I dderbyn adroddiad
blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2019/20
Cofnod:
a)
Nodyn
gan y Cadeirydd – y Cynghorydd Peredur Jenkins
Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa
Bensiwn.
Diolchwyd i’r Cynghorydd John Pughe Roberts am ei
wasanaeth ffyddlon yn cadeirio’r Pwyllgor
Pensiynau am y 2 flynedd diwethaf. Nodwyd y byddai’r cyn-gadeirydd yn edrych yn ôl
ar gyfnod datblygol a llewyrchus i’r Gronfa, pryd
roedd yn chwarae rhan ddylanwadol
ar ran Gwynedd fel aelod o Gydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru.
b)
Nodyn
gan Gadeirydd y Bwrdd Pensiwn (2019/20)
- Mr Osian Richards
Cyfeiriwyd at adroddiad blynyddol Bwrdd Pensiwn y Gronfa oedd wedi
ei gynnwys yn yr adroddiad
ynghyd a phrif swyddogaethau’r Bwrdd fel corff sydd
yn monitro ac adolygu penderfyniadau’r Pwyllgor Pensiynau a gwaith yr Uned
Weinyddu. Mynegodd bod perthynas dda rhwng
y Bwrdd a bod y Bwrdd wedi cynorthwyo a chyfrannu at lwyddiant y Gronfa.
c) Cyflwyniad y Pennaeth
Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2019/20
Mynegodd bod 2019/20 wedi bod yn flwyddyn
heriol iawn gyda’r Gronfa wedi
llwyddo i gyflawni dychweliadau cadarnhaol, ond bod effaith covid-19 i’w weld ar werth y Gronfa
ar ddiwedd Mawrth 2020. Adroddwyd mai gwerth y Gronfa
31/03/2020 oedd £1,938.3 miliwn o gymharu â gwerth 31/03/2019 o
£2,081.3 miliwn. Er hynny, braf oedd adrodd bod y gwerthoedd, ers
diwedd y flwyddyn ariannol, wedi bownsio
nôl, gyda gwerthoedd ecwiti byd eang yn parhau i gynyddu. Adroddwyd bod gwerth
y Gronfa ar 30/06/20 yn £2,162.1 miliwn ac erbyn 30/09/20 yn £2,217.7 miliwn.
Cyhoeddodd cwmni
Pfizer frechlyn a oedd yn 90% effeithiol ar y 9fed o Dachwedd ac mewn
ymateb gwelwyd y marchnadoedd gynnydd o tua 7%. Amlygwyd mai dyma’r wythnos gryfaf ers Ebrill 2020, ond gyda chwymp cymharol ar y Dydd
Gwener canlynol wrth i fuddsoddwyr ystyried y byddai’n cymryd peth amser i’r
brechlyn cael ei ddosbarthu ac i’r economi adfer yn llwyr. Ategwyd bod y Gronfa
o ran perfformiad yn gwneud yn dda iawn a hynny oherwydd penderfyniadau doeth y
Pwyllgor a’r Rheolwyr Buddsoddi sydd yn gweithio ar ein rhan.
Yng
nghyd-destun Partneriaeth Pensiwn Gwynedd adroddwyd bod y cydweithio yn
mynd o nerth i nerth ers
ei sefydlu yn 2017 gyda swyddogion
yn cwrdd yn aml. Ers
y cyfnod clo, adroddwyd bod holl ddigwyddiadau’r bartneriaeth wedi bod yn rhithiol
ond y gwaith wedi parhau gyda
chronfeydd newydd wedi ei lansio,
a nifer o ddigwyddiadau wedi cymryd lle.
Atgoffwyd yr aelodau o’r holl
Reolwyr sydd yn cefnogi’r Gronfa
ynghyd a’r buddion sydd wedi
eu hennill o fod wedi ymuno,
sydd yn cynnwys
ehangu ein cyfleodd buddsoddi drwy ehangu’r nifer
o reolwyr buddsoddi sydd yn ein
portffolio, a lleihad mewn ffioedd. Adroddwyd,
yn ystod Gorffennaf a Hydref 2020 crëwyd pum cronfa
Incwm Sefydlog gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru, gyda Chronfa Bensiwn
Gwynedd wedi buddsoddi mewn dau ohonynt:
Cronfa Multi Asset Credit (trosglwyddwyd
£166 miliwn yng Ngorffennaf 2020) a’r Gronfa Absolute Return Bond (trosglwyddwyd
£291 miliwn yn Hydref 2020). Cadarnhawyd mai'r trosglwyddiad nesaf a fydd yn
digwydd bydd Marchnadoedd Datblygol yn Haf 2021.
Yng
nghyd-destun materion anariannol a’r dyletswydd i fuddsoddi
yn gyfrifol yn destun blaenoriaeth
gan y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiynau,
cytunwyd yng Ngorffennaf 2019 i symud 12% o
gyfanswm y gronfa i Gronfa Carbon Isel Black Rock gan leihau amlygiad carbon o hyd at 80%, gyda’r trosglwyddiad yn cael ei weithredu
yn Medi 2020. Nodwyd, trwy
olrhain Mynegai Carbon Isel MSCI, byddai BlackRock a Cronfa Bensiwn Gwynedd yn buddsoddi mewn
cwmnïau fydd ag allyriadau carbon isel, tra hefyd
yn sicrhau dychweliadau ariannol cyffelyb i’r Mynegai
Byd-eang safonol ynghyd a bodloni’r ddyletswydd ymddiriedol i staff, pensiynwyr a chyflogwyr y cynllun. Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid bod Cronfa bellach gan Black Rock bellach ar gael, a cytunodd y Pwyllgor Pensiynau ar 14 Hydref, 2020 i symud i’r
gronfa yma. Manteision y gronfa newydd yma yw
y gellir lleihau carbon 44%
ymhellach drwy sgrinio cyn yr
optimeiddio carbon isel. Yn ychwanegol, yn Hydref 2020, derbyniodd y Panel Buddsoddi gyflwyniad gan Baillie Gifford ar ei cronfa
Global Alpha Paris- Aligned a fyddai yn ffurfio rhan
o Gronfa PPC Global Growth Fund. Byddai’r
gronfa yn sgrinio allan
echdynwyr tanwydd ffosil a darparwyr gwasanaeth tanwydd ffosil.
Gweinyddiaeth Pensiynau:
Yn ystod 2019/20 adroddwyd bod gwaith wedi ei
wneud i uwchraddio
gwefan Hunan Wasanaeth
Aelodau. Lansiwyd y safle ddiwedd Ionawr 2020 a mynegwyd bod y wefan newydd yn rhoi
gwell profiad ar-lein i'r aelodau,
gyda rhyngwyneb sy’n edrych yn
fwy deniadol ac yn haws i'w ddefnyddio.
Adroddwyd ar 31/03/2020 y canrannau o aelodau oedd wedi
ymaelodi a’r gwasanaeth hunan
wasanaeth - Aelodau actif:
60%, Aelodau gohiriedig: 38% a Phensiynwyr:
11%. Ategwyd bod gwaith yn parhau i
geisio cynyddu’r aelodaeth.
Amlygwyd pwysigrwydd pob cyflogwr i gyflwyno
data i'r cynllun pensiwn yn rheolaidd
gyda system i-Connect yn diweddaru data tâl a chyfraniadau ar y system yn fisol. Ategwyd bod i-Connect yn darparu
buddion sylweddol i aelodau Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) drwy
gyflwyno data clir, cywir ac amserol. Diolchwyd i’r holl
gyflogwyr am drosglwyddo i system i-connect.
Tynnwyd sylw at Arolwg Boddhad Aelodau sydd yn cael ei
anfon allan
i holl aelodau’r
Gronfa ar ddiwedd pob proses, e.e. ymddeoliadau a thalu ad-daliadau. Y bwriad yw derbyn
barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd ynghyd a barn am y gwasanaeth a ddarperir gan staff yr adran. Defnyddir
yr adborth i sicrhau bod y gwasanaeth gorau posibl yn cael
ei gynnig i’r Aelodau. Adroddwyd bod dros 98% o aelodau unai
yn cytuno’n gryf neu’n cytuno
bod ansawdd y gwasanaeth o safon uchel ac 98.16% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf
neu’n cytuno bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir o safon uchel mewn perthynas
â staff yr adran. Er mwyn cyflawni’r
sgoriau uchel hyn, nodwyd bod cydweithrediad y cyflogwyr yn hanfodol a diolchwyd
i’r cyflogwyr am ei parodrwydd i
ddarparu’r wybodaeth yn brydlon i’r
Gweinyddwyr.
Diolchwyd i bawb am eu
cefnogaeth yn ystod 2019/20.
·
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â thaliadau staff ar ffyrlo ac, os yr
oeddynt ar eu colled, nodwyd
bod y sefyllfa yn ddibynnol ar y cyflogwr yn talu'r
20% ychwanegol. Awgrymwyd
bod y cwmnïau mwyaf yn fwy tebygol
o dalu’r ychwanegiad hyn ac o ganlyniad ni fyddai
effaith ar eu pensiwn.
·
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â chostau pwlio, amlygwyd bod manteision maint o gyfuno wedi bod yn fuddiol
ac o ganlyniad wedi gyrru'r ffioedd i lawr o tua
12%. Tynnwyd sylw at debygolrwydd effaith Brexit gan nodi
y byddai risg debygol i fuddsoddiadau
eiddo Prydeinig ond yng nghyd-destun
buddsoddiadau ecwiti, nodwyd mai oddeutu
6% yn unig oedd yn Brydeinig
ac felly'r risg yn llai. Ategwyd
bod swmp o’r buddsoddiadau yn fyd eang ac felly yn cael llai
o effaith ar ecwiti.
·
Gwnaed sylw bod yr adferiad ar
ôl cwymp mis Mawrth o ganlyniad
i covid-19 wedi bod yn syndod ac yn
dystiolaeth o’r penderfyniadau da sydd wedi ei gwneud
mewn buddsoddiadau amrywiol. Pwysleisiwyd yr angen i
barhau gyda’r’ meddylfryd yma a bod angen croesawu’r cyfleoedd o fod yn rhan o Bartneriaeth
Pensiwn Cymru.
Diolchwyd i holl staff y Gronfa am gyflawni eu gwaith a’u
dyletswyddau yn broffesiynol iawn o dan amgylchiadau anghyffredin. Diolchwyd i Aelodau’r Pwyllgor
ac i Aelodau’r Bwrdd am eu rheolaeth
dros lwyddiant y Gronfa.
PENDERFYNWYD DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA
BENSIWN AM 20119/20
Dogfennau ategol: