Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi
wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn
cynnig fel a ganlyn:-
“Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar
Lywodraeth Cymru i newid y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol cael hawl
cynllunio i drosi tŷ anedd yn dŷ haf /uned wyliau, ac yn addasu’r fframwaith bolisi i
ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf
mewn unrhyw ardal i ffigur na ddylai fod yn uwch nag oddeutu 5% o’r stoc dai.”
Penderfyniad:
Bod Cyngor Gwynedd yn galw
ar Lywodraeth Cymru i newid
y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn
orfodol cael hawl cynllunio i drosi tŷ
anedd yn dŷ haf
/uned wyliau, ac yn addasu’r fframwaith
bolisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw
ardal.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd
Gruffydd Williams o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth
Cymru i newid
y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn
orfodol cael hawl cynllunio i drosi tŷ
annedd yn dŷ haf /uned
wyliau, ac yn addasu’r fframwaith bolisi i ganiatáu
gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn
unrhyw ardal i ffigur na
ddylai fod yn uwch nag oddeutu
5% o’r stoc dai.
Ar gychwyn y drafodaeth, nododd aelod fod
perchennog ail gartref yn ei ward wedi
cysylltu â hi i ofyn pa gefnogaeth fyddai ar gael pe na
chaniateid i ragor na 5% o
dai fod yn
ail gartrefi, ac y byddai’n
pasio’r llythyr ymlaen i’r Aelod
Cabinet Tai.
Yn ystod y drafodaeth ar y cynnig, nodwyd:-
·
Bod y nifer uchel o
ail-gartrefi yng Ngwynedd yn ei gwneud yn amhosib’ i bobl ifanc lleol gael tai.
·
Nad hwn oedd y tro
cyntaf i’r Cyngor ddwyn hyn i sylw Llywodraeth Cymru.
·
Bod y broblem wedi
cynyddu dros y blynyddoedd, a bod cyfle i wneud rhywbeth ynglŷn â’r
sefyllfa drwy’r drefn gynllunio. Roedd y
Llywodraeth eisoes wedi rhoi’r hawl i gynghorau ei gwneud yn orfodol cael hawl
cynllunio i drosi tŷ annedd yn dŷ aml-feddiannaeth, felly dylai fod
yn eithaf syml cyflwyno’r un rheol yng nghyswllt tai haf ac ail gartrefi. Roedd angen gwahaniaethu hefyd rhwng ail
gartrefi a llety gwyliau, gan fod llety gwyliau yn dod â budd economaidd.
Nodwyd ymhellach, os oes
pobl yn methu
cael tŷ o gwbl, na ddylid
caniatáu unrhyw dai haf o gwbl,
a chynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ddileu
cymal olaf y cynnig, sef ‘i ffigur na ddylai
fod yn uwch
nag oddeutu 5% o’r stoc dai’, fel bod y cap ar y niferoedd yn cael
ei bennu yn ôl doethineb
cynllunwyr a chymunedau ar raddfa sy’n
addas i’r ardal dan sylw.
Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r
cynnig ar y llinellau yma gyda
chydsyniad y Cyngor.
Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, nodwyd:-
·
Nad oedd y broblem yn
unigryw i Wynedd na’r cyfnod hwn.
·
Mai digon yw digon, a
bod pobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai.
·
Bod mwy na 5% o’r tai
yn dai haf mewn rhai pentrefi, a bod y ffigur hyd at 30% mewn rhai rhannau o
Wynedd.
·
Y croesawid yr awgrym
y dylai cymunedau lleol gael llais yn y penderfyniad.
·
Mai un o brif
egwyddorion y system gynllunio ar adeg ei chreu oedd creu system oedd yn deg i
bawb, ond pobl ariannog oedd yn rheoli’r system bresennol. Roedd sefyllfa tai haf yn un elfen o’r hyn
oedd o’i le gyda’r system gynllunio, sef system oedd yn gweithredu dan ddeddf a
basiwyd yn 1990, ac mewn gwlad wahanol.
·
Y dylid rhybuddio
pobl y gallai cais i drosi eiddo sydd wedi’i gofrestru fel busnes, megis busnes
gwely a brecwast, yn ôl yn dŷ annedd neu fflatiau ar y farchnad agored olygu
bod yr eiddo hwnnw’n mynd yn ôl yn dŷ fforddiadwy.
·
Nad mater iaith yn
unig oedd hyn, eithr mater i’r gymuned hefyd.
·
Bod y pentrefi’n
llawn o Airbnbs, gyda’r bobl sy’n dod yno ar wyliau
yn aml yn cymryd mwy nag un lle parcio ar y stryd. Hefyd, nid oedd pobl leol yn hapus bod
perchnogion yr Airbnbs yn gallu hawlio’r grant o
£10,000 i fusnesau sy’n gymwys am ryddhad ardrethi busnesau bach.
·
Yr adroddwyd yn
gynharach yn y cyfarfod hwn bod yr ymchwil i ail gartrefi yn mynd i gymryd
amser, ond roedd hi eisoes yn ben set, ac roedd tystiolaeth o effaith niweidiol
ail-gartrefi ar gael yn barod.
·
Bod ystadegau
Llywodraeth Cymru ynglŷn â threth tir fesul etholaeth yn dangos mai
Meirion / Dwyfor oedd yr ail uchaf drwy Gymru, gyda £3-£4miliwn yn dod i
goffrau’r Llywodraeth o ail-gartrefi.
·
Y gwelwyd cynnydd o
70% yng ngwerthiant tai yng Ngwynedd dros yr ychydig fisoedd diwethaf, o
gymharu â’r un adeg y llynedd, a bod y mwyafrif ohonynt yn ail-gartrefi.
·
Bod pentrefi
Llŷn dan warchae gan ddatblygwyr allanol, a thwristiaeth wedi cyrraedd
penllanw, gyda gormodedd o safleoedd carafanau a thai haf.
·
Y dylid diolch i
aelodau Cyngor Tref Nefyn, gan gynnwys y Cynghorydd Gruffydd Williams, am
gynnig camau gweithredu pendant i wella’r cyfleoedd i bobl ifanc gael tai yn
lleol.
·
Na fyddai gennym “gymunedau llewyrchus a bywiog lle mae’r
Gymraeg yn ffynnu” yn fuan iawn, ac roedd angen atgoffa’r Llywodraeth o
amcanion y Ddeddf Llesiant.
·
Bod themâu’r tri
chynnig gerbron y cyfarfod hwn o’r Cyngor yn ymwneud â’r problemau sydd wedi
codi yn sgil yr holl ymwelwyr sy’n dod i’r ardal, ac y gallai Brexit waethygu’r broblem wrth i lai o bobl fynd dramor ar
wyliau.
·
Bod pobl wedi bod yn
tynnu sylw at y broblem tai haf ers hanner canrif bellach, ac 20 mlynedd yn ôl,
bu i fesur preifat a gyflwynwyd gan Elfyn Llwyd ar yr union fater hwn gael ei
daflu allan gan Gabinet Tony Blair.
·
Y gobeithid bod
gennym yr ewyllys i ddiogelu ein cymunedau drwy’r alwad hwn ar y Llywodraeth,
ac unrhyw ffordd arall bosib’. Nid hyn
oedd yr unig ateb, ond byddai’n hawdd ei weithredu, ond i ni sicrhau cefnogaeth
Llywodraeth Cymru. Er hynny, nid oedd
yna synau cadarnhaol iawn wedi dod o’r Llywodraeth yn ddiweddar.
·
Bod pobl leol yng
Ngwynedd yn methu cael hawl cynllunio, ac felly bod angen edrych ar ein
polisïau cynllunio ni yma yng Ngwynedd hefyd.
·
Y gobeithid y
byddai’r ymchwil diweddar gan Wynedd yn cwmpasu pob agwedd o’r broblem yma fel
y gallwn ddweud ein bod wedi gwneud ein gorau dros ein cymunedau.
·
Bod prynwyr
ail-gartrefi’n eu trosi’n fusnesau, ac felly’n cael rhyddhad o dalu Treth
Gyngor.
·
Bod pobl yn ymfudo i
gefn gwlad gan nad ydynt bellach yn teimlo’n ddiogel yn y trefi mawr.
·
Bod yna 2000 ar y
rhestr aros am dŷ cymunedol yng Ngwynedd, a bod angen symud yn sydyn ar y
mater hwn.
Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe gariodd.
Gan i’r gwelliant gael ei dderbyn,
eglurodd y Swyddog Monitro fod y cynnig
gwreiddiol wedi’i addasu a bod angen pleidlais bellach gyda geiriad y gwelliant yn hytrach
na’r geiriad gwreiddiol. Pleidleisiodd mwyafrif o blaid y cynnig.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth
Cymru i newid
y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn
orfodol cael hawl cynllunio i drosi tŷ
annedd yn dŷ haf
/uned wyliau, ac yn addasu’r fframwaith
bolisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw
ardal.