Ystyried
adroddiad Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd.
Penderfyniad:
(a)
Bod y Cyd-bwyllgor yn derbyn, nodi a chymeradwyo’r wybodaeth sy’n yr atodiadau
i’r adroddiad, sef –
·
Adroddiad ‘ISA260’ gan Deloitte ar ran
Archwiliwr Cyffredinol Cymru;
·
Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20 (yn dilyn
archwiliad), gyda’r addasiadau hwyr a nodwyd yn y cyfarfod ar gais yr
archwilwyr allanol, yn dilyn rhyddhau’r Datganiad i aelodau’r Cyd-bwyllgor.
(b)
Bod Cadeirydd y cyfarfod, ynghyd â Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd (fel Swyddog
Cyllid Statudol GwE), yn arwyddo’n electronig y Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad
1 i adroddiad Archwiliwr Cyffredinol Cymru) wedi i’r Cyd-bwyllgor ystyried y
wybodaeth yn yr atodiadau.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
(a) Derbyn,
nodi a chymeradwyo’r wybodaeth sy’n yr atodiadau i’r adroddiad, sef –
·
Adroddiad ‘ISA260’ gan
Deloitte ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru;
·
Datganiad o’r Cyfrifon
2019/20 (yn dilyn archwiliad), gyda’r addasiadau hwyr a nodwyd yn y cyfarfod ar
gais yr archwilwyr allanol, yn dilyn rhyddhau’r Datganiad i aelodau’r
Cyd-bwyllgor.
(b) Awdurdodi Cadeirydd y cyfarfod, ynghyd â Phennaeth Cyllid Cyngor
Gwynedd (fel Swyddog Cyllid Statudol GwE), i arwyddo’r Llythyr Cynrychiolaeth
(Atodiad 1 i adroddiad Archwiliwr Cyffredinol Cymru) wedi i’r Cyd-bwyllgor
ystyried y wybodaeth yn yr atodiadau.
Trafodaeth
Cyflwynwyd – adroddiad Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd yn egluro y bu y Datganiad o Gyfrifon GwE am 2019/20 a gyflwynwyd i
gyfarfod 15 Gorffennaf, 2020 o’r Cyd-bwyllgor yn destun archwiliad gan
Deloitte, archwilwyr allanol a apwyntiwyd gan Archwilydd Cyffredinol
Cymru. Nododd ymhellach fod angen i’r
cyfarfod hwn o’r Cyd-bwyllgor ystyried y wybodaeth yn adroddiad ‘ISA260’
Archwilydd Cyffredinol Cymru, oedd yn manylu ar brif ddarganfyddiadau Deloitte,
ynghyd â’r fersiwn derfynol (yn dilyn archwiliad) o’r Datganiad o’r Cyfrifon am
2019/20.
Wedi i’r Cyd-bwyllgor ystyried yr uchod, roedd gofyn i
Gadeirydd y cyfarfod, ynghyd â Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd (fel Swyddog
Cyllid Statudol GwE), arwyddo’n electronig y Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1
i adroddiad Archwiliwr Cyffredinol Cymru).
Nodwyd ymhellach, yn dilyn cyhoeddi rhaglen y
Cyd-bwyllgor, y bu i’r archwilwyr allanol roi gwybod bod angen i gyfrifon GwE,
fel cyflogwr yng Nghronfa Bensiwn Gwynedd, adlewyrchu’r ansicrwydd prisio
cyffredinol yn gysylltiedig â buddsoddiadau mewn cronfeydd eiddo ym mhortffolio
asedau’r Gronfa Bensiwn ar 31 Mawrth 2020, fel a ganlyn:-
ADRODDIAD NARATIF (paragraff
3) [tud 2]
“Mae y cyfrifon
wedi eu paratoi
ar sail busnes gweithredol.”
NODYN 1 – POLISÏAU CYFRIFO [tud 12]
1.1 Egwyddorion Cyffredinol
“Mae y cyfrifon
wedi eu paratoi
ar sail busnes gweithredol.”
NODYN 5 - TYBIAETHAU WEDI EU GWNEUD AM Y DYFODOL A
FFYNONELLAU ERAILL O AMCANGYFRIF ANSICR [tud 18]
“Mae’r pandemig Coronafirws (COVID-19) wedi effeithio marchnadoedd ariannol ac eiddo yn fyd-eang.
Yn sgil yr
anweddolrwydd yng nghyflwr y farchnad, mae adroddiadau
prisio diwedd flwyddyn a ddarperir i Gronfa Bensiwn
Gwynedd yn cynnwys datganiad bod ansicrwydd prisio yn gysylltiedig
â chronfeydd eiddo DU a reolir ar ran y Gronfa. Cyfanswm gwerth cronfeydd eiddo DU ar 31 Mawrth 2020 yw £191m ac mae £1.7m i'w
briodoli i GwE. O ganlyniad, gall prisiadau’r gronfa eiddo ar
31 Mawrth 2020 fod yn destun lefel
uwch o ansicrwydd.”
Gwahoddwyd Ian Howse o gwmni Deloitte UK i gyflwyno
adroddiad ‘ISA260’ Deloitte ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru. Nododd:-
·
Y bwriedid cyhoeddi barn ddiamod ar gyfrifon eleni, unwaith y
byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth wedi’i arwyddo.
·
Nad oedd yna risgiau sylweddol i’w hamlygu.
·
Bod y sefyllfa COVID wedi cael effaith ar yr amserlen y
gwaith eleni.
·
Ni chanfuwyd unrhyw gamddatganiadau, oedd dal heb eu cywiro,
yn y cyfrifon.
·
Nad oedd angen cywiro unrhyw ddatganiadau o ganlyniad i’r
gwaith archwilio. Roedd y newidiadau i’r
cyfrifon o ganlyniad i’r gwaith archwilio yn ymwneud â mân faterion datgelu yn
unig.
·
Nad oedd yna unrhyw faterion arwyddocaol yn codi yn y
cyfrifon am y flwyddyn.
·
Ei fod yn cymeradwyo’r adroddiad ac yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor
gadarnhau nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw dwyll.
Cadarnhaodd
y Cadeirydd nad oedd y Cyd-bwyllgor yn ymwybodol o unrhyw dwyll, a diolchodd
i’r Pennaeth Cyllid a’r Tîm am gyflwyno’r cyfrifon fel bod modd eu harwyddo
gyda mân newidiadau’n unig.
Diolchodd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i’r Pennaeth Cyllid, y Cyfrifydd Grŵp a’r Uwch
Gyfrifydd a phawb o’r tîm am eu cefnogaeth gadarn bob amser, gan nodi bod safon
y Datganiad o’r Cyfrifon a barn gadarnhaol Deloitte arno yn cadarnhau bod y
gwasanaeth Cyllid a dderbynnir gan yr awdurdod lletya yn un arbennig o dda.
Diolchodd y Cadeirydd yn ffurfiol am y gefnogaeth
gyllidol, a diolchodd hefyd i Ian Howse am ei fewnbwn ac am roi sicrwydd i’r
Cyd-bwyllgor.
Diolchodd y Pennaeth Cyllid i Ian Howse, Lauren Parsons
a gweddill tîm Deloitte UK am eu cydweithrediad yn yr archwiliad.
Dogfennau ategol: