I ystyried yr
adroddiad
Penderfyniad:
Derbyn yr wybodaeth, nodi’r ansicrwydd yng nghyswllt cyllideb y Cyngor
ar gyfer 2021/22, a chefnogi’r strategaeth i fantoli’r gyllideb drwy ddefnyddio
cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr,
yn hytrach na rhoi ystyriaeth ddwys a diangen i restrau o arbedion a thoriadau
gwasanaeth dichonol yn ystod ail don tebygol o’r pandemig Covid-19.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r
ansicrwydd yng nghyswllt cyllideb y Cyngor ar gyfer 2021/22, a sylwebu ar y
strategaeth.
Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun i’r adroddiad. Pwysleisiodd
bwysigrwydd y seminarau rhithiol ar y gyllideb i aelodau ym mis Ionawr, a
phwysodd ar bawb i bresenoli eu hunain yn y sesiynau.
Nodwyd y bu i’r Cabinet ystyried yr adroddiad yn eu cyfarfod ar 13 Hydref,
gan benderfynu fel a ganlyn:-
Cymeradwywyd y drefn
ac amserlen llunio Cyllideb 2021/22, wrth nodi fod cynllunio
ariannol yn hynod heriol, ac felly os bydd bwlch
cyllido i fantoli cyllideb 2021/22, bydd y Cyngor yn
defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru
colledion adnoddau yn y tymor byr,
yn hytrach na rhoi ystyriaeth
ddwys a diangen i restrau o arbedion
a thoriadau Gwasanaeth dichonol yn ystod
ail don tebygol o’r pandemig Covid-19.
Nododd y Pennaeth Cyllid, ymhellach i’r hyn oedd wedi’i gynnwys yn yr
adroddiad, iddo erfyn ar Lywodraeth Cymru yn y dyddiau diwethaf i ymlynu at y
gyllideb ddrafft eleni, neu fel arall, byddai’n amhosib’ cynllunio ar gyfer
2021/22.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-
·
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â pholisi’r Cyngor o ran balansau,
eglurwyd bod cadw arian wrth gefn yn rhan o ddarlun ehangach. Roedd yn ddibynnol ar faint o risg sy’n cael
ei roi i mewn i gyllidebau yn nhermau pethau fel darpariaeth ar gyfer
chwyddiant a materion sydd ddim yn wybodus.
Roedd llawer o’r cronfeydd wrth gefn wedi’u hymrwymo i bwrpasau penodol,
ond roedd gan y Cyngor falansau cyffredinol o £8m,
oedd yn sylfaenol yn adlewyrchu’r risg o doriad posib’ yng ngrant y
Cyngor. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf,
roedd y Cyngor wedi cadw at y swm yma, rhag ofn bod mewn sefyllfa o orfod prynu
amser i ddelio â’r angen i ddarganfod arbedion a thoriadau.
·
Holwyd
a roddwyd ystyriaeth i fenthyg arian i lenwi’r bwlch yn y tymor byr, gan fod
cyfraddau llog mor isel ar hyn o bryd.
Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd y rheoliadau’n caniatáu benthyg i
bwrpasau refeniw, heblaw bod Llywodraeth Cymru’n caniatáu Gorchymyn Cyfalafu. Roedd ambell gyngor arall wedi bod yn galw am
hynny yng Nghymru, ond ni wnaed unrhyw ddatganiad ar hynny hyd yma. Hefyd, yn unol ag ysbryd Deddf Cenedlaethau’r
Dyfodol, ni ddymunid pasio problemau ymlaen i’r genhedlaeth i ddod, ac roedd yn
well ceisio cyfarch y broblem o’r reserfau sydd ar
gael.
·
Nodwyd,
os defnyddio’r arian wrth gefn, y dylid sicrhau bod y cronfeydd yn cael eu
hadfer yn y blynyddoedd wedyn, a phwysleisiwyd bod yr argyfwng presennol wedi
tanlinellu gwerth y cronfeydd wrth gefn.
·
Nodwyd bod Llywodraeth y DG wedi
achosi anhawster o ran sefydlu cyllideb drwy ddileu’r Gyllideb
Hydrefol, er y deellid eu rhesymau
dros wneud hynny yn yr
amgylchiadau. Fodd bynnag, roedd
hynny wedi arwain at drosglwyddo’r broblem i Lywodraeth
Cymru, oedd, yn eu tro,
wedi trosglwyddo’r broblem i’r cynghorau. Cytunid nad oedd
yn briodol neilltuo amser staff i chwilio am arbedion
a hwythau dan bwysau yn delio
â’r argyfwng. Credid bod y ffactorau hyn yn
golygu bod dyletswydd foesol ar y ddwy
lywodraeth i sicrhau nad
oes toriadau yn y grant a bod y setliad terfynol yn ddigonol,
ac roedd yn bwysig bod y Cyngor yn datgan hyn
yn glir. Roedd y pandemig wedi dangos
pa niweidiol fu’r toriadau i’r sector gyhoeddus dros y deng mlynedd ddiwethaf,
yn enwedig ym maes iechyd, ond mewn
meysydd eraill yn ogystal, ac nid oedd yr
isadeiledd cyhoeddus trwy Gymru a Phrydain
yn ddigonol i wynebu’r sialensiau
a wynebir.
·
Holwyd
a oedd peryg’ i’r Llywodraeth ddyrannu llai o grant i gyngor sydd ag arian wrth
gefn. Mewn ymateb, eglurwyd mai
ffactorau megis newid mewn poblogaeth, nifer disgyblion ysgol, henoed, ayb,
oedd yn gyrru gwahanol elfennau’r fformiwla.
PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth,
nodi’r ansicrwydd yng nghyswllt cyllideb
y Cyngor ar gyfer 2021/22, a chefnogi’r strategaeth i fantoli’r
gyllideb drwy ddefnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru
colledion adnoddau yn y tymor byr,
yn hytrach na rhoi ystyriaeth ddwys a diangen i restrau
o arbedion a thoriadau gwasanaeth dichonol yn ystod ail don debygol o’r pandemig
Covid-19.
Dogfennau ategol: