Cyflwynwyd gan:Cyng. Dafydd Meurig
Penderfyniad:
¾ Cymeradwyo
i ddyrannu hyd at £375,000 o adnodd un-tro (wedi’i ddadansoddi yn y tabl o dan
rhan 4 o’r adroddiad) i gyllideb 2020/21 yr Adran Oedolion, ynghyd â £390,000
pellach o adnodd un-tro i gyllideb 2021/22, gydag union swm y dyraniadau i’w
adolygu ar ddiwedd y ddwy flynedd ariannol berthnasol.
¾ I
gefnogi’r bwriad i wario’r gyllideb ychwanegol uchod ar gost cyflogi gweithlu y
tu hwnt i lefelau cyllidebau staffio arferol, er mwyn ymateb i gynnydd anochel
mewn galw am wasanaeth gofal cymdeithasol i ddiogelu pobl Gwynedd, a llenwi
bylchau staffio sy’n ymddangos o ganlyniad i Covid19.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd
Meurig
PENDERFYNIAD
·
Cymeradwyo i ddyrannu hyd at £375,000 o adnodd un-tro (wedi’i
ddadansoddi yn y tabl o dan rhan 4 o’r adroddiad) i gyllideb 2020/21 yr Adran
Oedolion, ynghyd â £390,000 pellach o adnodd un-tro i gyllideb 2021/22, gydag
union swm y dyraniadau i’w adolygu ar ddiwedd y ddwy flynedd ariannol
berthnasol.
·
I gefnogi’r bwriad i wario’r gyllideb ychwanegol uchod ar gost cyflogi
gweithlu y tu hwnt i lefelau cyllidebau staffio arferol, er mwyn ymateb i
gynnydd anochel mewn galw am wasanaeth gofal cymdeithasol i ddiogelu pobl
Gwynedd, a llenwi bylchau staffio sy’n ymddangos o ganlyniad i Covid19.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cais
ar gyfer arian un tro o £375,000 am 2020/21 ac £390,000 ar gyfer 2021/22.
Mynegwyd fod yr adroddiad blaenorol wedi rhoi cefndir i’r angen am yr arian a
bod pawb yn ymwybodol o’r heriau sylweddol a fydd yn wynebu’r adran Oedolion.
Nodwyd fod yr adroddiad yn ymgais i edrych ar y sefyllfa waethaf posib. Ategwyd
yr angen i edrych ar hyn cyn cyfnod y gaeaf gan y bydd y sefyllfa yn amharu ar lesiant staff gyda staff heb gael
cyfle i gymryd gwyliau, bydd aelodau o staff yn sâl ac y bydd cynnydd yn y
galw.
Ychwanegodd
Arweinydd Rhaglen Tîm Trawsffurfio Cymunedol Iechyd a Gofal fod yr adran wedi
paratoi Cynllun Gweithlu a oedd ddarn o waith a oedd yn edrych ar feysydd megis
beth sydd wedi digwydd, lefelau salwch
staff a'r galw am wasanaeth. Nodwyd fod y darn o waith wedi defnyddio'r modelu
gwaith cenedlaethol gorau posib i geisio rhagamcanu niferoedd covid a rhoi syniad i weld be all daro'r adran yn ystod yr
ail don. Amlygwyd fod yr adran wedi ymdopi yn rhyfeddol efo staff yn fodlon
mynd y filltir ychwanegol a pŵl o weithlu dros dro wedi ei sefydlu. Nodwyd
bellach fod yr adran mewn lle ychydig yn wahanol gyda staff bellach yn blino a heb gael cyfle i
gymryd gwyliau ynghyd a dechrau edrych i ail agor rhai gwasanaethau. Ategwyd yn
ogystal fod arwyddion fod cynnydd am fod yn y galw am ofal wrth i bobl adref yr
ysbyty gyda sgil effeithiau Covid.
Mynegwyd fod yr
adran wedi rhagamcanu faint staff a all fod o’r gwaith yn sâl a bod yr adran
wedi cynllunio yn rhesymol ar sail absenoldebau rhwng 1 a 2%. Golygai hyn fod
bydd angen adnabod tua £60,000 er mwyn medru ôl-lenwi absenoldebau oherwydd
salwch. Nodwyd oherwydd bod staff heb fod yn cymryd eu gwyliau fod faint o
wyliau sydd heb eu cymryd cyfwerth a 18 person yn gweithio 20 awr yr wythnos
tad ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly y bydd angen adnabod £135,000 o arian er
mwyn ôl-lenwi’r staff i gymryd eu gwyliau.
Yn ogystal â hyn
nodwyd y bydd cynnydd yn y galw a bod gan y Cyngor gynllun pendant ar gyfer
ymateb i gynnydd yn y galw gydag agor gwelyau ychwanegol ac i agor canolfannau
gofal yn Glan Llyn a Phlas Menai. Nodwyd er mwyn cynnal gwasanaethau i nifer
uchel o bobl bydd angen cyfwerth 30 aelod ychwanegol o staff a byddai hyn o
gost o £120,000 eleni a £390,000 yn 2021/22. Pwysleisiwyd yr angen i gael staff
ar fyrder mwyn sicrhau fod staff yn cael eu hyfforddi yn ddigonol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Mynegwyd fod asesiadau yn awgrymu ar ei waethaf y gallasem fod angen
dros 300 o staff ychwanegol am 6 wythnos. Gan dderbyn nad yw hynny’n ymarferol
i’w gyflawni bydd yr ateb yn golygu cyfuniad o benodi ychydig yn fwy o staff ac
yna staff yn cael eu symud dros dro a gwyro staff o adrannau eraill yn y
cyngor.
¾ Amlygwyd cefnogaeth i’r cais a bod yr adran yn paratoi'r gorau ac y
gallent.
¾ Nodwyd fod yr Adran Gyllid yn ymgeisio i uchafu’r swm mae’r Cyngor yn
hawlio gan y Llywodraeth. Eglurwyd bydd y Cyngor yn parhau i wario fel bydd
angen er mwyn arbed bywydau ac amddiffyn iechyd pobl Gwynedd, ond fod yr
hyblygrwydd i hawlio wedi lleihau ar ôl chwarter gyntaf flwyddyn ariannol
2020/21, a does dim sicrwydd o unrhyw ariannu ychwanegol erbyn 2021/22. Er hynny, cadarnhawyd bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i hawlio arian,
gydag angen i swyddogion Gofal, yn ogystal â swyddogion Cyllid y Cyngor,
argyhoeddi’r gweision sifil perthnasol yng nghyswllt ariannu’r Cynllun Gweithlu
Gwasnaethau Gofal Oedolion rhagweithiol yma.
Awdur:Meilys Smith
Dogfennau ategol: