Agenda item

Dymchwel stablau presennol a chodi stablau newydd ynghyd â chodi adeilad ysgol farchogaeth dan do, manege a seilwaith cysylltiol (gan gynnwys ad-drefnu'r trefniadau mynediad a pharcio)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:-

 

Amodau

1.            5 mlynedd

2.            Yn unol â’r cynlluniau.

3.            Materion tirlunio.

4.            Cyflwyno cynllun goleuo ar gyfer yr adeiladau a’r ardaloedd tu allan i gynnwys math ac amser byddent ymlaen.

5.            Cydymffurfio ag argymhellion mesurau lliniaru’r Adroddiad Ecolegol

6.            Cyflwyno mesurau lliniaru archeolegol

7.            Cyflwyno manylion arwyddion dwyieithog o fewn y safle.

8.            Cwblhau llecynnau parcio cyn i’r datblygiad gael ei ddefnyddio at unrhyw       ddiben.

 

Nodyn yn tynnu sylw’r ymgeisydd i ofynion System Draenio Cynaliadwy (SuUDS)

 

Cofnod:

  Ymhelaethodd Y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel y stablau presennol a chodi stablau newydd yn eu lle ynghyd a chodi adeilad ysgol farchogaeth dan do, milodfa marchogaeth a seilwaith cysylltiol ar safle ger glannau'r Fenai yn Llanfair Is Gaer sydd i'r gogledd o Gaernarfon ac i'r de o'r Felinheli gerllaw Plas Menai.

 

   Nodwyd bod yr adroddiad yn un helaeth a’r cais yn disgyn o dan ddiffiniad ‘major’. Ategwyd bod yr ymgeisydd ar asiant wedi cymryd y camau perthnasol i gyflwyno’r cais. Adroddwyd bod egwyddor y datblygiad wedi ei seilio ym Mholisi  PCYff 1 a  CYF6 o’r Cynllun Datblygu Lleol a bod y rhain wedi eu trafod yn fanwl yn yr adroddiad.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn llecyn sy’n sensitif o safbwynt y dirwedd gyda dynodiadau statudol nepell o’r safle ei hun. Nodwyd bod y sensitifrwydd yma wedi ei gydnabod yn y ddogfen Asesiad Effaith Gweledol a Thirweddol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd i gefnogi’r cais, gyda’r ddogfen yn argymell mesurau lliniaru er mwyn lleihau effaith y datblygiad ar y dirwedd. Mae’r asesiad yn trafod gosodiad, maint a graddfa, dyluniad ac edrychiad y bwriad gyda phob ymdrech wedi ei wneud gan yr ymgeisydd i liniaru'r effaith weledol. Ystyriwyd bod y bwriad felly yn dderbyniol ar sail ei ardrawiad o fewn y tirlun a’i ardrawiad ar ddynodiadau tirwedd statudol a hanesyddol cyfagos a bod yr asesiad yn un llawn.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd ar wahân i eiddo’r ymgeisydd, bod yr anheddau preswyl cyfagos wedi eu lleoli oddeutu 150m i’r dwyrain o’r safle, gan gynnwys Plas Menai. Ni ystyriwyd  felly y byddai effaith andwyol ar fwynderau eiddo nac ymwelwyr i Blas Menai. Fel rhan o’r ymgynghoriad statudol ymgynghorwyd gyda’r Adran Trafnidiaeth ac fe dderbyniwyd cadarnhad nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad yn  ddarostyngedig i gynnwys amodau a nodiadau cynllunio perthnasol

 

Tynnwyd sylw at faterion cynaladwyedd a materion ieithyddol a bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth am arwyddion a chyflogaeth yn lleol ynghyd a buddion economaidd. Ategwyd bod y materion bioamrywiaeth ac archeolegol hefyd yn dderbyniol.

 

O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn unol gyda pholisïau lleol a chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol arall yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau.

 

a)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·           Y plant wedi dangos diddordeb mawr yn y maes neidio ceffylau ac yn cystadlu ar lefel genedlaethol gyda Thimau Cymru ynghyd a phobl eraill o Wynedd sydd yn cystadlu ar lefel uchel.

·           Dim lleoliad pwrpasol ar gyfer ymarfer a chystadlu ac felly gorfod teithio o leiaf dwy awr  i gyrraedd canolfan

·           Y bwriad yw y bydd yr adeilad wedi ei gladdu yn y tir ac felly’n lleihau'r effaith ar y dirwedd ar amgylchedd

·           Lleoliad yn agos i’r A55 gyda mynedfa gyfleus

·           Yng nghyfnod y pandemig, mae Iechyd meddwl yn broblem fawr ac felly  chwaraeon yn bwysig i bob oedran

·           Byddai’r bwriad yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:-

·                   Ei fod yn gefnogol i’r cais

·                   Ei fod wedi ymweld â’r safle ac wedi cael cyfle i drafod y bwriad gyda’r ymgeisydd ar asiant

·                   Y bwriad yw ychwanegu a gwella'r adnoddau sydd eisoes ar y safle ynghyd a gwella adnoddau i’r gymuned

·                   Nid oes safle tebyg yng Ngogledd Cymru - gorfod teithio i Sir Gaer

·                   Cyngor Cymuned wedi pryderu am yr elfen sŵn - Plas Menai, wedi ei leoli ger y fynwent, sydd ar agor drwy’r flwyddyn, saith diwrnod yr wythnos - yr ymgeisydd yn byw ger y safle ac felly yn annhebygol o fod eisiau sŵn o’i chwmpas

·                   Eisoes yn cyflogi 3 person - bwriad o gyflogi 6 os y cais yn cael ei ganiatau

·                   Y bwriad wedi ei leol ar gyrion y pentref

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

 ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·                   Cynllun manwl, mawr ond yn ymateb i’r angen ac i’w groesawu

·                   Lleoliad addas a chyfleus i’r A55

·                   Cynllun gwella o safon gan ddymchwel ac adeiladu o’r newydd ysgol farchogaeth a stablau

·                   Wedi ei sgrinio yn helaeth ac yn ymdoddi yn naturiol i’r amgylchedd

·                   Ceffylau yn dod a phleser i nifer gyda chynnydd yn y galw

·                   Gyda chynnydd mewn merlota / marchogaeth, hyfforddiant yn hanfodol

·                   Marchogaeth  therapi yn bwysig ar gyfer yr anabl - dim cyfleuster o’r fath mewn bodolaeth yn lleol

·                   Croesawu bod person lleol yn barod i wynebu’r fenter

·                   Siom bod Glynllifon wedi dod a chwrs trin ceffylau i ben

·                   Diffyg cyfleusterau o safon ar gyfer unrhyw fath o chwaraeon lefel uchel yn y Gogledd

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:-

 

Amodau

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r cynlluniau.

3.         Materion tirlunio.

4.         Cyflwyno cynllun goleuo ar gyfer yr adeiladau a’r ardaloedd tu allan i gynnwys math ac amser byddent ymlaen.

5.         Cydymffurfio ag argymhellion mesurau lliniaru’r Adroddiad Ecolegol Cychwynnol.

6.         Cyflwyno mesurau lliniaru archeolegol.

7.         Cyflwyno manylion arwyddion dwyieithog o fewn y safle.

8.         Cwblhau llecynnau parcio cyn i’r datblygiad gael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben.

 

Nodyn yn tynnu sylw’r ymgeisydd i ofynion System Draenio Cynaliadwy (SuUDS)

 

Dogfennau ategol: