i bolisïau PS 19 ac AMG 1 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn fel y maent yn ymwneud ag amddiffyn ansawdd yr ardal warchodedig.

 

Dogfennau ategol: