Agenda item

Creu safle carafanau teithiol ar gyfer 11 uned teithiol ynghyd a gosod bloc toiledau a tirlunio.

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Pughe Roberts

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD - caniatau gydag Amodau

 

1.            5 mlynedd.

2.            Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig ac adroddiadau arbenigol.

3.            Cyfyngu’r niferoedd i 11 uned deithiol

4.            Tymor gwyliau / lleoli

5.            Cyfyngu'r unedau i ddefnydd gwyliau.

6.            Dim storio unedau teithiol ar y safle

7.            Bioamrywiaeth

8.            Cyfyngu i’r tymor gwyliau.

9.            Cadw cofrestr.

10.         Dim torri coed, gwrychoedd neu glirio llystyfiant o fewn tymor nythu.

11.         Cytuno/rheoli goleuo.

12.         Cytuno manylion clawdd.

13.         Cytuno manylion uned ymolchi cyn ei gosod ar safle

14.         Tirlunio

15.         Cynnal tirlunio

16.         Darparu Cynllun Gwella Bioamrywiaeth

17.         Dim clirio y tir yn y gaeaf yn ystod tymor cysgu ymlusgiaid

 

Nodyn Tir Halogedig

 

Cofnod:

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu maes carafanau teithiol i leoli 11 uned deithiol ynghyd a gosod cwt bugail fel adnodd ymolchi.

 

Eglurwyd bod yr egwyddor i  sefydlu safle carafanau teithiol wedi ei selio ym Mholisi TWR5 o’r CDLl ac y byddai datblygiadau o’r fath yn cael eu caniatáu os gellid cydymffurfio gyda’r meini prawf perthnasol. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn cae gyda gorweddiad y dirwedd ynghyd a thirlunio presennol ar y terfynau, yn creu safle sy’n weddol guddiedig.  O safbwynt mwynderau gweledol, ystyriwyd nad oedd y bwriad yn amharu’n andwyol  ar naws a chymeriad cefn gwlad y tirlun lleol sydd wedi ei ddynodi yn Ardal Tirwedd Arbennig.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl ni ystyriwyd y byddai’r defnydd bwriededig yn creu mwy o sŵn ac aflonyddwch yn sylweddol fwy na’r amgylchiadau presennol o gofio bod lleoliad y safle wrth gefnffordd brysur a’i leoliad ger Canolfan Grefftau Corris. Derbyniwyd sylwadau'r Uned Drafnidiaeth ac Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cynllun diwygiedig.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth ystyriwyd bod y bwriad yn golygu defnyddio tir sydd wedi ei adennill ac nad oes defnydd i’r tir ar hyn o bryd. Cyfeiriwyd at yr adroddiad coed oedd yn datgan bod y datblygiad wedi ei ddylunio yn ofalus er mwyn cadw'r sgrin bresennol o amgylch y safle gyda’r bwriad i wella'r sgrin yma gyda phlannu ychwanegol ar hyd y terfynau.

Amlygwyd nad oedd gwrthwynebiad i'r cynnig hwn gan yr Uned Bioamrywiaeth cyn belled â bod mesurau yn cael eu cymryd i osgoi niwed i rywogaethau a bod y safle'n cael ei reoli i greu gweirglodd blodau gwyllt. Nodwyd bod mesurau lliniaru wedi eu gosod yn yr adroddiad ecolegol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

 

·         Bod Canolfan Grefftau Corris yn atyniad twristiaeth hir sefydlog

·         Bod y cais dan sylw yn gyfle i arall gyfeirio gan ddarparu cyfleuster bychan ar gyfer 11 uned deithiol gan sicrhau hyfywdra a diogelu dyfodol i’r ganolfan grefftau

·         Bod yr ymgeisydd wedi derbyn nifer o geisiadau am ddarpariaeth o’r fath. Byddai’r cyfleuster yn caniatáu i ymwelwyr i’r ganolfan aros ymlaen am ychydig o ddyddiau i fwynhau’r hyn sydd gan y ganolfan i’w gynnig ynghyd a’r ardal o’i gwmpas

·         Bod bwriad i gadw coed y terfyn a chreu sgrin ychwanegol

·         Yn gyfle i greu ffynhonnell incwm ychwanegol, sicrhau cyflogaeth ac yn adnodd sydd ei angen yn yr ardal - yn cyfrannu at yr economi leol ac yn fodd o gefnogi busnesau eraill lleol

·         Wedi cydweithio yn agos gyda’r Adran Cynllunio; wedi defnyddio ymateb i sylwadau’r cyfnod ymgynghoriad i sicrhau dyluniad a chynllun addas

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·        Ei fod yn gefnogol i’r cais

·        Bod galw am y math o gyfleuster yn yr ardal

·        Y byddai’n creu incwm ychwanegol i’r Ganolfan Grefftau

·        Yn gyfle i’r busnes arall gyfeirio

 

ch)  Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·        Y byddai’r cyfleuster efallai yn atal pobl rhag defnyddio'r culfannau parcio i aros dros nos

·        Yn croesawu’r defnydd o sgrin a thirlunio ychwanegol fel nad yw yn ymwthiol i’r  tirlun ac yn weledol i drigolion y pentref

·         Nad yw un gawod ac un toiled yn gyfleuster digonol ar gyfer y safle

·         Bod caniatáu safle ar gyfer unedau teithiol yn ychwanegu at dagfeydd yn yr ardal – dim angen mwy o safleoedd – angen ail edrych ar y polisïau

·         Cyfyngiad gwyliau – gwyliau yn cael ei gymryd trwy’r flwyddyn erbyn hyn

                  

dd) Mewn ymateb i sylw ynglŷn â nifer toiledau a chawodydd, amlygwyd mai cyfrifoldeb yr Uned Trwyddedu fydd penderfynu os nad yw’r ddarpariaeth yn ddigonol.

 

PENDERFYNWYD: caniatáu y cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig ac adroddiadau arbenigol.

3.         Cyfyngu’r niferoedd i 11 uned deithiol

4.         Tymor gwyliau / lleoli

5.         Cyfyngu'r unedau i ddefnydd gwyliau.

6.         Dim storio unedau teithiol ar y safle

7.         Bioamrywiaeth

8.         Cyfyngu i’r tymor gwyliau.

9.         Cadw cofrestr.

10.       Dim torri coed, gwrychoedd neu glirio llystyfiant o fewn tymor nythu.

11.       Cytuno/rheoli goleuo.

12.       Cytuno manylion clawdd.

13.       Cytuno manylion uned ymolchi cyn ei gosod ar safle

14.       Tirlunio

15.       Cynnal tirlunio

16.       Darparu Cynllun Gwella Bioamrywiaeth

17.       Dim clirio'r tir yn y gaeaf yn ystod tymor cysgu ymlusgiaid

 

Nodyn Tir Halogedig

 

Dogfennau ategol: