skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Ioan Thomas

Penderfyniad:

¾    Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2020/21, 2019/20 a blynyddoedd blaenorol.

¾     Cymeradwywyd y cynlluniau amgen a fanylir yn Rhan 6 ac Atodiad 5 i ddisodli cynlluniau hanesyddol nad ydynt yn gwireddu.

¾     Nodwyd bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.

¾     Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

·         Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2020/21, 2019/20 a blynyddoedd blaenorol.

·         Cymeradwywyd y cynlluniau amgen a fanylir yn Rhan 6 ac Atodiad 5 i ddisodli cynlluniau hanesyddol nad ydynt yn gwireddu.

·         Nodwyd bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.

·         Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a oedd yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Mynegwyd ers 2015/16 fod y Cyngor wedi cymeradwyo £36m o arbedion. Nodwyd eleni fod adrannau wedi canolbwyntio ar ymateb i’r argyfwng ac mae effaith Covid19 wedi cyfrannu ar lithriad yn y rhaglen arbedion. Yn ogystal nodwyd fod blaenoriaeth wedi bod i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd wedi golygu na fu modd parhau a threfniadau herio perfformiad nac arbedion dros y cyfnod.

 

Mynegwyd fod gwireddu arbedion yn mynd yn anodd gydag arwyddion pellach fod trafferthion cyflawni arbedion mewn rhai meysydd. Tynnwyd sylw at atodiad 1 sydd yn dangos fod 98% o arbedion 2015/16 i 2018/19 bellach wedi ei gwireddu. Amlygwyd y cynlluniau sydd a’r risg mwyaf a oedd yn cynnwys cynllun Dechrau i’r Diwedd gan yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd.

 

Nodwyd fod 76% o arbedion 2019/20 bellach wedi ei gwireddu a nodwyd y prif risgiau cyflawni ar gynlluniau yn yr Adran Oedolion, Amgylchedd ynghyd a’r Adran Blant. Wrth edrych ar eleni, mynegwyd fod 16% wedi ei gwireddu ar 34% ar drac i gyflawni’n amserol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd fod rhai cynlluniau gan yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Tai ac Eiddo yn cydnabod nad oes modd i rai cynlluniau gael ei gwireddu a bod cynlluniau amgen yn cael ei cynnig.

 

Mynegwyd fod gwireddu dros £30m o arbedion ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol. Ychwanegwyd fod yr adran eisoes wedi rhagweld problem gyda gwireddu arbedion fod darpariaeth gorfforaethol i’r pwrpas yng nghyllid 2020/21 i leddfu’r sefyllfa. Mynegwyd fod angen bellach ail afael yn y drefn o gyflawni arbedion er gwaethaf yr argyfwng.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Mynegwyd nad oedd yn sioc i neb fod yr adran oedolion ddim am gyflawni arbedion eleni. Mynegwyd fod arwyddion toriadau dros ddeg mlynedd bellach yn cael ei gweld yn glir.

¾  Nodwyd fod cynlluniau amgen i’w gweld i arbediad yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ond fod yr adran yn asesu’r ffordd ymlaen. Mynegwyd fod yr arbediad yr un peth ond fod y swm am fod yn wahanol.

¾  Mynegwyd ei bod yn anodd coelio fod toriadau yn cael ei gwneud yng nghanol pandemig. Mynegwyd pwysigrwydd amddiffyn y gwasanaethau a’r cyhoedd. Pwysleisiwyd gydag ail don covid ar y ffordd mynegwyd nid hyn fydd diwedd yr arbedion a holwyd pryd fydd hyn yn dod i stop.

¾  Amlygwyd fod y chwe mis diwethaf wedi amlygu pwysigrwydd staff y Cyngor i gamu i mewn i fylchau a bod angen sefydlogi'r sefyllfa bellach nid i wneud mwy o arbedion.

 

Awdur:Ffion Madog Evans

Dogfennau ategol: