Cyflwynwyd gan:Cyng Ioan Thomas
Penderfyniad:
¾ Derbyniwyd
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2020 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y
sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
¾
Nodwyd effaith ariannol Covid19, sydd yn
gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen
arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu
iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na
fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr
argyfwng.
¾
Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth
Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod
sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd
modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr
argyfwng.
¾
Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan fod angen egluro manylder cymhleth yn y
darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi comisiynu
gwaith er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb,
¾
Nodwyd fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei
gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran
Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r
bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun
ymateb.
¾
Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau
ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2).
·
Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:
¾ (£250k)
yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa ariannu'r rhaglen
gyfalaf. - tanwariant net o (£1,127k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i
falansau cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her ariannol sydd yn
wynebu’r Cyngor yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid19.
¾ Fod
derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a cholledion incwm
cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r
adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas
PENDERFYNIAD
·
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2020 o’r Gyllideb
Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob
adran / gwasanaeth.
·
Nodwyd effaith ariannol Covid19, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol,
colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi
blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb
i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio
perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.
·
Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i
gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail
afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor
symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng.
·
Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
eleni, gan fod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal
Oedolion, mae’r Prif Weithredwr eisoes wedi comisiynu gwaith er mwyn cael gwell
dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb,
·
Nodwyd fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr
i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel bod modd
mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron
y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun ymateb.
·
Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd
wedi’u hegluro yn Atodiad 2).
o
Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:
¾
(£250k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa
ariannu’r rhaglen gyfalaf.
¾
tanwariant net o (£1,127k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her
ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid19.
·
Fod derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a
cholledion incwm cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y Llywodraeth yn cael ei
ddyrannu i’r adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn amlygu ar adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw y Cyngor a
rhagolygon ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mynegwyd fod y ffigyrau’r adolygiad
diwedd Awst yn amlygu effaith ariannol Covid ar y
ffigyrau sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y
rhaglen arbedion.
Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu
cronfa caledi i ddigolledu costau a cholledion incwm Awdurdodau Lleol. Mynegwyd
yng Ngwynedd fod ceisiadau dros £4.5miliwn wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru
i ddigolledu Cyngor am y cyfnod hyd at ddiwedd Awst, gyda £3.6miliwn eisoes
wedi ei dderbyn. Nodwyd o ran colled incwm, roedd cais am chwarter cyntaf y
flwyddyn bron yn £3.7miliwn gyda £3.3 eisoes wedi ei dderbyn.
Pwysleisiwyd fod pwysau ar adrannau yn amlwg
eleni a bod problemau gwireddu arbedion fwy fwy amlwg
eleni ac yn ffactor sydd yn cyfannu at y gorwariant a adroddir yn y meysydd
megis Plant, Oedolion a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol. Amlygwyd y prif faterion yn
rhai adrannau fel yr ardrawiad mae Covid19 wedi cael ar yr adran Oedolion, gyda
£2.2miliwn wedi ei wario hyn at ddiwedd Awst. Nodwyd fod £1.722miliwn wedi ei
dderbyn eisoes gan Lywodraeth Cymru ond hyd yn oed heb ardrawiad Covid, rhagwelir gorwariant o £1.8miliwn gyda methiant i
gyflawni arbedion gwerth £1.7miliwn.
Yn yr adran Plant a Theuluoedd er bod
£1.8miliwn ychwanegol wedi ei ddyrannu i’r Adran yn 2020/21 rhagwelir
gorwariant o £2.8miliwn ynghyd a’r methiant i wireddu £688k o arbedion angen
datrysiad. Mynegwyd fod yr ystadegau diweddaru yn cadarnhau cynnydd pellach yn y galw am wasanaethau yn
arbennig maes lleoliadau ac ôl-16. Pwysleisiwyd fod y sefyllfa’n un pryderus er
nad yw’n unigryw i Wynedd.
Amlygwyd fod problemau yn y maes casglu a
gwaredu gwastraff yn parhau eleni a bod yr adran yn wynebu costau ychwanegol yn
ymwneud a Covid ond y gobaith yw y bydd Llywodraeth
Cymru yn digolledu am y costau ychwanegol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Diolchwyd i staff am eu gwaith a’i hymrwymiad yn ystod y misoedd
diwethaf.
¾ Mynegwyd diolch i staff rheng flaen y
Cyngor. Ychwanegwyd o ran yr adran addysg fod costau glanhau ac arlwyo wedi
codi yn sylweddol o ganlyniad i Covid a holwyd os
bydd y math yma o gostau yn cael ei digolledu gan y Llywodraeth. Nodwyd y bydd
y math yma o gostau yn cael ariannu gan ei fod yn gost o ganlyniad i’r haint.
Awdur:Ffion Madog Evans
Dogfennau ategol: