Agenda item

YSGOL ABERSOCH

Cyflwynwyd gan:Cyng / Cllr Paul Rowlinson

Penderfyniad:

Penderfynwyd na ddylid addasu penderfyniad gwreiddiol  y Cabinet a wnaethpwyd ar y 15 Medi 2020 i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn  Bach o 1 Medi 2021 ymlaena mabwysiadu hyn fel penderfyniad terfynol.

Cofnod:

YSGOL ABERSOCH

 

Cyflwynwyd gan Cyng. Paul Rowlinson

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd na ddylid addasu penderfyniad gwreiddiol  y Cabinet a wnaethpwyd ar y 15 Medi 2020 i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn  Bach o 1 Medi 2021 ymlaena mabwysiadu hyn fel penderfyniad terfynol

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad yn gan nodi fod yr eitem yn dod yn ôl i’r Cabinet yn dilyn penderfyniad gan aelodau Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i alw mewn y penderfyniad a wnaethpwyd i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch. Rhoddodd Gadeirydd y Pwyllgor Craffu’r rhesymeg a’r cefndir y tu ôl i benderfyniadau’r Pwyllgor Craffu ynghyd a manylion y bleidlais yn y pwyllgor. 

 

Ychwanegodd yr Aelod Lleol o ganlyniad i’r pandeimig nad yw’r cyfnod sydd i ddod yn gwbl glir o ran cyfyngiadau pellach. O ganlyniad i nododd na fydd cyfle i bawb yn y gymdeithas fod yn rhan o’r ymgynghoriad. Pwysleisiwyd y buasai cau’r ysgol yn  golygu colli adnodd yn y gymuned ac yn risg i addysg plant, yr iaith a diwylliant yr ardal. Nododd fod cynnal yr ymgynghoriad yn anghyfiawn ac annheg. Gofynnwyd i’r Cabinet i ohirio’r ymgynghoriad am flwyddyn fel bod modd gobeithio i drafod mewn cyfarfodydd wyneb i wyneb. Holwyd os oedd yn deg parhau oherwydd sefyllfa gyda’r Pennaeth o’r ysgol ar hyn o bryd ac yn amhosib i Lywodraethwyr roi arweiniad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Aelod Lleol am roi’r sefyllfa bresennol. Mynegodd fod yr adran wedi bod yn gwbl barchus am sefyllfa’r Pennaeth gan nodi fod y trafodaethau wedi ei ohirio unwaith yn barod. Ychwanegwyd o fewn y Ddeddf nad oes rôl statudol i Benaethiaid o fewn yr ymgynghoriad.

 

Amlygodd y Swyddog Addysg y broses gan nodi fod trafodaethau anffurfiol wedi ei gynnal a bellach yn symud ymlaen i’r ymgynghoriad statudol. Mynegwyd y bydd sesiynau yn cael eu cynnal yn rhithiol, ond bydd sesiynau yn cael ei gynnig, os galw yn codi dros y ffon i ofyn unrhyw gwestiynau. Pwysleisiwyd y bydd angen i unrhyw ymatebiad i’r ymgynghoriad ei gyflwyno yn ysgrifenedig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Cydymdeimlwyd gyda’r pryderon o wneud ymgynghoriad yn ystod y cyfnod sydd ohoni. Holwyd os oes unrhyw oblygiadau i ohirio’r ymgynghoriad. Nodwyd mai’r prif oblygiadau oedd i addysg y plant. Mynegwyd fod lefel o ansicrwydd o ran y pandemig gan nod oes pendraw ar hyn o bryd. Ychwanegwyd fod gweithdrefnau yn ei lle ar gyfer eu cynnal yn rhithiol.

¾  Pwysleisiwyd mai addysg y plant yw’r elfen bwysicaf wrth edrych ar y sefyllfa gan bwysleisio mai’r Egwyddorion Addysg sydd yn gyrru’r gwaith.

¾  Amlygwyd fod y penderfyniad i gau’r ysgol heb ei wneud eto ac mai penderfyniad i fynd i ymgynghoriad sydd wedi ei wneud. Tanlinellwyd tra’n deall dymuniad bobl i gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb i drafod byddai angen i unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad fod yn ysgrifenedig.

¾  Holwyd os yw’r adran yn gwbl sicr y bydd modd i bawb allu cyfrannu a’r ymgynghoriad. Nodwyd y bydd yr adran yn gwneud pob ymdrech i gael cyfraniad gan bawb sydd eisiau cyfrannu. Ychwanegwyd gyda’r sylwadau sydd wedi ei derbyn yn barod y bydd yr adran yn cysylltu â hwy yn uniongyrchol i holi os ydynt yn fodlon i’r sylwadau gael ei defnyddio yn yr ymgynghoriad.

¾  Nodwyd fod y wlad bellach mewn pandemig ers misoedd ac os yn gohirio am flwyddyn, nid oes modd gwarantu na fyddwn yn yr un sefyllfa ymhen blwyddyn. Pwysleisiwyd fod modd i bawb gymryd rhan a mynegwyd fod rôl yr aelod lleol am fod yn ganolbwynt i’r ymgynghoriad i sicrhau y bydd llais pawb yn cael ei glywed. Nodwyd ei bod yn ofynnol i symud ymlaen a’r penderfyniad.

¾  Mynegwyd yr angen i gadw golwg ar yr ymgynghoriad a gofynnwyd i’r adran am adroddiad cyson ar sut mae’r broses yn symud yn ei blaen.

 

Yn dilyn pwyso a mesur yr hyn a amlygwyd gan y Pwyllgor Craffu, arweiniad swyddogion  a’r rhesymau am y penderfyniad gwreiddiol nid oedd y Cabinet yn ystyried bod y materion a godwyd yn  cyfiawnhau  addasu'r penderfyniad gwreiddiol.

Dogfennau ategol: