Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gareth Thomas yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y tir. Hynny yw bod pob cerbyd dŵr personol yn gorfod cael trwydded ac yswiriant cyn ei ddefnyddio ar y môr a bod pob gyrrwr yn cael prawf ar ei allu i drin y peiriant ac ei wybodaeth o reolau mordrwyo.”

 

 

 

 

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol a badau pŵer ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y tir. Hynny yw bod pob cerbyd dŵr personol a bad pŵer yn gorfod cael trwydded ac yswiriant cyn ei ddefnyddio ar y môr a bod pob gyrrwr yn cael prawf ar ei allu i drin y peiriant ac ei wybodaeth o reolau mordrwyo.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gareth Thomas o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y tir. Hynny yw bod pob cerbyd dŵr personol yn gorfod cael trwydded ac yswiriant cyn ei ddefnyddio ar y môr a bod pob gyrrwr yn cael prawf ar ei allu i drin y peiriant ac ei wybodaeth o reolau mordwyo.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y cynnig, nodwyd:-

 

·         Mai Prydain oedd yr unig wlad, ac eithrio’r Aifft, oedd heb reolaeth ar gerbydau dŵr personol.

·         Y gellid cymharu gyrru cerbyd dŵr personol i berson di-brofiad yn gyrru beic modur pwerus yng nghanol pobl.

·         Bod gwerthiant beiciau dŵr wedi cynyddu eleni yn sgil Covid, ac felly roedd y broblem yn debygol o fod hyd yn oed yn waeth flwyddyn nesaf.

·         Ei bod yn ymddangos nad oedd yr heddlu yn gallu erlid mewn achosion o yrru cerbydau dŵr personol yn anghyfrifol ac ymosodgar.

·         Bod hyn yn broblem ar hyd arfordir Gwynedd a bod gwir angen deddfwriaeth i sicrhau bod ein traethau’n ddiogel.

 

Nodwyd ymhellach nad oedd angen cofrestru na chael trwydded i yrru badau pŵer chwaith, a chynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnwys badau pŵer yn y cynnig.

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y Cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, nodwyd:-

 

·         Nad oedd yna ddull o fonitro os yw gyrrwr cerbyd dŵr personol neu fad pŵer wedi bod yn yfed alcohol.

·         Bod diffyg rheolaeth yn thema gyffredin i’r tri chynnig gerbron y cyfarfod hwn o’r Cyngor, a phwysleisiwyd pwysigrwydd datganoli pwerau dros faterion o’r fath.

·         Bod yna App ar gael i reoli symudiadau cychod.

·         Y dylai pawb gael hyfforddiant cyn gyrru cerbydau o’r fath.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod ynglŷn â’r sefyllfa ar draethau’r Cyngor, eglurodd y Swyddog Monitro fod yna hawliau cyfyngedig o ran, er enghraifft, rheoli cyflymder mewn rhannau penodol o draeth, ayb, oedd wedi’u ddynodi mewn is-ddeddfau.  Fodd bynnag, nid oedd yn ofynnol cael yswiriant na chofrestru i ddefnyddio’r cerbydau hyn, a dyna’r bwlch yn y gyfraith roedd y cynnig yn cyfeirio ato.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe gariodd.

 

Gan i’r gwelliant gael ei dderbyn, eglurodd y Swyddog Monitro fod y cynnig gwreiddiol wedi’i addasu a bod angen pleidlais bellach gyda geiriad y gwelliant yn hytrach na’r geiriad gwreiddiol.  Pleidleisiodd mwyafrif o blaid y cynnig. 

 

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifPENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol a badau pŵer ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y tir. Hynny yw bod pob cerbyd dŵr personol a bad pŵer yn gorfod cael trwydded ac yswiriant cyn ei ddefnyddio ar y môr a bod pob gyrrwr yn cael prawf ar ei allu i drin y peiriant ac ei wybodaeth o reolau mordwyo.