Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyn yr wybodaeth, nodi’r risgiau sy’n deillio o lithriadau gyda rhai o’r cynlluniau arbedion, a chefnogi penderfyniadau perthnasol y Cabinet.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau’r Cabinet ar 13 Hydref, 2020 a sylwebu fel bo angen.

 

Ar bwynt cyffredinol ar y cychwyn, nododd yr Aelod Cabinet Cyllid:-

 

·         Wrth weithredu’r strategaeth arbedion ac arloesi, bod y Cyngor wedi bod yn hynod ffodus, e.e. cyn y pandemig, roedd 138 o ddefnyddwyr yn gallu gweithio o adref, ond erbyn mis Mawrth eleni, roedd 1,292 yn defnyddio offer o adref.  Diolchodd i bawb yn y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth am eu gwaith i sicrhau bod yr holl waith ar gyfer yr eitemau dan ystyriaeth yn y cyfarfod hwn wedi gallu cael ei wneud.

·         Y dymunai ddiolch i’r holl staff am y gwaith anhygoel oedd wedi’i gyflawni o fewn amserlen dynn iawn.

 

Yna gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun i’r adroddiad dan sylw drwy nodi:-

 

·         Bod yna arwyddion clir bod yna drafferthion o ran cyflawni’r arbedion, a bod pryder ynghylch yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a’r Cynllun Dechrau i’r Diwedd yn benodol.

·         Er yn sylweddoli ein bod mewn cyfnod heriol, ei bod yn hanfodol ail-afael yn fuan yn y drefn o gyflawni arbedion.

 

Nodwyd y bu i’r Cabinet ystyried yr adroddiad yn eu cyfarfod ar 13 Hydref, gan benderfynu fel a ganlyn:-

 

·         Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2020/21, 2019/20 a blynyddoedd blaenorol.

·         Cymeradwyo’r cynlluniau amgen a fanylir yn Rhan 6 ac Atodiad 5 i ddisodli cynlluniau hanesyddol nad ydynt yn gwireddu.

·         Nodi bod effaith Covid-19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.

·         Cefnogi bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Nodwyd ei bod yn anodd iawn gwireddu arbedion yr Adran Plant a Theuluoedd a’r Cynllun Dechrau’n Deg, a holwyd a luniwyd amserlen ar gyfer yr adolygiad oedd yn cymryd lle.  Mewn ymateb, eglurwyd, er bod y Tasglu Cyllideb Plant wedi cychwyn edrych ar yr arbedion, bu’n rhaid oedi’r gwaith gan fod swyddogion wedi eu tynnu i flaenoriaethau eraill yn ystod yr argyfwng.  Fodd bynnag, roedd bwriad i symud ymlaen a cheisio dod i ganlyniad ar hyn.  Nodwyd ymhellach bod y niferoedd a’r pwysau ar yr Adran Plant a Theuluoedd wedi cynyddu, ac efallai bod rhagdybiaethau a wnaed ar y pryd wrth bennu’r targed arbedion ar gyfer y gwasanaeth wedi newid erbyn hyn, ond byddai adolygiad y tasglu yn cadarnhau’r sefyllfa.

·         Nodwyd bod y gyllideb gofal yn ei chyfanrwydd yn anodd iawn, a phryderid bod yna risg gwirioneddol i blant, ac i oedolion hefyd, os ydym yn ystyried rhagor o doriadau yn y meysydd hyn, yn enwedig yn ystod yr argyfwng.  Mewn ymateb, cyfeiriwyd at benderfyniad y Cabinet i gefnogi bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i gyfarfod yr Aelod Cabinet cyfrifol a’r pennaeth yn y pum adran sydd â risgiau i gyflawni’r arbedion hanesyddol.  Nid y pandemig oedd yr unig rwystr, ac roedd y Cyngor wedi bod yn brwydro i ddarganfod arbedion ers bron i 15 mlynedd, gyda’r sefyllfa’n mynd yn gynyddol anodd wrth i amser basio.  Roedd natur y galw wedi newid o ran dwysedd gofynion plant a theuluoedd anghenus, ac wedi dwysau ymhellach yn ystod yr argyfwng.  Wrth drafod gyda’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid, byddai’n rhaid pwyso a mesur yr angen i ganfod arbedion yn erbyn anghenion y gwasanaeth a phobl Gwynedd, gan wneud hynny mewn ffordd gydymdeimladol.  Hefyd, oherwydd y pwysau ar y gwasanaethau i ddygymod yn ystod yr argyfwng, nid oedd y Cabinet wedi cefnogi mynd ati i restru arbedion a thoriadau eto yn y cyfnod hwn, gan aros i weld beth fyddai yn y setliad drafft ym mis Rhagfyr.

·         Mynegwyd pryder y byddai’r ail don o Covid-19 yn anodd iawn ar deuluoedd, gyda llawer o bobl yn colli eu swyddi.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynllun Priffyrdd a Bwrdeistrefol i drosglwyddo meysydd chwarae i eraill (tud 191 o’r rhaglen), eglurwyd, er bod rhai o’r cynlluniau yn symud yn eu blaenau, bod y pandemig wedi arafu’r broses honno.

·         Cyfeiriwyd at y cynllun i newid trefniadau gweithredu’r canolfannau ailgylchu a chodi ffioedd (tud 193 o’r rhaglen), a phwysleisiwyd pwysigrwydd y canolfannau ailgylchu i’r trigolion.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y cynllun i newid trefniadau gweithredu’r canolfannau ailgylchu yn disodli’r ddau gynllun hanesyddol i godi ffi ar fasnachwyr a chodi ffi ar waredu gwastraff DIY.

·         Croesawyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i edrych ar yr arbedion gyda’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid, a mynegwyd gobaith y byddai yna edrych ar y sefyllfa’n ofalus cyn ystyried gwneud i ffwrdd ag unrhyw adnodd neu wasanaeth.  Nodwyd hefyd, pe gwelid, maes o law, bod angen ail-sefydlu adnodd, byddai’r gost o wneud hynny’n uchel.

·         Nodwyd y byddai unrhyw fwriad i godi tâl am ddefnyddio canolfannau ailgylchu yn arwain at lai o ddefnydd o’r adnodd, a mwy o dipio slei bach.  Mewn ymateb, nodwyd na allai’r swyddogion cyllid ateb yn llawn ar bob cynllun, a bod yr Aelodau Cabinet a’r penaethiaid yn cyfarfod gyda’r Prif Weithredwr, neu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, a’r aelodau craffu perthnasol.  Roedd yna graffu ar yr arbedion yn digwydd mewn ffyrdd gwahanol, a gofynnwyd i’r aelodau ymddiried yn y swyddogion i gael y balans cywir wrth symud ymlaen ar hynny.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Cyllid nad oedd cyfeiriad yma at doriad yn yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, ac na ddylai arbedion effeithio ar y gwasanaeth i’r dinesydd.  Roedd yn gyfnod heriol i bawb, ond sicrhaodd yr aelodau y byddai yna edrych ar sefyllfa’r adrannau mewn ffordd gydymdeimladol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth, nodi’r risgiau sy’n deillio o lithriadau gyda rhai o’r cynlluniau arbedion, a chefnogi penderfyniadau perthnasol y Cabinet.

 

 

Dogfennau ategol: