342, STRYD
FAWR, BANGOR, GWYNEDD LL57 1YA
Ystyried
y cais uchod
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar hysbysiadau gwrthwynebu a
dderbyniwyd gan Heddlu Gogledd Cymru ac Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd i
Rybudd Digwyddiad Dros Dro (TEN) a dderbyniwyd ar 12 Tachwedd 2015 gan Mrs
Susan Roberts mewn perthynas â chynnal gweithgareddau trwyddedig arfaethedig yn
342 Stryd Fawr, Bangor am 3 diwrnod fel a ganlyn:
27 Tachwedd
2015 o 11:00 – 03:00
28 Tachwedd
2015 o 11:00 – 03:00
29 Tachwedd
2015 o 11:00 – 23:59.
Nodwyd mai 2 opsiwn oedd ar gael i’r Is-bwyllgor, sef:
• Gwneud dim a chaniatáu i’r digwyddiad fynd yn ei flaen yn y modd a
ddisgrifir yn yr hysbysiad digwyddiad dros dro; NEU
• I gyhoeddi gwrth-hysbysiad, h.y. i wrthod y digwyddiad yn unol â Rhan
105(2)(b) o’r Ddeddf Trwyddedu 2003 os yw’r is-bwyllgor yn ystyried fod angen
gwneud hynny er mwyn hyrwyddo un o’r amcanion Trwyddedu.
Mewn ymateb i ymholiad gan
aelod parthed y nifer o eiddo trwyddedig
yn y cyffiniau oedd ar agor
dan 03:00, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod yr Academi, Mirage, Peep a Skerries ar agor
hyd at yr amser yma ar
ddyddiau yn
amrywio rhwng dydd Gwener a dydd
Sul.
Holodd asiant yr ymgeisydd pryd derbyniwyd y gwrthwynebiad gan Iechyd yr
Amgylchedd. Ymatebodd y Rheolwr Trwyddedu gan nodi y derbyniwyd
y gwrthwynebiad ar 17 Tachwedd 2015.
Manylodd yr
Arolygydd Brian Kearney ar wrthwynebiad Heddlu Gogledd Cymru i’r
TEN, nododd y prif bwyntiau canlynol:
• Y cynhaliwyd cyfarfod efo’r ymgeisydd ar 26 Hydref 2015 yng ngorsaf heddlu Bangor lle trafodwyd digwyddiadau,
amseroedd, gofynion o ran diogelwch, a’r angen am deledu cylch cyfyng (TCC) oedd yn gweithredu’n
llawn gan recordio ac y dylid cadw’r recordiad am 31 diwrnod. Ychwanegwyd y nodwyd y broses o ran delio ac aflonyddwch a’r angen i hysbysu’r
heddlu o ddigwyddiad o’r fath. Nodwyd
dymuniad yr heddlu i’r eiddo
ymuno â Pubwatch.
• Pwysleisiwyd yn dilyn y cyfarfod
roedd yr ymgeisydd yn hollol
ymwybodol o’i chyfrifoldebau;
• Manylwyd ar ddigwyddiad treisgar yn yr eiddo
rhwng 01:00 a 02:00 ar y
1af o Dachwedd 2015. Nodwyd
na gynigwyd cymorth cyntaf na chyngor i'r
dioddefwr;
• Bod y system TCC ddim wedi
recordio'r digwyddiad gan nad oedd
yr ymgeisydd wedi talu £9.99 ar gyfer cadw'r
recordiad ar system cwmwl;
• Y gwrthwynebir y cais
ar sail atal trosedd ac anrhefn ac o ran iechyd a diogelwch;
• Nodwyd bod yr ymgeisydd efo profiad
o ran rhedeg clwb cymdeithasol ym Maesgeirchen, Bangor ond bod rheoli sefydliad yng nghanol y ddinas
yn hollol wahanol;
• Dim ffydd yn yr ymgeisydd
i adrodd ar ddigwyddiad o'r math nac ychwaith
yn y system TCC i recordio.
Rhoddwyd cyfle i'r aelodau
ofyn cwestiynau i'r gwrthwynebydd, mewn ymateb nododd
cynrychiolydd Heddlu Gogledd Cymru:
• Nad oedd
staff yr eiddo yn ymwybodol os
oedd y system TCC yn gweithio a bod gofyn i rywun fod
yn bresennol i lawrlwytho'r recordiad gan mai
dim ond 24 awr oedd gan yr
heddlu i ddal rhywun dan
amheuaeth. Nid oedd ar gael
oherwydd nad oedd y system yn recordio;
• Fe dreuliwyd
amser yn ceisio darganfod manylion y digwyddiad a ni siaradwyd yn
uniongyrchol efo'r ymgeisydd ar ôl
y digwyddiad ond fe wnaed yn
glir yn y cyfarfod efo'r ymgeisydd y disgwyliadau arni;
• Bod yr atodlen a roddwyd
i'r ymgeisydd yn nodi y gofyn
i gadw'r recordiad TCC am gyfnod o 31 diwrnod fel isafswm;
• Nad oedd
gan yr Heddlu
unrhyw bryder o ran nifer y staff diogelwch a oedd yn bresennol.
Gofynnodd asiant
yr ymgeisydd nifer o gwestiynau o ran cadarnhau manylion y digwyddiad i gynrychiolydd
Heddlu Gogledd Cymru. Ymatebodd yr Arolygydd i'r cwestiynau.
Manylodd Gwenan
M. Roberts ar wrthwynebiad Iechyd yr Amgylchedd i’r
TEN ar sail atal niwsans cyhoeddus, nododd y prif bwyntiau
canlynol:
· Y derbyniodd
yr uned gŵyn
trwy alwad ffôn ar 9 Tachwedd
2015 yng nghyswllt lefelau sŵn yr eiddo dan
sylw yn ystod
30-31 Hydref a 6-7 Tachwedd;
· Bod yr eiddo yn gweithredu
ar TENS i gynnal digwyddiadau ar hyn o bryd
ond fe ddeallir
bod cais am drwydded eiddo wedi ei
gyflwyno;
· Yr anfonwyd
llythyr safonol o ran sŵn i'r ymgeisydd
yn rhoi gwybodaeth
o ran y gŵyn ac y cynhelir ymchwiliad i'r gŵyn. Ychwanegwyd bod yr ymchwiliad yn mynd
rhagddo;
· Cafwyd trafodaethau
efo'r ymgeisydd a nodwyd parodrwydd yr uned i
negodi o ran oriau gwahanol gan deimlir
bod oriau hyd at 03:00 yn rhy hwyr.
Nodwyd y byddai'r gwasanaeth yn tynnu
eu gwrthwynebiad yn nol os
newidir yr oriau i dan
00:00 ar 27/28 Tachwedd a
tan 23:00 ar 29 Tachwedd;
· Y cysylltwyd
â'r ymgeisydd ymhellach ar 20 Tachwedd lle nodwyd
y byddai'r gwasanaeth yn fodlon trafod
amser gorffen cerddoriaeth chwyddedig o 01:00 ar 27/28 Tachwedd a chynghorwyd y dylid cau drysau yn
y man ysmygu os mai dyma oedd
tarddiad y broblem sŵn;
· Yn dilyn hyn, derbyniwyd galwad ffôn gan asiant
yr ymgeisydd yn nodi na
fyddai negodi pellach o ran yr oriau;
· Pryder os byddai’r digwyddiadau
a ofynnir amdanynt yn mynd
yn eu blaen
y derbynnir mwy o gwynion o ran sŵn.
Rhoddwyd cyfle i'r aelodau
ofyn cwestiynau i'r gwrthwynebydd, mewn ymateb nododd
cynrychiolydd Iechyd yr Amgylchedd:
· Bod 2 neu 3 adeilad preswyl
yn agos i’r
eiddo ac eraill yn y cyffiniau;
· O ran pa mor
uchel y caiff sŵn cerddoriaeth fod, ei fod
yn ddibynnol ar sŵn cefndirol
ac agosrwydd yr eiddo i’r eiddo
a effeithir;
· Bod yr asiant yn
pryderu o ran cwtogi oriau gan fod
yr eiddo ddim yn derbyn
cwsmeriaid dan hwyrach yn y nos. Ychwanegwyd y derbyniwyd e-bost gan yr
asiant yn cynnig diwygio’r cais i nodi
cerddoriaeth chwyddedig dan 02:00 ar 27/28 Tachwedd a dan 11:00 ar 29 Tachwedd. Nodwyd yn dilyn
trafodaeth efo’r
Heddlu eu bod yn parhau i
wrthwynebu gan fod 02:00 dal yn rhy hwyr.
Gofynnodd asiant yr ymgeisydd nifer
o gwestiynau o ran cadarnhau
manylion y gwŷn a dderbyniwyd i gynrychiolydd Iechyd yr Amgylchedd. Ymatebodd y cynrychiolydd i'r cwestiynau.
Nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol
i gefnogir cais am TEN:
·
Bod yr
ymgeisydd yn gweithredu yn y maes trwyddedig ers 10 mlynedd ac mai ond 2 digwyddiad
treisgar a oedd wedi cymryd lle
yn ystod y cyfnod yma;
·
Bod yr
ymgeisydd wedi mynychu cyfarfod gyda swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru a’i bod yn
fodlon cydweithio â nhw;
·
Yr ymgeisiwyd i osod
TCC digidol gweithredol ond nad oedd wedi recordio
oherwydd yr angen i dalu
ffi yn anymwybodol
i’r ymgeisydd. Nododd bod y system bellach yn gwbl weithredol;
·
Bod yr
ymgeisydd yn cyflogi 3 swyddog diogelwch tra mae’r
canllawiau yn nodi 1 i bob 100 o bobl felly roedd hi’n mynd tu
hwnt i’r gofynion;
·
O ran y digwyddiad ar 1 Tachwedd 2015, nid oedd staff wedi gweld y digwyddiad ac nid oedd yr
ymgeisydd yn ymwybodol ohono tan yn hwyr ar
3 Tachwedd;
·
Nad oedd y dioddefwr wedi gadael i
staff wybod am y digwyddiad
felly ni chynigwyd cymorth cyntaf;
·
O ran y cwyn sŵn, bod yr ymgeisydd yn
cyflogi DJ profiadol;
·
Bod nifer
o eiddo trwyddedig ar agor tan 02:00 neu 03:00 a byddai gofyn i’r digwyddiad
ddod i ben yn gynt yn
amharu ar economi nos Bangor;
·
Bod angen
i Iechyd yr Amgylchedd fod
yn deg a gweithio efo busnesau
o’r math yma;
·
Bod polisi cyffredinol ym Mangor i
beidio â gadael pobl i mewn
i eiddo trwyddedig
ar ôl 01:00 ac roedd yr ymgeisydd
yn cytuno i weithredu yn
y modd yma;
·
Nad oedd yn angenrheidiol
i eiddo trwyddedig
ymuno â Pubwatch ond fod yr
ymgeisydd yn mynd i ymaelodi;
·
Yr angen i’r heddlu a’r ymgeisydd
i gyd-weithio.
Holodd asiant
yr ymgeisydd ei dystion yng
nghyswllt y system TCC a’r digwyddiad ar 1 Tachwedd 2015. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau ac fe
ymatebodd y tystion.
Rhoddwyd cyfle i asiant yr ymgeisydd
holi'r ymgeisydd a nododd ei bod yn
ymgeisio am TENS er mwyn cynnal digwyddiadau gan na allwyd trosglwyddo’r
drwydded eiddo i’w henw gan
fod cyn-berchennog y drwydded wedi mynd
yn fethdalwr. Nododd y gwnaed cais am drwydded lawn ar gyfer y dyfodol.
Tynnodd y Rheolwr Trwyddedu sylw at y ffaith nad oedd y bocs darparu adloniant wedi ei reoleiddio o dan y pennawd gweithgareddau trwyddedig wedi ei dicio ar y ffurflen gais. Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd ei fod angen ei dicio, ac oddi wrth y gwrthwynebwyr fod eu sylwadau wedi eu paratoi ar sail fod yr ymgeisydd wedi gofyn am adloniant yn y tri chais, ac fe gytunwyd i ystyried y cais gan gynnwys yr anghenion yma.
Dogfennau ategol: