Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn

Penderfyniad:

Derbyn y diweddariad ar y trefniadau sydd mewn lle i baratoi ar gyfer ail don posibl Covid-19.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams

 

PENDERFYNIAD

Derbyn y diweddariad ar y trefniadau sydd mewn lle i baratoi ar gyfer ail don posibl Covid-19.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y sefyllfa Covid yn un sydd yn newid yn sydyn.  Nodwyd fod yr adroddiad wedi dyddio ers iddo gael ei greu bron i bythefnos yn ôl gyda nifer achosion yng Ngwynedd dros yr wythnos diwethaf bellach wedi codi i 114.

Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi darlun o beth fydd y Cyngor yn ac wedi ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer yr ail don. Amlygwyd fod y Llywodraeth wedi creu'r senario gwaethaf rhesymol sydd wedi bod yn sail cynllunio i’r gwaethaf a all ddigwydd.

O ran trefniadau Gwynedd mynegwyd fod yr adrannau wedi nodi fod y gwersi a ddysgwyd yn ystod y don gyntaf bellach wedi ymgorffori yng ngwaith yn yr adrannau. Mynegwyd fod staff yn parhau i weithio o’i cartrefi sydd yn lleihau risg o fewn y Cyngor. Amlygwyd fod llai o drafferthion o ran offer gwarchod personol gan fod cyflenwad digonol gan y Cyngor. Pwysleisiwyd un pryder yw’r potensial o weld cyfuniad o haint yn gafael yn ddrwg a all olygu mwy o alw ar wasanaethau a staff adref o’r gwaith yn sâl. Nodwyd fod yr adran Oedolion wedi creu cynllun parhad gwasanaeth a fydd yn cael ei drafod yr adroddiad nesaf. Ychwanegwyd fod trefniadau i adfer Tîm Covid os angen yn codi. 

Nodwyd fod Tîm Profi, Olrhain a Diogelu wedi bod yn hynod weithgar ond fod niferoedd wedi bod yn isel dros fis Awst. Ychwanegwyd fod y niferoedd yn codi yn raddol. Mynegwyd o ran Grŵp Atal a Gwyliadwriaeth eu bod bellach yn cyfarfod bron yn ddyddiol i gadw golwg ar y sefyllfa. Ategwyd fod y Grŵp hwn yn gyfuniad o’r Cyngor a phartneriaid fel y Brifysgol sydd yn trafod ardaloedd penodol. Nodwyd fod y grŵp hwn bod yn ganolog i drafodaeth a Llywodraeth Cymru am achosion Bangor ynghyd a’r penderfyniad o greu Ardal gwarchod Iechyd newydd yn dilyn nifer uchel o achosion.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Mynegwyd pryderon lleol am y rheoliadau ym Mangor o ran mannau gwyrdd i drigolion gael mynediad iddynt, yn ogystal holwyd os oedd y drefn Olrhain a Diogelu yn un peth i fyfyrwyr. Mynegwyd fod niferoedd wedi codi o ganlyniad  i  nifer uchel o fyfyrwyr gyda’r haint gan ychwanegu fod y Cyngor yn gweithio yn agos gyda’r Brifysgol, ychwanegwyd fod y drefn Profi, Olrhain a Diogelu'r un peth i fyfyrwyr ac i drigolion.

¾  Mynegwyd angen i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i roi cefnogaeth ariannol i fusnesau Bangor. Pwysleisiwyd yn ogystal yr angen i bawb gadw at y rheoliadau er mwyn dod yn ôl i’r normal newydd yn gynt.

¾  Nodwyd fod paratoadau ar gyfer y gaeaf yn anodd gan fod staff wedi bod yn gweithio yn galed dros y misoedd diwethaf. Ychwanegwyd fod y cyfnod wedi amlygu fod staff yn fodlon mynd y filltir ychwanegol. Diolchwyd i staff am eu holl waith. Ychwanegwyd fod y cyfnod wedi amlygu pwysigrwydd a gwerth llywodraeth leol.

¾     Codwyd pryderon am lesiant staff os gweithio am barhau am gyfnod hir o amser.

 

Awdur:Dilwyn Williams

Dogfennau ategol: