Agenda item

Diweddaru'r Aelodau ar y cynnydd gyda chynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r trefniadau llywodraethu bysiau a’r cynnydd â datblygu dull rhanbarthol gyda'r rhwydwaith bysiau.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad a gofyn am adroddiad manwl pellach i’r cyfarfod nesaf ar y  cysyniad o ffurfio cwmni bysiau rhabarth Gogledd Cymru yn nodi’r  opsiynau gan gynnwys y trefniadau llywodraethu posib.

 

Cofnod:

 

Cyflwyniad gan Dewi Rowlands - Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Iwan Prys Jones - Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a mewnbwn gan Kemi Adenubi (Trafnidiaeth Cymru)

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a gofyn am adroddiad manwl pellach i’r cyfarfod nesaf ar y  cysyniad o ffurfio cwmni bysiau rhabarth Gogledd Cymru yn nodi’r  opsiynau gan gynnwys y trefniadau llywodraethu posib.

  

TRAFODAETH

 

Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi diweddariad i’r aelodau ar ddatblygiadau mewn perthynas â threfniadau llywodraethu a chyllido gwasanaethau bws ynghyd a’r gwaith pellach sydd wedi'i gynllunio ar wasanaethau bws Gogledd Cymru.

 

Tynnwyd sylw at y tri mater cysylltiedig i’w hystyried:

·         Diweddariad ar gynnydd yn sgil cyhoeddi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio'r trefniadau rheoli ar gyfer rhwydweithiau bws.

·         Diweddariad ar y cynnydd gyda'r gwaith o ddatblygu Strategaeth Bysiau Rhanbarthol i'r Gogledd yn dilyn gwaith a gomisiynwyd gan y Bwrdd Uchelgais

·         Diweddariad ar y gwaith a wnaed gan Arup ar ran Trafnidiaeth Cymru ar ddatblygu gweledigaeth a strategaeth bysiau ar gyfer Metro Gogledd Cymru

 

Adroddwyd bod COVID-19 wedi amlygu heriau gyda'r drefn cludo bysiau presennol sydd wedi gweld gostyngiad sydyn a difrifol yn nifer y teithwyr bysiau (tua 90%) ar draws gwasanaethau ers y cyfnod clo. Mae'r niferoedd yn debygol o aros yn isel hyd y gellir rhagweld newidiadau i ganllawiau pellhau cymdeithasol sydd yn cyfyngu ar gapasiti yn ogystal ag awydd y cyhoedd i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

Nodwyd bod yr argyfwng yn gyfle i newid y ddarpariaeth gyda’r pandemig wedi  tynnu sylw at wytnwch gwael a gwendidau cynhenid ​​yn y  system bresennol. Ategwyd bod y fframwaith ddeddfwriaethol bresennol yn gyfrifol am ddiffyg cyd-ddarpariaeth

 

Ystyriwyd newid y model ar gyfer y rhwydwaith bysiau yng Nghymru gan sicrhau deilliannau effeithiol fyddai’n ymateb i’r angen. Pwysleisiwyd bod cydweithio gyda’r Awdurdodau yn hanfodol i wella’r gwasanaeth. Nodwyd bod gwaith y cael ei wneud i addasu rhan 3 o’r Bil Bysiau (ffrwd ariannu i gyflawni safonau) fel bod ystod gwell o offer ar gael i Awdurdodau Lleol i'w defnyddio wrth gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yn eu hardaloedd.
 
Ategwyd y byddai’r Strategaeth Trafnidiaeth Cyhoeddus - ‘Gwasanaethau Lleol, Gweledigaeth Genedlaetholyn mynd allan am ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Tachwedd 2020 gyda bwriad o gyflwyno i’r Senedd ym mis Mawrth 2021. Y bwriad yw cyflwyno strategaeth ddrafft gan ymgysylltu gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau bod gwasanaeth addas ar gyfer unigolion a chymunedau yn cael ei ddatblygu.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Croesawu'r wybodaeth a gyflwynwyd

·         O ystyried bod y rhwydwaith wedi ei rannu i ranbarthau gydag amryw o awdurdodau lleol yn rheoli  o fewn y rhanbarthau -  y sefyllfa yn un cymhleth ac anodd fyddai cael ‘un corff yn rheoli

·         Angen denu unigolion actif - bod y rhwydwaith yn cynnig cysylltiadau da i feicwyr a defnyddwyr beiciau trydan

·         Bod cyfathrebu ac ymgysylltu clir yn hanfodol

·         Bod yr adroddiad wedi ei lunio cyn dyfodiad covid - manylion a gwybodaeth ddefnyddiol a da wedi ei cynnwys ac er y pandemig yr un yw’r nod - cael rhwydwaith sydd yn cyflawni gwelliant

·         Bod cydweithio gyda phartneriaid yn hanfodol - llais hafal i bawb er mwyn sicrhau bod  adnoddau cronnus ar gael i gyflawni

·         Bod awgrym i redeg cwmni bysiau  ar lefel awdurdod lleol i’w groesawu

·         Awgrym y gall Gogledd Cymru, fel rhanbarth, gyflwyno pecyn i redeg cwmni bysiau. Cyfle da i gydweithio. Trefniadau llywodraethu eisoes wedi ei sefydlu. Arbenigedd, sgiliau a gwybodaeth ar gael.

 

Mewn ymateb i’r awgrym, nodwyd y byddai hyn yn fater i’w groesawu ac y byddai budd o weld awdurdodau yn cefnogi ei gilydd gyda chais am gynllun ffurfiol yn ei le erbyn Gorffennaf 2021.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i Ogledd Cymru ffurfio Cwmni Bysiau

 

Mewn ymateb nododd yr Aelodau Cabinet eu bod yn derbyn yr awgrym gan gytuno,

·         bod angen mwy o fanylion ynglŷn â sut y byddai yn gweithio

·         bod angen system effeithiol i’r Gogledd – un fyddai’n cael ei rheoli gan bobl sydd yn lleol i Ogledd Cymru  - profiad a gwybodaeth leol yn hanfodol

·         bod angen adroddiad ar faterion llywodraethu Cyd-bwyllgor Corfforaethol

 

 

 

Dogfennau ategol: