Ystyried adroddiad
y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Penderfyniad:
Bod y pwyllgor
craffu yn parhau i bryderu am y sefyllfa, ac felly’n cyfeirio’r mater yn ôl i’r
Cabinet i’w ail-ystyried am y rhesymau canlynol:
·
Oherwydd
sefyllfa COVID a chanllawiau cyfreithiol a pholisïau’r Adran Addysg, nid yw’n bosib’
cynnal cyfarfodydd yn y ffordd arferol, ac mae’n amhosib’ cael cyfarfodydd o
gwbl gyda rhai unigolion sydd â diddordeb cryf yn y mater. Mae hefyd yn
amhosib’ cael cyfarfodydd arferol cyhoeddus yn y gymuned i drafod ac ymateb i’r
ymgynghoriad.
·
Roedd
y Pennaeth i ffwrdd o’i gwaith yn ystod y cyfnod, ac mae’n parhau i fod i
ffwrdd. Gan mai’r pennaeth parhaol sy’n
gwybod orau am sefyllfa’r ysgol, byddai parhau gyda’r broses tra mae hi’n
parhau i fod i ffwrdd yn annheg i’r ysgol a’r gymuned.
·
Cred
rhai na ddylid cau ysgolion bach heb graffu ar y penderfyniad.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth
Democrataidd yn nodi bod y penderfyniad a ganlyn wedi ei alw i mewn i’w graffu
yn unol ag Adran 7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor:-
Eitem 5: Ysgol Abersoch, cyfarfod Cabinet
15.9.20
“Rhoddwyd
caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau
Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o
1 Medi 2021 ymlaen.”
Eglurodd y Cadeirydd y gwnaethpwyd y cais i
alw’r penderfyniad i mewn i’w graffu gan y Cynghorwyr Dewi Roberts, Elwyn Jones
ac yntau o fewn y gofynion a’r amserlen angenrheidiol.
Nodwyd bod y rhesymau dros alw i mewn, sef
yr agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu, wedi eu nodi fel a
ganlyn:
“Oherwydd sefyllfa COVID a chanllawiau
cyfreithiol a pholisïau’r Adran Addysg, nid yw’n bosib’ cynnal cyfarfodydd yn y
ffordd arferol, ac mae’n amhosib’ cael cyfarfodydd o gwbl gyda rhai sydd â
diddordeb cryf yn y mater. Mae hefyd yn
amhosib’ cael cyfarfodydd arferol cyhoeddus.
Roedd y Pennaeth i ffwrdd o’i gwaith yn ystod y cyfnod. Felly, roedd parhau gyda’r broses yn yr
amgylchiadau hyn yn annheg i’r ysgol a’r gymuned. Yn ôl cynrychiolwyr yr ysgol, nid yw hi wedi
ei chofrestru fel Ysgol Wledig, a chodwyd cwestiwn pam. Cred rhai na ddylid cau ysgolion bach heb
graffu ar y penderfyniad.”
Pwysleisiodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig
bod y pwyllgor yn ystyried yr agweddau hyn yn unig. Nid oedd y pwyllgor yn ystyried y mater o
symud ymlaen i gau’r ysgol, a mater i’r Cabinet fyddai hynny.
Er mwyn cynorthwyo’r pwyllgor i graffu ar y
mater yn unol â’r agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu,
cyflwynwyd y dogfennau isod i’r pwyllgor craffu hefyd:-
·
Atodiad 1 – ymateb yr Adran Addysg
i’r agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu
·
Atodiad 2 – Taflen benderfyniad y
Cabinet (Eitem 5, 15.9.20)
·
Atodiad 3 – adroddiad y Cabinet
(Eitem 5, 15.9.20)
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, gan
dynnu sylw’n benodol at baragraff 3.3 o ymateb yr Adran Addysg oedd yn nodi, er
nad oedd Ysgol Abersoch wedi ei dynodi yn Ysgol Wledig at ddibenion y Cod
Trefniadaeth Ysgolion 011/2018, bod yr Adran, fel ymarfer da, wedi dilyn proses
gyffelyb i’r broses a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol mewn perthynas ag Ysgol
Wledig wrth ddatblygu’r cynnig arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad pellach.
Cyflwynodd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor /
Meirion ymateb yr Adran Addysg, gan ategu rhai o’r manylion a gynhwyswyd yn yr
adroddiad. Nododd:-
·
Ei bod yn bwysig nodi y byddai’r
broses ymgynghori yn cyfarch gofynion y cod yn llawn, ond dilynwyd trefn
ychydig yn wahanol i’r hyn oedd yn ofynnol yn ôl y Cod, drwy gynnal 3 cyfarfod
ymgysylltu anffurfiol gyda rhanddeiliaid.
·
Pe byddai gan ysgol lai na 10
disgybl ym mis Ionawr, byddai modd hepgor y broses ymgynghori yn gyfan gwbl a
mynd yn syth i rybudd statudol i gau ysgol, ond dymuniad yr Adran yn yr achos
hwn oedd ymgynghori’n llawn a gweithredu drwy broses o ymgynghori yn anstatudol
yn y lle cyntaf a symud i’r Cabinet wedyn i gael penderfyniad i ymgynghori’n
ffurfiol.
·
O ran
cyfarfodydd cyhoeddus, roedd y Cod yn glir nad oedd rhaid cynnal cyfarfodydd
cyhoeddus, ac y gellid ymgynghori mewn ffyrdd eraill. Y broses ymgynghori yn syml oedd bod yr Adran
yn rhoi cyfle i bobl leol gyflwyno cwestiynau.
Roedd yn rhaid i’r sawl oedd yn ymgynghori gyflwyno yn ysgrifenedig, ac
roedd gofyn i bobl oedd yn ymateb i ymgynghoriad wneud hynny yn ysgrifenedig.
·
O ran prosesau awdurdodau eraill
yn ystod y pandemig, roedd nifer wedi ymgynghori ac wedi symud ymlaen gan
ddefnyddio’r un cod â Gwynedd, a rhai ohonynt wedi gweithredu yng nghanol y
cyfnod clo yn y Gwanwyn, a olygai na fu modd iddynt gynnal unrhyw gyfarfodydd
wyneb yn wyneb.
·
Ei bod yn bwysig nodi hefyd y
gallai trafodaethau’r pwyllgor ynghylch cynnal neu fethu cynnal cyfarfodydd yn
ystod cyfnod clo fel rhan o’r broses ymgynghori gael effaith ar brosiectau
eraill, e.e. ysgol newydd Cricieth. Byddai’r
Adran yn dilyn yr un broses o ran yr ysgol honno, a gallai penderfyniad y
cyfarfod hwn effeithio ar amserlen y broses o adeiladu’r ysgol newydd honno, a
sawl prosiect arall.
·
Bod Llywodraeth Cymru wedi
cadarnhau na fwriedid newid y Cod Trefniadaeth yn sgil COVID, nad oedd angen
cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, ac mai mater i’r Awdurdod oedd penderfynu beth
fyddai’r broses.
·
Bod y trefniadau lleol wedi
cynnwys 3 cyfarfod, a chafwyd barn llawer o randdeiliaid ar wahanol gynigion
eisoes.
·
Bod dulliau’r Awdurdod wedi’u
canmol gan Lywodraeth Cymru ac wedi amlygu bod y Cyngor yn ymgynghori mewn
ffordd sy’n cael ei adnabod fel ymarfer da yn genedlaethol.
·
Pe caniateid i’r Adran gynnal
ymgynghoriad statudol, byddai cyfle i’r holl randdeiliaid gynnig sylwadau. Cynigiwyd trefn ychydig yn wahanol y tro hwn,
drwy gyfrwng Zoom neu Teams, neu dderbyn sylwadau ysgrifenedig neu ateb
cwestiynau dros y ffôn petai raid.
·
Nad penderfyniad yr Awdurdod oedd
dynodiad ysgolion gwledig, eithr penderfyniad Llywodraeth Cymru. Roedd ysgol yn cael ei nodi’n ysgol wledig at
ddibenion y rhagdybiaeth yn erbyn ei chau, gan ddefnyddio categorïau gwledig a
threfol y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Roedd y Llywodraeth wedi dynodi ysgol oedd wedi’i lleoli mewn pentref
gwledig prin ei phoblogaeth, pentref bach iawn neu ardal ynysig arall oedd yn
brin ei phoblogaeth, neu mewn pentref bach iawn neu ardal ynysig arall, oedd yn
llai prin ei phoblogaeth, fel ysgol wledig.
Roedd hyn yn 17.5% o ysgolion Cymru a tua 40% o ysgolion Gwynedd.
·
Nid oedd hyn yn golygu na fyddai
ysgol wledig byth yn cau, ond bod rhaid i’r achos dros ei chau fod yn gryf, a
bod pob opsiwn ymarferol arall wedi’u hystyried yn gydwybodol.
·
Bod canlyniad y diffiniadau’n
anodd i’w deall ar adegau, ac roedd Ysgolion Sarn Bach, Llanbedrog a Foel Gron,
oedd yn amgylchynu Ysgol Abersoch, wedi’u dynodi’n ysgolion gwledig.
·
Bod yr Adran Addysg wedi dewis
trin Ysgol Abersoch fel pe byddai’n ysgol wledig, a thrwy hyn, credid nad oedd
y statws yn gwneud gwahaniaeth yn y cyd-destun hwn. Roedd yr Adran wedi dilyn y broses ac wedi
rhagdybio yn erbyn cau, gan roi gwrandawiad teg i’r ysgol a’r gymuned.
Nododd yr Aelod Lleol ei fod yn awyddus i
alw tystion gerbron y pwyllgor, sef Cadeirydd ac Is-gadeirydd Llywodraethwyr
Ysgol Abersoch, gan eu bod mewn gwell sefyllfa nag ef i ymateb i gwestiynau,
a’u bod hefyd yn gwirfoddoli ac yn gweithio’n hynod o galed o ran codi safonau
yn yr ysgol.
Eglurwyd bod gan y pwyllgor craffu'r hawl i
alw tystion i gyflwyno tystiolaeth neu ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor,
ond bod rhaid i hynny fod yn benderfyniad y pwyllgor cyfan.
Cynigiwyd y dylid galw ar Gadeirydd ac
Is-gadeirydd y Llywodraethwyr i gyflwyno tystiolaeth ac ateb cwestiynau. Eiliwyd y cynnig gydag ychwanegiad bod hawl
i’r tystion holi’r Adran Addysg hefyd, ond eglurwyd nad oedd y rheolau sefydlog
a chylch gorchwyl y pwyllgor yn caniatáu i’r tystion holi’r Adran Addysg.
PENDERFYNWYD
galw ar Gadeirydd ac Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Abersoch i gyflwyno
tystiolaeth ac ateb cwestiynau, ond nid i holi’r Adran Addysg.
Croesawyd Margot Jones (Cadeirydd) ac
Eifiona Wood (Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Abersoch) i’r cyfarfod.
Mynegodd yr aelod lleol ei dristwch bod y
pwyllgor hwn yn trafod cau ysgol, a bod y mater wedi mynd ymlaen i’r
Cabinet. Nododd:-
·
Bod Ysgol Abersoch yn hoelen wyth
o ran y diwylliant a’r iaith Gymraeg o fewn y pentref. Roedd yn ysgol lwyddiannus iawn, oedd wedi
cael arolwg da gan Estyn, ac roedd yn falch bod y swyddogion yn adnabod
llwyddiant yr ysgol.
·
Os oedd y
penderfyniad yn mynd i gael effaith ar ysgolion eraill, roedd angen egluro pam
yn union fod hynny’n digwydd.
·
Bod canfyddiad ynglŷn â’r
niferoedd plant, a’i bod yn amlwg bod y gymuned a’r rhieni a’r llywodraethwyr
a’r athrawon i gyd yn dymuno cadw’r ysgol yn agored.
·
Bod ganddo bryder ynglŷn â
chywirdeb yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet, a bod y Llywodraethwyr wedi
tynnu sylw at 25 camgymeriad yn yr adroddiad.
Er enghraifft, er bod y ‘Crynodeb o Brif Heriau Ysgol Abersoch’ ar
dudalen 105 o’r rhaglen yn nodi bod nifer y disgyblion ymysg yr isaf yn y sir a
bod y rhagamcanion yn dangos lleihad pellach yn y niferoedd, roedd y tablau ar
dudalennau 22 a 38 o’r adroddiad yn awgrymu i’r gwrthwyneb.
·
Ei bod yn
syndod nad oedd diffyg statws gwledig yr ysgol wedi’i herio ar adeg yr
ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru.
·
Bod yr
Adran yn honni nad oedd rhaid cynnal ymgynghoriad, ond bod y Cod yn datgan i’r
gwrthwyneb, boed y niferoedd disgyblion islaw 10 neu beidio.
·
Bod rhieni yn gyrru eu plant i
dderbyn eu haddysg mewn cymunedau eraill oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn â
dyfodol yr ysgol.
·
Bod sôn
nad oedd rhaid i’r Adran Addysg gynnal cyfarfodydd cyhoeddus, ond nid yr Adran oedd
eisiau gwneud hynny, eithr y gymuned, er mwyn derbyn sylwadau gan bawb.
·
Nad oedd gan lawer o bobl
gyfrifiadur i fedru ymuno â chyfarfodydd rhithiol, ac o bosib’ y gellid cynnal
cyfarfodydd cyhoeddus yn y ffordd arferol ymhen blwyddyn neu ddwy. Gan hynny, gofynnwyd i’r Cabinet ddal ar y
mater am y tro er mwyn gweld sut fyddai’r sefyllfa’n datblygu.
·
Bod y ffaith bod y niferoedd
disgyblion wedi cynyddu yn ystod y pandemig yn dangos yr hyder sydd yn yr ysgol
hon.
Gwahoddwyd y tystion i gyflwyno eu
sylwadau. Nodwyd:-
·
Ei bod yn
amhosib’ i bawb gael cyfle iawn i drafod gyda’i gilydd. Ceisiwyd cynnal cyfarfodydd eisoes rhwng
llywodraethwyr, staff a’r rhieni, ond, oherwydd rheolau diogelu data, ni fu’n
bosib’ cael cyfeiriadau e-bost y rhieni i fedru anfon e-byst atynt.
·
Er y gwerthfawrogid yr holl waith
roedd yr Adran wedi’i wneud, nid dyma’r amser gorau i fwrw ymlaen gyda’r
ymgynghoriad. Ni fyddai’r drefn yn
gweithio yn yr un ffordd â chyn COVID, ac roedd yn amhosib’ gweld sut fyddai
modd rhoi chwarae teg i bawb.
·
Bod yr ysgol wedi colli ei
phennaeth, a’i bod bron yn amhosib’ ateb cwestiynau hebddi.
·
O ran sefyllfa ysgolion gwledig,
na ddeellid pam bod Abersoch yn wahanol i Lanbedrog.
·
Mai ond ar y munud diwethaf y
cawsant glywed yn ffurfiol eu bod yn cael dod i’r pwyllgor hwn, a bod hyn eto’n
enghraifft o’r ffordd roedd yr ysgol a’r llywodraethwyr yn teimlo eu bod yn
cael eu trin drwy’r holl broses, gydag ymdeimlad mai ychydig iawn o barch yn
cael ei ddangos tuag atynt.
·
Y bu’r misoedd diwethaf yn gyfnod
anodd iawn i’r ysgol. Collwyd y pennaeth
am gyfnod, ond er hynny, derbyniwyd 5 disgybl newydd i’r ysgol ym Medi.
·
Ers i’r
broses gychwyn ym Medi'r llynedd, sefydlwyd Cylch Meithrin ar safle’r
ysgol. Byddai hynny’n arwain, maes o
law, at gynnydd yn nifer y plant fyddai’n dod i’r ysgol, ond nid oedd
rhagamcanion yr Adran Addysg yn cymryd hyn i ystyriaeth.
·
Bod yna nifer o ddatganiadau
camarweiniol yn adroddiad yr Adran Addysg i’r Cabinet.
·
Y bu’r broses yn broblemus cyn
COVID hyd yn oed. Ni dderbyniwyd y dogfennau
ar gyfer y 3 cyfarfod anffurfiol tan ar ôl y cyfarfodydd hynny, gyda chais am
ymateb o fewn amserlen dynn iawn. Nodwyd
hefyd nad oedd llythyr a anfonwyd at yr Adran Addysg ar 24 Ionawr wedi’i ateb
tan 8 Medi.
·
Nad oedd
cynnal cyfarfodydd rhithiol yn gweithio yn eu profiad hwy a chyfeiriwyd at
gyfarfod diwethaf y llywodraethwyr lle'r oedd 60% wedi methu ymuno oherwydd
anawsterau gyda’r dechnoleg.
·
Nad oedd y llywodraethwyr yn cael
mynd i mewn i’r ysgol i gyfarfod y staff wyneb yn wyneb.
·
Bod yna ymdeimlad bod yr holl
broses yn gamarweiniol, yn annheg ac yn annemocrataidd.
Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol a’r
tystion, nododd yr Aelod Cabinet:-
·
Y soniwyd am ysgolion eraill oedd
ar radar yr Awdurdod, ond bod y Cyngor wedi mabwysiadu egwyddorion cyn belled
ag roedd ysgolion yn y cwestiwn, sef dim mwy na 2 ddosbarth 2 oedran mewn un
dosbarth a bod 80% o amser y pennaeth yn cael ei ddefnyddio i arwain yr ysgol.
·
Ei fod yn siomedig bod y siaradwyr
yn sôn am ddiffyg parch. Roedd wedi
mynychu’r cyfarfodydd anffurfiol, ac roedd yn siŵr bod yr Awdurdod yn
barchus o bawb oedd yn ymwneud â’r broses, ac yn gwerthfawrogi eu sefyllfa.
·
Y cytunai efallai bod angen gwneud
mwy o waith herio’r Llywodraeth o ran eu dynodiadau o ysgolion gwledig.
·
Y cydnabyddid bod y broses o
ymgynghori yn rhwystredig yng nghanol pandemig.
Esboniodd fod y Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion, wrth gyfeirio at
gynlluniau eraill allai gael eu heffeithio, yn sôn am gynlluniau ôl-16, ayb,
fwy nag ysgolion oedd yn cau.
Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol a’r
tystion, nododd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion:-
·
Os oedd yna gwestiynau ynglŷn
â chywirdeb yr adroddiad, mai pwrpas yr ymgynghoriad oedd rhoi cyfle i gyflwyno
sylwadau ynglŷn â hynny.
·
Bod y Tîm
Prosiect, drwy gydol y cyfarfodydd, wedi bod yn barchus o bawb a’r amserlen, a
bod digonedd o amser wedi’i roi i’r rhanddeiliaid ymateb.
·
Gan fod pennaeth yr ysgol i
ffwrdd, bu oedi cyn mynd â’r mater gerbron y Cabinet, ac roedd hynny hefyd yn
arwydd o barch.
·
Bod yr ysgol wedi derbyn pob
cefnogaeth gan yr Adran, fel unrhyw ysgol arall.
Mewn ymateb i gais am eglurhad o natur a
threfn y cyfarfodydd, nododd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion:-
·
Fod y broses yn broses y bu i’r
Adran ddewis ei dilyn, nid oedd rheidrwydd ar yr Adran i’w dilyn.
·
Y cynhaliwyd tri chyfarfod, gyda’r
cyntaf yn egluro’r her, yr ail i gasglu syniadau ac awgrymiadau ar sut i
wella’r sefyllfa a’r trydydd i egluro beth oedd yr opsiynau roedd yr Adran yn
eu ffafrio.
Mewn ymateb i eglurhad y Swyddog Addysg
Ardal Dwyfor / Meirion, nododd Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Abersoch mai
ond tri chwarter awr a amserlenwyd ar gyfer y trydydd cyfarfod, ac nad oedd
hynny’n ddigon da. Mewn ymateb i’r sylw
hwn, eglurodd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion:-
·
Nad oedd hynny’n gywir, ac y bu
i’r cyfarfod fynd ymlaen am dros ddwy awr, er mai ond tri chwarter awr oedd
wedi ei amserlennu.
·
Mai pwrpas y cyfarfod i fod oedd
adrodd yn ôl ar opsiynau ffafredig, ond fe fu i’r cyfarfod esblygu i
drafodaeth.
Nododd aelod:-
·
Bod cod y
Gweinidog Addysg ynglŷn â chau ysgolion bach a gwledig yn datgan y dylid
rhagdybio yn erbyn cau, ac y dylai ysgolion gael gwrandawiad teg.
·
Na ddylai’r Llywodraeth na’r
Cyngor amddifadu cymunedau o’u hysgolion.
Dylai’r penderfyniad ddod gan y gymuned eu hunain, ac roedd cymuned
Abersoch yn dymuno cadw eu hysgol.
·
Bod dechrau ymgynghoriad sy’n
ffafrio opsiwn o gau yn groes i’r cod.
·
Bod y
ffaith nad ydi’r ysgol wedi ei dynodi’n Ysgol Wledig yn codi cwestiynau dyrys a
pherthnasol, o gofio bod ysgolion mewn nifer o gymunedau sydd â phoblogaeth
uwch nag Abersoch yn y categori Ysgolion Gwledig.
·
Gan fod Ysgol Abersoch yn darparu
ar gyfer yr oedran hyd at 8 oed yn unig, ac felly’n hanner ysgol i bob pwrpas,
mai’r ffigur 21, yn hytrach na 42, ddylai fod yn berthnasol wrth gyfeirio at
gapasiti’r ysgol.
·
Bod pob ysgol Gymraeg wledig yn
cael cyfnodau o lanw a thrai.
·
Bod ganddo bryder ynglŷn â’r
bwriad i ofyn am farn disgyblion Ysgol Abersoch ac Ysgol Sarn Bach oherwydd y
gallai hynny greu drwgdeimlad rhwng pentrefi, ysgolion, rhieni a phlant.
Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol a’r
tystion, nododd y Pennaeth Addysg:-
·
Ei fod yntau’n siomedig o fod wedi
derbyn barn bod y broses anffurfiol wedi bod yn amharchus o’r gymuned leol, ac
mai’r gwrthwyneb oedd yn wir.
·
O ran statws Ysgol Wledig, bod
rhai o’r dadleuon yn amherthnasol gan fod yr Adran yn defnyddio prosesau tebyg
i’r rhai fyddai’n cael eu defnyddio ar gyfer Ysgol Wledig yn yr achos hwn, a
hynny’n fwriadol, er mwyn bod yn dryloyw.
·
Mai Pwyllgor Ystadegol Llywodraeth
Cymru oedd yn dynodi ysgolion gwledig, ac nad oedd gan y Cyngor ddylanwad o
gwbl yn hyn o beth.
Nododd yr aelod lleol ymhellach:-
·
Ers colli’r pennaeth, bod y staff
dros dro wedi bod yn gefnogol iawn i’r ysgol, a diolchwyd i Swyddog Addysg
Ardal Dwyfor / Meirion a’r Adran am eu gwaith.
·
Ei fod yn
destun pryder iddo fod modd cau ysgol fach wledig heb graffu ar y penderfyniad,
ac efallai bod lle i edrych ar hyn ar wahân.
·
Na chytunai mai mater i’r
Llywodraeth oedd dynodi ysgolion gwledig a bod ganddo dystiolaeth bod y
Llywodraeth wedi ymgynghori deirgwaith â’r Cyngor ar hyn, ac wedi derbyn
mewnbwn i’r broses gan y Cyngor.
·
Nad oedd, fel aelod lleol, yn
hyderus bod yr ymgynghoriad yn mynd i fod yn un teg a chyflawn, fyddai’n
cynnwys pawb yn y gymuned.
·
Y credai ei bod yn wirioneddol
bwysig bod y mater hwn yn mynd yn ôl i’r Cabinet, neu, gan fod y drafodaeth yn
cynnwys ysgolion eraill, i’r Cyngor llawn, a bod y Cyngor yn gyrru’r mater yn
ôl i’r Cabinet ail-edrych arno.
Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd
y Pennaeth Addysg:-
·
Bod y
sefyllfa o ran ysgolion gwledig wedi’i egluro, ond bod hynny’n amherthnasol
beth bynnag, gan fod y Cyngor yn dilyn prosesau cyffelyb er mwyn bod yn deg a
thryloyw gyda’r gymuned leol.
·
O ran craffu ar benderfyniadau i
gau ysgolion bach, bod yr Adran yn dilyn yr egwyddorion a fabwysiadwyd gan y
Cyngor llawn, a’i bod yn gamarweiniol awgrymu bod gan yr Adran restr o ysgolion
ar eu radar.
Nododd aelodau:-
·
Ei bod yn sefyllfa anodd, ond na
theimlid bod yna wir gydnabyddiaeth o waith pawb i gadw pethau i fynd drwy
gyfnod mor anodd.
·
Bod yr awgrym y gallai oedi’r
broses hon effeithio ar ysgol newydd Cricieth yn amherthnasol, gan fod hynny’n
fater cwbl wahanol.
·
Bod ymgyrch y rhieni, y
llywodraethwyr, yr aelod lleol, ac eraill yn y gymuned yn arwrol, a bod
cyflwyniad Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Llywodraethwyr i’r pwyllgor hwn wedi bod
yn gwbl ddiffuant.
·
Gan y deellid y byddai’n rhaid i
unrhyw gyfeirio’n ôl i’r Cabinet ddigwydd o fewn 15 diwrnod i ddyddiad y
pwyllgor hwn, opsiwn arall fyddai ei gyfeirio i’r Cyngor llawn ym mis Rhagfyr,
fyddai’n caniatáu mwy o amser i gasglu rhagor o dystiolaeth.
Ar bwynt o eglurhad ynglŷn â’r sefyllfa
mewn perthynas ag ysgolion eraill, nododd yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol)
fod rhaid dilyn trefn statudol ar gyfer mathau penodol o gynigion yn ymwneud ag
ysgolion. Yr un oedd y broses yn
gyffredinol ar gyfer cau, ymestyn neu agor ysgol, er enghraifft. Fel canlyniad, roedd unrhyw bryderon
ynglŷn â chynnal y broses yn yr achos hwn yn berthnasol i gynigion
statudol arfaethedig eraill gan y byddai’n rhaid cynnal ymgynghoriadau mewn
perthynas â’r rhai hynny hefyd.
Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid gohirio’r
ymgynghoriad nes bod yr argyfwng COVID wedi’i leddfu, statws gwledig yr ysgol
wedi’i gadarnhau a sefyllfa’r pennaeth wedi’i ddatrys.
Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol)
fod cynnig o’r fath yn rhy benagored o safbwynt amseriad ac amodau.
Yn wyneb hynny, ail-eiriodd y cynigydd ei
gynnig i gyfeirio’r mater i’r Cyngor llawn gydag argymhelliad y dylid gohirio’r
ymgynghoriad nes bod yr argyfwng COVID wedi’i leddfu, statws gwledig yr ysgol
wedi’i gadarnhau a sefyllfa’r pennaeth wedi’i ddatrys.
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Addysg:-
·
Nad oedd yn glir beth oedd
dymuniad y cynigydd o ran sefyllfa’r pennaeth, gan fod y Corff Llywodraethol
wedi penodi pennaeth gweithredol gyda chymorth yr Adran Addysg.
·
O ran cadarnhau statws gwledig yr
ysgol, bod yr esboniad wedi’i roi, ac nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dynodi’r
ysgol yn Ysgol Wledig.
Nododd aelod y dylai’r mater fynd yn ôl i’r
Cabinet, am y rhesymau a gyflwynwyd dros alw’r mater i’w mewn i’r pwyllgor craffu,
ac eithrio’r rheswm ynglŷn â chofrestru fel Ysgol Wledig, gan fod hynny
wedi’i esbonio’n llawn. Roedd barn y
pwyllgor wedi’i fynegi’n glir, ac ni chredai fod diben aros tan fis Rhagfyr pan
fydd y Cyngor llawn yn cyfarfod nesaf.
Mynegodd yr aelod lleol ei gefnogaeth i’r
cynnig i gyfeirio’r mater i’r Cyngor llawn ar y sail bod hwn yn fater
perthnasol i bob aelod o’r Cyngor ac y byddai’n dda o beth i’r Cabinet gael
gweld beth yw barn bob cynghorydd yn y sir ar y mater.
Mewn ymateb i sylwadau’r Pennaeth Addysg,
nododd y cynigydd:-
·
O ran statws gwledig, ei bod yn
amlwg bod yna wahaniaeth barn ar y mater, gan fod Llywodraeth Cymru’n a Chyngor
Gwynedd yn beio’r naill a’r llall.
·
Nad oedd
yn dadlau cymhwysedd y pennaeth gweithredol.
Ar bwynt o eglurhad pellach ynglŷn â
statws Ysgol Wledig, nododd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion fod
ymgynghoriad y Llywodraeth, yn un cenedlaethol ar statws ysgolion bach a
gwledig, oedd yn gofyn barn yr Awdurdod ar 8 categori o ysgol. Ymatebwyd ar y pryd ar ran yr Awdurdod, ond
nid oedd yn wybyddus i’r Awdurdod pa ysgolion y cyfeirid atynt. Nid oedd yna unrhyw amryfusedd o gwmpas y
statws. Nid oedd Ysgol Abersoch yn
ffitio i mewn i’r categori, ac roedd y broses ymgynghori wedi digwydd 4 blynedd
yn ôl.
Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant bod y pwyllgor
craffu yn parhau i bryderu am y sefyllfa, ac felly’n cyfeirio’r mater yn ôl i’r
Cabinet i’w ail-ystyried am y rhesymau canlynol:-
·
Oherwydd sefyllfa
COVID a chanllawiau cyfreithiol a pholisïau’r Adran Addysg, nid yw’n bosib’ cynnal
cyfarfodydd yn y ffordd arferol, ac mae’n amhosib’ cael cyfarfodydd o gwbl gyda
rhai unigolion sydd â diddordeb cryf yn y mater. Mae hefyd yn amhosib’
cael cyfarfodydd arferol cyhoeddus yn y gymuned i drafod ac ymateb i’r
ymgynghoriad.
·
Roedd
y Pennaeth i ffwrdd o’i gwaith yn ystod y cyfnod, ac mae’n parhau i fod i
ffwrdd. Gan mai’r pennaeth parhaol sy’n
gwybod orau am sefyllfa’r ysgol, byddai parhau gyda’r broses tra mae hi’n
parhau i fod i ffwrdd yn annheg i’r ysgol a’r gymuned.
·
Cred
rhai na ddylid cau ysgolion bach heb graffu ar y penderfyniad.
Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe gariodd. Gan i’r gwelliant gario, cymerodd le’r cynnig
gwreiddiol. Pleidleisiwyd ar y cynnig
wedi’i wella ac fe gariodd.
PENDERFYNWYD
bod y pwyllgor craffu yn parhau i bryderu am y sefyllfa, ac felly’n cyfeirio’r
mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried am y rhesymau canlynol:
·
Oherwydd
sefyllfa COVID a chanllawiau cyfreithiol a pholisïau’r
Adran Addysg, nid yw’n bosib’ cynnal cyfarfodydd yn y ffordd arferol, ac mae’n
amhosib’ cael cyfarfodydd o gwbl gyda rhai unigolion sydd â diddordeb cryf yn y
mater. Mae hefyd yn amhosib’ cael cyfarfodydd arferol cyhoeddus yn y
gymuned i drafod ac ymateb i’r ymgynghoriad.
·
Roedd y Pennaeth i ffwrdd o’i
gwaith yn ystod y cyfnod, ac mae’n parhau i fod i ffwrdd. Gan mai’r pennaeth parhaol sy’n gwybod orau
am sefyllfa’r ysgol, byddai parhau gyda’r broses tra mae hi’n parhau i fod i
ffwrdd yn annheg i’r ysgol a’r gymuned.
·
Cred rhai na ddylid cau
ysgolion bach heb graffu ar y penderfyniad.
Dogfennau ategol: