Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyn yr wybodaeth, nodi’r risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chefnogi penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ystyried penderfyniadau’r Cabinet ar 13 Hydref, 2020 a sylwebu fel bo angen.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:-

 

·         Bod yr adroddiad hwn eto’n dangos effaith y pandemig a’r pwysau ar yr adrannau.

·         Bod Atodiad 1 i’r adroddiad yn bwysig, gan ei fod yn dangos y derbyniadau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru fesul adran, ac yn cyfleu’r sefyllfa’n hollol glir i’r aelodau.

 

Nodwyd y bu i’r Cabinet ystyried yr adroddiad yn eu cyfarfod ar 13 Hydref, gan benderfynu fel a ganlyn:-

 

·         Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2020 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

·         Nodi effaith ariannol Covid-19, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.

·         Cefnogi bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng.

·         Nodi fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan fod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae’r Prif Weithredwr eisoes wedi comisiynu gwaith er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb,

·         Nodi fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun ymateb.

·         Cymeradwyo yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2).

o   Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾     (£250k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf.

¾     tanwariant net o (£1,127k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid-19.

·         Fod derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a cholledion incwm cysylltiedig â’r argyfwng Covid-19 gan y Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Gan gyfeirio at y tabl ar dudalen 221 o’r rhaglen, sylwyd bod yna £1m o wahaniaeth rhwng cyfanswm gwerth y cais am grant o Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru a chyfanswm y grant a dderbyniwyd, a holwyd a oedd yna ragor o grant ar ei ffordd, neu a ddisgwylid i’r Cyngor ei ysgwyddo.  Mewn ymateb, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhai ceisiadau, ac yn dal yn ôl cyn talu rhai eraill.  E.e. roedd hawliadau taliadau cinio ysgol am ddim wedi’u dal yn ôl ers Awst, ac yn werth £200,000 erbyn hyn, ond roedd y Cyngor yn disgwyl derbyn yr arian.  Ychwanegwyd ei bod yn glod i’r Uwch Reolwr Cyllid a’i thîm bod Gwynedd ymhlith y 6 awdurdod uchaf o safbwynt y swm y llwyddwyd i’w dynnu i lawr o’r Grant Caledi Cofid o’r Llywodraeth, a’r gorau yng Nghymru o safbwynt y swm sy’n cael ei wrthod, gyda’r swm lleiaf wedi cael ei wrthod.  Roedd dull y Cyngor hwn o roi’r wybodaeth ymlaen wedi’i ganmol gan y Llywodraeth fel dull dealladwy, ac roedd Gwynedd yn llwyddo i gael yr arian yn gynt na chynghorau eraill oherwydd hynny.  Nodwyd hefyd bod dros £400,000 wedi’i wario ar liniaduron i alluogi i staff weithio o adref ers mis Mawrth, ac y llwyddwyd i gael hanner y gost yma’n ôl o’r gronfa.  Roedd hyn yn gryn lwyddiant, o gofio y byddai’r gliniaduron hyn yn ased i’r Cyngor i’r dyfodol.

·         Eto, gan gyfeirio at y tabl ar dudalen 221 o’r rhaglen, sylwyd na dderbyniwyd unrhyw grant ar gyfer mis Awst, a holwyd a oedd yn wir i dybio y disgwylid derbyn grant o £800,000 (h.y. bod y bwlch rhwng yr hyn yr ymgeisiwyd amdano a’r hyn fydd yn cael ei dderbyn ond tua £200,000), neu oedd yna broblem gyda chais mis Awst.  Mewn ymateb, eglurwyd mai mater o amseriad oedd hyn ac y disgwylid gwybodaeth yn ôl gan Lywodraeth Cymru o ran y cais yma.  Roedd Llywodraeth Cymru yn asesu ceisiadau holl gynghorau Cymru, ac felly roedd yna oediad rhwng amser cyflwyno cais, a derbyn gwybodaeth bod y cais hwnnw wedi’i gymeradwyo a thalu’r arian drosodd.  Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhawyd y disgwylid derbyn swm y cais yn yr achos hwn.

·         Croesawyd bwriad y Prif Weithredwr i gymryd gafael eto ar y Tasglu Cyllideb Plant, a holwyd a fyddai modd defnyddio casgliadau’r gwaith hwn i bwyso a thrafod gyda’r Llywodraeth, a gyda chynghorau eraill, i weld oes lle i ail-ymweld â’r gyllideb sy’n dod o’r Llywodraeth ar gyfer y maes yma’n benodol.  Mewn ymateb, eglurwyd bod Cymdeithas Trysoryddion Cymru wedi llunio arolwg i geisio casglu gwybodaeth am y pwysau a’r galw yn y maes plant ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn rhoi hyn ar radar y Llywodraeth.  Fodd bynnag, heb wybod beth oedd canlyniad arolwg gwariant un flwyddyn Llywodraeth y DG, a beth fyddai’r setliad i Gymru, nid oedd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ymrwymo i unrhyw beth ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth, nodi’r risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chefnogi penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.

 

Dogfennau ategol: