I ystyried cais Mr A
(copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor
ganiatáu y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir
y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod y digwyddiadau a gofnodwyd
ar y DBS yn rhai hanesyddol a’i fod erbyn hyn wedi aeddfedu, wedi newid ei
ymddygiad ac yn rhiant. Ategodd ei fod wedi cael cynnig gwaith fel gyrrwr tacsi
petai ei gais yn cael ei ganiatáu.
b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
·
adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd
ch) Rhoddwyd
ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Yn Hydref 2010
cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gwynedd ar gyhuddiad o ddefnyddio
ymddygiad afreolus neu eiriau bygythiol / ymosodol / sarhaus sydd yn debygol o
achosi aflonyddwch, ofn neu ofid yn
groes i a5 (1) (A) Deddf Trefn Gyhoeddus
1986. Derbyniodd ryddhad amodol am 12 mis a gorchymyn i dalu £85.00 o gostau.
Ym mis Mawrth 2011 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gwynedd ar
gyhuddiad o ymosodiad cyffredin yn groes i a39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988.
Derbyniodd orchymyn cymunedol o 6 mis, 2 fis o hwyrgloch (curfew?) gyda thag
electronig i aros mewn cyfeiriad yn ardal Abermaw bob dydd rhwng 19:00 - 07:00
a gorchymyn i dalu costau o £85.00.
Yn Medi 2019
derbyniodd 3 pwynt cosb am ddigwyddiad o oryrru. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ar
lafar bod y manylion ar y drwydded (a ddarparwyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau) yn gywir a’i fod wedi derbyn rhybudd cosb sefydlog gan yr
Heddlu am y digwyddiad hwn. Cadarnhaodd hefyd ei fod wedi goryrru mewn
digwyddiad pellach ar ddyddiad amhenodol, ond ei fod wedi dilyn cwrs
ymwybyddiaeth cyflymder mewn perthynas â'r digwyddiad hwnnw.
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes
rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag
cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am
gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei
fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.3 o’r Polisi yn cadarnhau bod
“materion eraill i’w hystyried” yn cynnwys rhybuddion. Mae paragraff 2.4 o’r
Polisi yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au)
neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni
chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5
sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt
wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.0 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr
trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn
rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny
sydd â throseddau yn ymwneud a thrais. Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y
bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater
i’w ystyried am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na 3
blynedd cyn dyddiad y cais ynghyd a throsedd o dan Adran 5 Deddf Trefn
Cyhoeddus 1986. Mae paragraff 6.6 o’r Polisi yn nodi y bydd cais, fel arfer yn
cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o
natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd a hynny o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf.
Mae rhan 13 yn ymwneud
a mân droseddau traffig ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu
rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi. Ystyriwyd paragraff 13.2 sydd yn amlygu
gall un gollfarn am fan drosedd gyrru arwain at wrthod
y cais. Nodir ym mharagraff 13.3 y gallai mwy nag un
gollfarn am fân drosedd traffig neu fater arall i'w ystyried arwain at wrthod
cais, yn enwedig os oes sawl collfarn neu faterion eraill i’w hystyried ar
gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru
d)
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad fod y
digwyddiadau goryrru yn gyfystyr â mân droseddau traffig. Er bod y Polisi yn
caniatáu gwrthod y cais o dan yr amgylchiadau hyn, roedd yr Is-bwyllgor o'r
farn gan nad oedd yr ymgeisydd wedi ei gollfarnu a'i fod wedi dilyn cwrs
ymwybyddiaeth cyflymder ar gyfer un digwyddiad, na ddylai’r digwyddiadau
goryrru fod yn sail ar gyfer gwrthod y cais.
Daeth
yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarnau Hydref 2010 a Mawrth 2011 yn ymwneud â
throseddau o drais. Er i’r ymgeisydd dderbyn collfarnau, roedd y ddau achos
wedi digwydd dros 3 blynedd yn ôl, ac felly nid oeddynt yn sail i wrthod y cais
o dan baragraff 6.5. Fodd bynnag, gyda dwy euogfarn am droseddau trais yn
digwydd o fewn 10 mlynedd i'r cais, roedd rhaid i’r Is-bwyllgor ystyried
gwrthod y cais o dan baragraff 6.6.
Amlygodd y
Cyfreithiwr nad yw darpariaethau'r
Polisi yn orfodol a bod modd gwyro oddi ar yr argymhellion os yw ffeithiau'r
achos yn cyfiawnhau hynny. Rhoddwyd sylw arbennig i baragraff 5.1 o’r
adroddiad, sydd yn cynnwys difrifoldeb y troseddau, perthnasedd, dyddiad y
cafodd y drosedd ei chyflawni, dyddiad y gollfarn ac oedran yr ymgeisydd ar
adeg y gollfarn, y ddedfryd a roddwyd gan y Llys ac os yw’r troseddau yn
perthyn i batrwm o droseddu, yn ogystal ag unrhyw ffactorau perthnasol eraill.
Rhoddodd yr
Is-bwyllgor sylw arbennig i’r ffaith, ar ddyddiad y gwrandawiad, bod collfarn
Hydref 2010, 3 wythnos yn brin o’r cyfnod 10 mlynedd. Roedd collfarn Mawrth
2011 hefyd wedi digwydd dros
9 mlynedd yn ôl. Pe byddai'r gwrandawiad ar gyfer y cais hwn yn
cael ei gynnal 3 wythnos i’r dyfodol, ni fyddai unrhyw
ystyriaethau yn cael ei rhoi i baragraff 6.6. Ategwyd, yn ogystal, er bod yr
ymgeisydd wedi camymddwyn yn y gorffennol, ei fod bellach wedi aeddfedu a bod
tystiolaeth o hyn i’w weld yn y cofnod DBS gyda llechen lan
wedi ei chadw ers bron i ddegawd.
Wedi pwyso a mesur
y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon gwyro oddi
wrth y dybiaeth o blaid gwrthod y cais yn yr achos yma a phenderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded
gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat. Anogwyd yr ymgeisydd i dderbyn y
cyfle ac i yrru yn arafach a chyfrifol.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.