Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig
I ystyried yr
adroddiad
Penderfyniad:
Derbyniwyd cynnwys
yr adroddiad a'r dogfennau atodol gan
nodi’r sylwadau
Cefnogwyd y
blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i'r dyfodol.
Cofnod:
Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Oedolion,
Iechyd a Llesiant adroddiad
gan Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn yn diweddaru’r Pwyllgor ar faes
gwaith y Bartneriaeth. Eglurwyd bod gofyn i’r Bartneriaeth
adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor
yn flynyddol i gyflwyno trosolwg
o brif ddatblygiadau strategol y Bartneriaeth dros y flwyddyn ynghyd a’r gwaith
comisiynu sydd yn gosod fframwaith
i’r blaenoriaethau sydd yn seiliedig
ar asesiad strategol. Ategwyd bod hyn yn sicrhau
bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau
yn unol ag adrannau Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006, drwy gydweithio gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Tynnwyd sylw
at y prif negeseuon oedd yn deillio
o weithgarwch 2020/2021 ynghyd
a phrif lwyddiannau’r flwyddyn.
Amlygwyd y prif gerrig milltir ar gyfer 2020 – 2021 a gofynnwyd i’r Pwyllgor
Craffu gefnogi’r blaenoriaethau oedd wedi eu rhestru
yn yr adroddiad
ynghyd â chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â phryderon bod
troseddau sydd yn defnyddio sgamiau
ar gynnydd a’r angen i
godi ymwybyddiaeth bellach ar sut
i’w hadnabod, eu hosgoi neu
adrodd arnynt, adroddwyd bod gwaith hyrwyddo yn cael
ei wneud gan yr Heddlu
a’r Uned Safonau Masnach. Nodwyd bod sawl ymgyrch wedi ei
wneud gan y Tîm Cyfathrebu i dynnu sylw
at y mater ar wefan y
Cyngor ac ar y cyfryngau cymdeithasol, ond bod angen osgoi boddi’r
gynulleidfa gyda gormod o wybodaeth. Ategwyd bod y mater yn derbyn sylw gan
y Panel Diogelu a bod y Comisiynydd
Pobl Hŷn wedi ei adnabod
fel mater cenedlaethol gyda sawl ymdrech
yn cael ei
wneud i godi
ymwybyddiaeth.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn a ddiffyg adnoddau gan yr
Heddlu, a’r Cyngor heb adnoddau gorfodaeth
digonol i ddelio gyda materion
a throseddau yn ymwneud a thraffig a priffyrdd, nodwyd, er nad yw
materion traffig yn faes gwaith
y Bartneriaeth bod yr Heddlu a’r Cyngor Sir wedi cydweithio yn dda yn
ddiweddar (dros gyfnod y pandemig) i ymdrin a’r
materion hyn, ond derbyn bod lle i wella.
Mewn ymateb i gynnydd
mewn cam ddefnyddio sylweddau a bod y defnydd yn mynd o ‘dan
y radar’ mewn nifer o gymunedau, amlygwyd bod darn o waith rhanbarthol yn cael ei
wneud i gynyddu’r
gefnogaeth. Derbyniwyd y sylw bod y Bartneriaeth yn adrodd ar
y nifer troseddau sydd wedi eu
cofnodi yn unig, ond er
hynny yn cydweithio yn dda
gyda County Lines i gasglu gwybodaeth i gael dealltwriaeth o’r sefyllfa er mwyn
ymyrryd. Anogwyd yr Aelodau i rannu
unrhyw wybodaeth o faterion lleol gyda’r Heddlu fel
bod modd ymateb / ymchwilio i’r digwyddiadau.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Byddai cyfreithloni cyffuriau
yn rhyddhau arian i wneud gwaith ataliol
yn hytrach na gwario ar
blismona’r broblem. Angen edrych ar
ffyrdd arloesol o ddelio gyda’r sefyllfa
·
Awgrymwyd bod yr Heddlu yn
ail gyflwyno sesiwn hyfforddiant i’r aelodau o’r gwaith sydd yn cael ei
wneud i daclo
County Lines.
·
Angen presenoldeb Heddlu yn ein
cymunedau – mwy o bwerau yn lleol
i ddelio gyda materion lleol
ac i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol
·
Bod y Swyddfa
Gartref yn ystyried diddymu swyddogaeth Comisiynydd yr Heddlu a chreu
swyddogaeth Maer ar draws y Gogledd – angen ystyried lle i drafod
y mater
PENDERFYNWYD
a)
Derbyn cynnwys yr adroddiad a'r
dogfennau atodol gan nodi’r
sylwadau
b)
Cefnogwyd y blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i'r dyfodol.
Dogfennau ategol: