skip to main content

Agenda item

Ystyried adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE.

Penderfyniad:

(a) Bod y Cyd-bwyllgor yn cadarnhau ei fod yn sicr bod GwE yn:-

 

·         Dilyn y newid polisi gan Gyngor Gwynedd ers mis Gorffennaf 2018;

·         Cefnogi’r gofyn i reolwyr GwE adolygu hawliadau treuliau teithio.

 

(b) Gofyn i Reolwr Gyfarwyddwr GwE, mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd, adolygu’r trefniadau llywodraethu ac adrodd yn ôl i’r Cyd-bwyllgor.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

(a)     Bod y Cyd-bwyllgor yn cadarnhau ei fod yn sicr bod GwE yn:-

 

·         Dilyn y newid polisi gan Gyngor Gwynedd ers mis Gorffennaf 2018;

·         Cefnogi’r gofyn i reolwyr GwE adolygu hawliadau treuliau teithio.

 

(b)     Gofyn i Reolwr Gyfarwyddwr GwE, mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd, adolygu’r trefniadau llywodraethu ac adrodd yn ôl i’r Cyd-bwyllgor.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwydadroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn rhoi sicrwydd i’r Cyd-bwyllgor fod GwE wedi cydymffurfio gyda pholisi Cyngor Gwynedd ar gyfer ad-dalu treuliau teithio, lle bydd swyddogion yn hawlio ad-daliad dim ond am nifer y milltiroedd busnes a deithir yn ychwanegol at nifer y milltiroedd a deithir rhwng y cartref a’r gwaith / y gwaith a’r cartref.  Eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod GwE wedi gweithredu ar ôl ymgynghori ag Adran Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd a dod i gytundeb llawn â’r adran honno.  Ymhellach, roedd yr adroddiad yn darparu sicrwydd bod GwE wedi mynd i’r afael â’r cam lliniaru a ddeilliodd o’r Adroddiad Archwilio Mewnol, sefAtgoffa rheolwyr i adolygu hawliadau treuliau teithio’.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:-

 

·         Cyfeiriwyd at drafodaeth gyhoeddus yng nghyfarfod Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu Cyngor Gwynedd ar 30 Gorffennaf, 2020, am delerau gwaith a hawliadau treuliau teithio GwE, a gofynnwyd i Reolwr Gyfarwyddwr GwE roi sicrwydd i’r aelodau os bu canfyddiad camarweiniol yn deillio o hynny.  Mewn ymateb, eglurodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE fod staff GwE yn dilyn yr un drefn â Chyngor Gwynedd, ac yn cyd-fynd â’r hyn a gytunwyd gydag Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd.

·         Nododd aelod, yn dilyn y drafodaeth yn y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, iddo ddarllen yn y wasg am faterion nad oedd yn ymwybodol ohonynt, a mynegodd ei siomedigaeth â’r awdurdod lletyol am beidio dod â’r materion hyn gerbron y Cyd-bwyllgor cyn i’r wasg gael gafael ar y stori.  Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE ei fod yn cydnabod bod yna wersi i’w dysgu, a chadarnhaodd y byddai swyddogion GwE a’r awdurdod lletyol yn edrych ar y gwersi hynny, yn trafod sut i gyfathrebu i’r dyfodol, ac yn adrodd yn ôl i’r Cyd-bwyllgor.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth oedd canfyddiad yr awdurdod lletyol o’r sefyllfa, nododd y Pennaeth Cyllid fod gwersi wedi’u dysgu gan bawb  Tra nad oedd rhybudd wedi’i roi i’r Cyd-bwyllgor, nodwyd fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i reolaeth GwE ers mis Mawrth 2020, ac nid oedd wedi disgwyl i fanylion y mater godi yn y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.  Yn amlwg, byddai wedi bod yn llywodraethu gwell petai’r Cyd-bwyllgor wedi derbyn yr wybodaeth, ond y peth cyntaf a wnaeth ar ôl deall bod y mater yn mynd gerbron y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu oedd trefnu’r eitem gerbron y cyfarfod hwn.

·         Nodwyd yr ymgynghorwyd â Bwrdd Rheoli GwE ar y mater a’u bod yn fodlon â’r trefniadau arfaethedig ar y pryd, ac wedi’u sicrhau bod GwE yn cydymffurfio gyda pholisi Cyngor Gwynedd, ac y byddai’r hawliadau treuliau teithio’n cael eu monitro.

·         Nodwyd mai’r cwestiynau a godwyd gan aelodau yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu oedd wedi gwneud y penawdau, yn hytrach na’r adroddiad archwilio ei hun.  Roedd GwE wedi cyfarch y materion a godwyd yn yr adroddiad, ac yn cyd-weithio’n agos gyda’r awdurdod lletyol ar y cytundebau a’r llywodraethu rhwng yr awdurdodau wrth fynd yn eu blaenau.

·         Awgrymwyd y gallai’r gwersi a ddysgwyd o’r un mater hwn, a hefyd y ffaith bod GwE yn datblygu ac yn newid, olygu ei bod bellach yn amserol i ystyried adolygu trefniadau llywodraethu GwE.

·         Nodwyd ei bod yn bwysig bod materion perthnasol yn dod gerbron y Cyd-bwyllgor yn y dyfodol.  Mewn ymateb, nodwyd y bydd hyn yn dod allan o’r adolygiad o’r trefniadau llywodraethu perthnasol.

·         Croesawyd y bwriad i gael adroddiad yn ôl ar y trefniadau llywodraethu a gweld pa welliannau y gellir eu gwneud.

 

Dogfennau ategol: