Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS yn rhai hanesyddol a’i fod erbyn hyn gyda theulu ac yn yrrwr HGV a PSV profiadol. Ei fwriad oedd sefydlu busnes i’w feibion.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         Tystysgrif meddygol yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

ch)  Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Yn Mai 1991 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Bangor ar gyhuddiad o ddifrod troseddol (yn groes i a1 Deddf Difrod Troseddol 1971), derbyn arian drwy dwyll ( yn groes i a15 Deddf Dwyn 1968) a lladrata (yn groes i a1 Deddf Dwyn 1968). Derbyniodd cyfanswm dirywion o £275 a gorchymyn i dalu £53.00 o iawndal a chostau o £15 am dderbyn arian drwy dwyll.

 

Yn Rhagfyr 1991 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon  am gyhuddiad o ddifrod troseddol yn groes i a1 Deddf Difrod Troseddol 1971. Derbyniodd ddirwy o £100 a gorchymyn i dalu iawndal o £276.91.

 

Yn Mai 1998 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys y Goron Caernarfon ar gyhuddiad o fyrgleriaeth ddifrifol / treisgar yn groes i a10 Deddf Dwyn 1968. Derbyniodd yr ymgeisydd ddedfryd o 3 mlynedd o garchar.

 

Yn Awst 2000 dyfarnwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Aberconwy ar gyhuddiad o fethu a darparu sampl prawf yn groes i a7 Deddf Traffig Ffordd 1988. Derbyniodd ddirwy o £200, gorchymyn i dalu costau o £35 a gwaharddiad rhag gyrru am 20 mis gyda’r dewis o leihau’r cyfnod cosb o 25% drwy gwblhau cwrs erbyn Medi 2001.

 

Yn Hydref 2001 cafodd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Sir Ddinbych am ddefnyddio cerbyd heb yswiriant yn groes i a143 Deddf Traffig Ffordd 1988, a gyrru yn ystod gwaharddiad yn groes i  a103 Deddf Traffig Ffordd 1988. Ni dderbyniodd gosb ar gyfer defnyddio cerbyd heb yswiriant ond derbyniodd orchymyn cosb gymunedol o 80 awr, gorchymyn i dalu costau o £55 a gwaharddiad gyrru am 12 mis am yrru yn ystod gwaharddiad.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.. Mae paragraff 6.6 o’r Polisi yn nodi y bydd cais, fel arfer yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd a hynny o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

Ystyriwyd paragraff 8.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae paragraff 8.2 yn nodi bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os bydd gan yr ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill, bwrgleriaeth a chael eiddo drwy dwyll.

 

Ystyriwyd paragraff 11.0 sydd yn cyfarch troseddau o yfed a gyrru. Ym mharagraff 11.1 fe nodir y byddai ystyriaeth ddifrifol i gollfarnau am yrru neu fod yn gyfrifol am gerbyd dan ddylanwad alcohol / cyffuriau. Bydd un sydd wedi ei gael yn euog o droseddau yn ymwneud ag yfed a gyrru yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o’r fath am  3 blynedd o leiaf. Ymdrinnir yn yr un modd a chollfarn am ‘wrthod neu fethu darparu sampl

 

Mae rhan 12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda paragraff 12.2 yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y troseddau mae BA10 (gyrru yn ystod gwaharddiad dan orchymyn y Llys) a IN10 (defnyddio cerbyd sydd heb ei yswirio). Nodir bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod (12.10) os oes cofnod o waharddiad gyrru am gyfnod o 12 mis neu fwy, oni bai bod 18 mis wedi mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad.

 

d)    Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad fod collfaranu Mai 1991 a Rhagfyr 1991 yn yn ymwneud â throseddau o drais.. Fodd bynnag, ers i'r gollfarn ddiweddaraf ddigwydd dros 10 mlynedd yn ôl, nid oedd paragraff 6.6 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais,

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad fod collfaranu a chyhuddiadau Mai 1991 a Medi 1998 yn droseddau o anonestrwydd fodd bynnag, gan fod y collfarnau hyn wedi digwydd dros 3 mlynedd yn ôl nid oedd paragraff 8.2 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad nad oedd paragraff 11.1 yn berthnasol mewn perthynas â chollfarn Awst 2000 gan fod y gollfarn yn fwy na 3 blwydd oed. O ran collfarn Hydref 2001 ( am ddwy drosedd Traffig), canfuwyd yr Is-bwyllgor bod y cyhuddiadau yn drosddau traffic difrfiol,  fodd bynnag, gan fod y gwaharddiadau gyrru wedi dirwyn i ben ers dros 18 mis, nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod paragraff 12.10 yn sail i wrthod y cais.

 

Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, roedd yr Is-bwyllgor o blaid  caniatau y cais a phenderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.