AELOD CABINET: Cynghorydd
Gareth W Griffith.
I ystyried yr adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn cynnwys yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Adran Amgylchedd gan bwysleisio'r gwahanol agweddau
mae’r gwasanaeth gwarchod y cyhoedd wedi bod yn ymdrin â dros y cyfnod
diwethaf.
Ategwyd bod proffil y gwasanaeth wedi ei
amlygu gan iddynt weithio ar y rheng flaen yn ddiweddar wrth olrhain
cysylltiadau a gyda chydymffurfiaeth rheoliadau COVID-19.
Eglurwyd
un pryder ar gyfer y gwasanaeth wrth symud ymlaen sef darparu gwasanaeth
arferol h.y. archwiliadau hylendid bwyd wrth i lefydd ail agor, yn ogystal â’r
gofynion presennol ynghylch y pandemig.
Ychwanegwyd
bod tri swyddog ychwanegol wedi eu penodi ar gyfer rhannu baich gwaith wrth i
ofynion y gwasanaeth ehangu. Ategwyd y byddai’r swyddogion newydd yn cael eu
datblygu a’u hyfforddi at y diben o’u cadw ymlaen fel swyddogion Iechyd a
Diogelwch y dyfodol i gryfhau’r gwasanaeth.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-
- Diolchwyd am yr adroddiad ac
i’r holl adran am eu gwaith pwysig iawn dros y cyfnod COVID-19.
- Ategwyd bod achosion o
COVID-19 wedi cynyddu yn ardal Bala er enghraifft, a bod swyddogion olrhain
wedi gweithio’n ddiddiwedd er mwyn cysylltu â phawb.
- Gofynnwyd sut mae’r adran yn
ymdrin â thrigolion sydd wedi cychwyn busnesau bwyd o’u tai dros y pandmeig.
- Croesawyd y newyddion bod tri
aelod newydd wedi eu penodi i’r adran a nodwyd bod hyn yn symudiad da ar gyfer
y dyfodol.
- Diolchwyd am yr holl
ddiweddariadau sydd wedi bod drwy e-bost ar y sefyllfa gwarchod y cyhoedd ac
ategwyd bod yr adroddiad hwn yn amlinellu’r gwaith ychwanegol sydd ar waith.
- Gofynnwyd a yw’r gwasanaeth
yn ffyddiog y byddant yn ymdopi’n ddigonol a’u llwyth gwaith wrth i
ddyletswyddau arferol ddychwelyd.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nodwyd y canlynol:-
- Eglurwyd bod yr adran yn
gefnogol o’r trigolion sydd wedi mynd ati i sefydlu busnesau bwyd o’u cartrefi
yn ystod y cyfnod clo. Fodd bynnag, nid pob un sy’n cysylltu â’r adran er mwyn
cofrestru a nodwyd bod hyn yn hanfodol er mwyn i’r adran sicrhau safonau iechyd
a diogelwch.
- Atgyfnerthwyd mai pwrpas yr
adran yw cefnogi ac ymgysylltu dim i gosbi a gorfodi.
- Nodwyd y byddai straen ar y
gwasanaeth petai archwiliadau yn ailgychwyn ar raddfa arferol, ar ben
dyletswyddau COVID-19.
- Cydnabuwyd bod swyddogion yr
adran yn gweithio oriau hir a bod hon yn sefyllfa hirdymor hyd hyn, dim yn un
dros dro fel y rhagwelwyd yn gychwynnol.
- Nodwyd bod cefnogaeth gan y
Cyngor a Llywodraeth Cymru er mwyn penodi staff ychwanegol i’w groesawu gan ei
bod yn lleihau pwysau ar y swyddogion.
- Parthed y sefyllfa COVID-19,
nodwyd bod y niferoedd yn ystyfnig o fewn y Sir , a bod clystyrau wedi
ymddangos yn ddiweddar.
Yn ychwanegol at
yr ymatebion, nododd y Pennaeth yr Adran Amgylchedd bod risgiau wedi eu hamlygu
dros y deuddeg mis diwethaf gan i faterion ag elfennau risg uchel wedi parhau i
ddigwydd. Ategodd bod swyddogion wedi gorfod parhau i ddelio gyda materion
difrifol iechyd a lles, er enghraifft materion sy’n ymwneud ag lles
anifeiliaid. Ar ben hyn, atgoffwyd bod materion ynghylch ‘Brexit’ wedi parhau
gan gynnwys cefnogi busnesau gydag allforio, yn enwedig busnesau cyflenwi bwyd.
Ar y cyfan,
rhagwelwyd cyfnod heriol i ddod wrth ymdopi â’r economi yn ail agor yn raddol.
PENDERFYNWYD
Derbyn cynnwys yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Dogfennau ategol: