I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
(a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y
cyfarfod.
(b) Argymell i’r Cabinet ystyried edrych ar raddau cyflogau staff
ar draws y Cyngor a sut maent yn cymharu â chyflogau cynghorau cyfagos.
Cofnod:
Rhoddwyd rhagair gan yr Aelod
Cabinet dros Amgylchedd yn nodi mai adroddiad i amlinellu gwaith pwysig yr
adran Gwarchod y Cyhoedd yn ystod cyfnod y pandemig
sydd gerbron yr aelodau heddiw. Ategwyd bod llawer iawn o waith cefndirol yn
digwydd ac yn anaml y byddai pawb yn clywed am y gwaith hwn sy’n rhan bwysig
o’r cyngor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Bennaeth yr Adran Amgylchedd ac ategwyd diolchiadau'r Aelod Cabinet i’r holl
staff yr adran. Aethpwyd ymlaen i nodi bod swyddogion a staff yn parhau i fod
yn brysur â materion ynghylch Covid-19 ar ben eu dyletswyddau arferol sy’n ail
gychwyn dros y cyfnod nesaf. Pwysleisiwyd bod y staff yn ymgymryd â’r
cyfrifoldebau yma er eu bod yn gweithio gyda niferoedd staffio is o ganlyniad i
ddegawd o doriadau.
Ategwyd bod y toriadau wedi
arwain at ddiffyg gwydnwch o fewn yr adran bellach. Thynnwyd sylw at y math o
doriadau sydd wedi bod, er enghraifft yn 2011/12 roedd 63 o swyddogion o fewn
yr adran sydd bellach wedi disgyn at 42. Parhawyd i egluro effaith y toriadau
sef bod galw mawr am swyddogion sydd a’r arbenigedd angenrheidiol ac yn cwrdd â
gofynion y swydd.
Trafodwyd elfen arall sy’n
ategu at ddiffyg gwydnwch o fewn yr adran, sef bod anghysondeb cyflogau’r
swyddi ar draws y siroedd yng Ngogledd Cymru. Eglurwyd bod Cyngor Gwynedd gyda
chyflogau is na siroedd eraill cyfagos a bod pryder y byddai swyddogion yn cael
eu colli gan fod rhai eisoes wedi symud i swyddi mewn siroedd eraill.
Cyfeiriwyd at y datrysiadau i’r
pwysau ar y gwasanaeth gan gynnwys penodi swyddogion newydd gan ddefnyddio
arian o gronfa caledi. Parhawyd i drafod eu dyletswyddau cychwynnol sef
ymgysylltu efo cymunedau, ysgolion a busnesau lleol. Eglurwyd y byddai’r
swyddogion newydd yma gyda chyfleoedd i barhau fel technegwyr neu swyddogion
parhaol i’r adran yn y dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-
- Diolchwyd am yr adroddiad yn
enwedig yn sgil newyddion am fathau gwahanol o Covid-19 sy’n ymddangos. Ategwyd
y bydd Covid-19 yma am gyfnod ac mae angen cynllunio ar gyfer y tymor hir.
- Mewn perthynas â’r materion
ynghylch cyflogau, gofynnwyd a ydi’r swyddi yn cael eu harfarnu i adlewyrchu’r
nifer is o adrannau sydd erbyn hyn a’r llwyth gwaith ychwanegol. Ategwyd bod
angen cryfhau’r adran gan fod datblygiadau newydd gyda’r pandmeig.
- Cytunwyd bod wir angen ail
edrych ar y raddfa cyflogau os yw swyddogion talentog yn cael eu colli i
siroedd sydd â chyflogau uwch am yr un swydd.
- Codwyd pryder ynghylch faniau bwyd symudol sy’n cynyddu yn ystod y cyfnod hwn ac
os ydynt wedi derbyn y caniatâd cywir i weithredu, mewn perthynas ag hylendid
bwyd.
- Datganwyd bod y toriadau
swyddi wedi mynd yn rhy bell o fewn yr adran, ac o ganlyniad mae gwir angen
recriwtio staff. Nodwyd o safbwynt cadw staff bod angen sicrhau cyflogau teg.
- Gofynnwyd pwy sy’n gyfrifol
am gyflogi staff olrhain newydd yn sgil y niferoedd uchel sydd angen.
- Cydnabuwyd bod Cyngor Gwynedd
yn is o ran graddfa cyflogau o gymharu â siroedd cyfagos a bod angen gweithredu
ar hyn er mwyn cadw staff. Ategwyd bod angen symud y mater o raddfeydd cyflogau
at sylw’r cabinet.
- Yn sgil llacio cyfyngiadau,
atgoffwyd bod angen i bawb gofio cefnogi busnesau Gwynedd sydd yn ail agor ar
ôl cyfnod anodd iawn.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod,
nodwyd y canlynol:-
- Diolchwyd y Pennaeth Adran
Amgylchedd am y sylwadau a’r gefnogaeth gyda’r adroddiad ac i argymell nod
angen diwygio graddfeydd cyflogau.
- Eglurwyd bod y swyddi wedi eu
harfarnu a bod cydnabyddiaeth wedi ei rhoi ar gyfer swyddogion sy’n ymgymryd
amryw o ddyletswyddau ychwanegol.
- Mewn perthynas â’r faniau bwyd newydd sy’n ymddangos, sicrhawyd bod angen
trwydded hylendid bwyd ar bawb a bod bob busnes angen sgôr o ran hylendid wedi
ei arddangos ar eu safle.
- Nodwyd nad oedd trefn benodol
ar drwyddedu lleoliadau ar hyn o bryd yng Ngwynedd.
- Cytunwyd bod angen edrych ar
y faniau bwyd newydd er mwyn sicrhau diogelwch ac
ymddygiadau priodol n cael eu dilyn.
- Cadarnhawyd mai Llywodraeth
Cymru sy’n talu cyflogau swyddogion olrhain ac mai Sir Fflint sy’n derbyn yr
arian a’i ddidoli. Nodwyd bod swyddogion Gwynedd wedi eu cyflogi gan sir
Fflint. Eglurwyd bod hyn yn digwydd er mwyn osgoi anghysondeb yn yr arfarniad
swydd ac i sicrhau cysondeb cyflogau.
PENDERFYNWYD
(a) Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod.
(b) Argymell i’r Cabinet
ystyried edrych ar raddau cyflogau staff ar draws y Cyngor a sut maent yn
cymharu â chyflogau cynghorau cyfagos.
Dogfennau ategol: